|
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r them�u hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Lleolir y tirwedd mynyddig anghysbell hwn ar lethrau gorllewinol
Mynyddoedd y Berwyn sy�n rhannu Gogledd Cymru
oddi wrth y Canolbarth yn ffisegol ac yn weledol.
Mae�r ardal yn cynnwys lleiniau o diroedd pori rhostir
tonnog i�r de ddwyrain o ddyffryn Dyfrdwy, sy�n edrych
dros Landrillo a massif Eryri draw yn y gorllewin.Ar ochr
ddwyreiniol yr ardal,mae esgair ganol Mynyddoedd y Berwyn
yn cyrraedd 827m o uchder uwchben SO yng nghopaon
Cader Berwyn a Moel Sych,ond tua�r gorllewin mae�r tir
yn graddol ddisgyn mewn cyfres o esgeiriau i tua 350�450m
uwchben SO, cyn disgyn yn serth i Gwm Pennant sy�n ffinio
�r ardal i�r gorllewin.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf,mae cyfuniad o ffotograffau
o�r awyr a gwaith maes archaeolegol wedi datguddio
olion tirwedd amaethyddol hanesyddol mewn cyflwr da,sy�n
cynnwys ardaloedd eang o gyfundrefnau caeau sy�n ymestyn
am fwy na 3km uwchben Cwm Pennant.Credir bod cloddiau,
ffosydd,amgaeadau ac aneddiadau y cyfundrefnau caeau hyn yn
tarddu o�r cyfnod cynhanesyddol a�r Canol Oesoedd.Yn raddol,
mae gwaith maes yn datguddio patrwm cymhleth o aneddiad
a ffermio a gellir gweld nifer o derasau llwyfan,sy�n aml yn digwydd
mewn parau ac sydd � gweddillion sylfeini cerrig,
sy�n cynrychioli�r �ty� a�r beudy� fwy na thebyg,ar derfynau
caeau a marchgaeau cysylltiedig.Efallai bod pob cymhlethfa yn
cynrychioli fferm fach deuluol o�r oesoedd canol.Gosodwyd
y patrwm hwn dros olion cyfnod cynharach o ddefnydd tir,
a gynrychiolwyd gan garneddau carreg a sylfeini cytiau cerrig
crwn,sydd yn perthyn i Oes yr Efydd fwy na thebyg.Er y
credir bod y patrwm yma eto yn cynrychioli ffermydd bach
teuluol,gwahenir y ddau gyfnod gan o leiaf 2000 o flynyddoedd
o hanes.Mae�r tir pori wedi�i wella yn yr ardal hon yn
ystod yr hanner can mlynedd diwethaf gan guddio rhai o�r
nodweddion,ond mae sawl ffin gyfoes yn dilyn llinellau eu
rhagflaenwyr. Mae�r amrywiaeth eang o waith cloddiog a strwythurau
cerrig a oroeswyd yn gwneud y tirwedd hwn yn ffynhonnell
archaeolegol bwysig ar gyfer astudiaeth bellach.
Yng nghanol yr ardal,yn esgair Cefn Penagored
sy�n ymestyn i�r dwyrain rhwng Nant Cwm Tywyll a Nant
Esgeiriau,ceir olion cyn-gyfundrefnau caeau cynhanesyddol,
sy�n cynnwys cloddiau cerrig isel ynghyd � sawl cylch cwt.
Mae�r ardal hon yn cynnwys tirwedd o gaeau,cytiau a aneddiadau
eraill o Oes yr Efydd sy�n hynod o gyflawn.Mae�r ardal
hefyd yn cynnwys elfennau o dirwedd cynhanesyddol ysbrydol
gan ei fod yn cynnwys cylch bychan o gerrig a nifer o garneddau
claddu a meini hirion.Ceir grw� p llai,ond sydd yr un mor
bwysig, o garneddau claddu ar ymylon gogleddol yr ardal ym
Moel Ty� Uchaf,tra ceir grwpiau eraill mewn safleoedd amlwg ar
gopaon lleol ac ar hyd brig yr esgair ganol i�r dwyrain.
Mae un ardal fechan rhwng dwy nant,Nant Cwm Tywyll a
Chlochant wedi llwyddo i osgoi gwelliannau diweddar. Mae
Ffridd Camen yn ardal yn y tirwedd o lethrau graddol sy�n
cynnwys tystiolaeth wedi�i gadw�n dda o amaethu canoloesol
yr ardal.Mae olion clawdd sylweddol,sydd � wyneb carreg
mewn mannau,yn rhannu�r tir caregog i�r dwyrain a�r tir
amaeth i�r gorllewin a gliriwyd o gerrig ac a rannwyd yn stribedi.
Y tu �l i�r clawdd ceir olion dau dy� hir a ffald gerrig.
Ymddengys felly bod Ffridd Camen wedi cynnal fferm hunangynhwysol
yn ystod y Canol Oesoedd:ceid caeau a gliriwyd o
gerrig ar y llethrau is ac yn �l pob tebyg adeiladwyd y clawdd
mawr i gadw stoc rhag crwydro i�r ardal a amaethwyd, gyda�r
ffermdy yn edrych dros
y cyfan.Mae�n debygol bod yr enghraifft hon yn cynrychioli�r
patrwm cyffredinol o�r defnydd o dir ar lethrau gorllewinol
Mynyddoedd y Berwyn yn ystod y Canol Oesoedd.Gellir
gweld olion hen stribedi a amaethwyd,sy�n gorgyffwrdd �r
rhostir mynyddig,o fewn yr ardal gyffredinol o hyd.Amlinellir
y rhain gan gloddiau isel o bridd a cherrig a cheir nifer o garneddau
clirio arnynt.
Er bod y gwelliannau modern wedi lleihau�r nifer o elfennau
hanesddyddol sydd wedi goroesi ar dirwedd Mynyddoedd
y Berwyn yn sylweddol,mae�r ardal hon yn dal i gynrychioli
un o�r tirweddau cadwedig gorau o�i fath yng Nghanolbarth
Cymru.Mae�r nifer hynod uchel o nodweddion cynhanesyddol
sy�n deillio o weithgareddau ffermio a defodol,ynghyd � goroesiad
tystiolaeth o ffermio ac aneddiad diweddarach,
sydd yr un mor drawiadol,yn yr ardal gymharol fechan hon
yn ei gwneud yn enghraifft brin a phwysig o dirwedd hanesyddol
Cymru.
|