|
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r them�u hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Nodir terfynau�r tirwedd cynwysedig hwn gan geunant yr Afon
E lwy wrth iddo amgy l c hy nu Cefn Meiriadog, esgair isel ar ymy l o n
dwyreiniol Bryniau�r Rhos yng ngogledd Sir Ddinbych,ac fe�i l l eolir
i�r de orllewin o Lanelwy ar ochr orllewinol Dyffryn Clw y d .
Mae llawr cul y dyffryn yn esgyn yn raddol o tua 30m uwchben
SO yn y dwyrain i tua 50m uwchben SO yn y gorllewin,tra bod
ei lethrau coediog trwchus yn esgyn yn serth neu yn glogwynog
mewn mannau wrth iddynt dorri drwy�r bryniau a�r esgeiriau
isel o amgylch sydd tua 100 a 150m uwchben SO.
Mae�n debyg y ffurfiwyd y dyffryn gan wyriad rhewlifol yr
Afon Elwy, o bosibl yn ystod y cyfnod Pleistoseniadd Canol,
cyn 250,000 mlynedd yn �l.Ceir sawl clogwyn calch serth
ar hyd ochr gogledd ddwyreiniol y dyffryn ac mae�r ardal o
amgylch Cefn yn cynnwys un o�r grwpiau o ogof�u Palaeolithig
a diweddarach a�r llochesau dan graig pwysicaf ym Mhrydain
sy�n cynnwys gwaddodion daearegol ac archaeolegol
Cwaternaidd o bwys rhyngwladol.Mae�r ogof�u yn cynnwys
Pontnewydd,Cefn,Cae Gronw, Galltfaenan a Brasgyll.
Erbyn y 1530au roedd yr ogof�u yn nyffryn Elwy eisoes
yn enwog ac fe�u nodir gan yr hynafiaethwr John Leland ar
ei daith o 1536�39,ond nid archwiliwyd adnoddau cudd eu harwyddoc�d
archaeolegol tan 1830,pan ymwelodd y Parchedig
Edward Stanley (Esgob Norwich yn ddiweddarach) � Hen Ogof
Cefn a nododd �human as well as animal bones,together with
stags horns,and I believe, some remains of ancient weapons,
have been found�.Daliodd Stanley ati i archwilio Ogof Newydd
Cefn,gan wneud canfyddiadau tebyg,ac erbyn yr 1870au roedd
yr Athro Boyd Dawkins,anthropolegydd ac archaeolegwr amlwg
iawn yn Oes Fictoria, wedi hysbysu�r darganfyddiadau yn nwy
ogof y Cefn,ac ym Mhontnewydd,ble daeth ymchwiliadau gan
yr Athro McKenny Hughes o hyd i lawer o weddillion anifeiliaid
a gweddillion dynol ac offerynnau cerrig cysylltiedig.
Mae�r ogof ym Mhontnewydd,sydd wedi dod yn enwog yn
ddiweddar yn sg�l canfod gweddillion Neanderthaliaidd yno, yn
cynrychioli�r safle mwyaf gogledd orllewinol o�r cyfnod hwn
sy�n hysbys yn Ewrop, rhai o�r gweddillion dynol cyntaf yn
Ynysoedd Prydain a�r preswyliad cyntaf sy�n hysbys yng
Nghymru. Mae gwaith cloddio yn yr ogof gan Amgueddfa
Genedlaethol Cymru o�r 1970au i�r 90au wedi canfod amrywiaeth
eang o arteffactau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ac, yn
bwysicaf oll,dannedd dynol a darnau o esgyrn sawl unigolyn
sy�n dangos bod yr hil ddynol yn defnyddio�r ogof hon tua
chwarter miliwn o flynyddoedd yn �l.
Mae�r gyfres o waddodion yr ogof a oedd yn cynnwys y dystiolaeth
bwysig a diddorol hon yn gymhleth,ond ymddengys
bod preswyliad yn yr ogof ar ddiwedd y cyfnod cynhesach,neu
ar ddechrau�r rhan oer ddilynol yn ystod Oes yr I�.Dyddiwyd y
gwaddodion yn wyddonol i rywbryd tua 225,000 mlynedd yn �l.
Mae estyniadau ac enciliadau eraill o i� wedi ailfodelu topograffeg
y dyffryn,ac mae canlyniadau�r cloddio yn awgrymu bod
safle wyneb y graig a cheg yr ogof ar adeg y preswyliad gryn
dipyn ymhellach ymlaen na�u safle presennol.Buasai�r rhan fwyaf
o dystiolaeth am breswyliad y safle wedi diflannu o ganlyniad i
hindreuliad wyneb y graig,yn enwedig tystiolaeth o geg yr ogof,
ond beth bynnag ymddengys y cafodd y gwaddodion a ganfuwyd
yn y rhan o�r ogof sydd wedi goroesi eu hysgubo i mewn fel
dylifiadau mwd ac yn ffodus fe ddygodd ac fe warchododd ddeunydd
gweddilliol a oedd yn deillio o breswyliad y safle.
I�r gogledd o Ogof Pontnewydd,ceir olion cyfundrefnau
caeau o�r Canol Oesoedd ar ffurf glasleiniau sydd yn rhoi arlliw
o economi amaethyddol canoloesol yr ardal,ac yng nghysgod
y llethr coediog yn union uwchben llawr y dyffryn i�r
dwyrain ceir adfeilion ffynnon sanctaidd ganoloesol a chapel y
Ffynnon Fair sy�n dystiolaeth o fywyd cyfoes crefyddol yr
ardal.
Mae�r dyffryn heddiw yn cyflwyno tirwedd o ddiddordeb
hanesyddol cydlynus,ac er ei fod yn fach o�i gymharu �r
ardaloedd tirwedd eraill a nodir yn y Gofrestr hon,mae�n syndod
o gyflawn,oherwydd yn ogystal �r dystiolaeth archaeolegol
gynnar bwysig iawn a geir yn yr ogof�u,mae ffurfiau�r tir eu
hunain yn darparu�r allwedd i ddehongli hanes gwaddodol hir
yr ardal ynghyd � rhoi cipolwg pryfoclyd o amgylchedd y
preswylydd cyntaf o Gymru.
|