|
Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mynydd Hiraethog
Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r them�u tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
|
Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog
|
Mae Mynydd Hiraethog ym mhen gogleddol Mynyddoedd y
Cambria ac mae�n cwmpasu rhannau mynyddig darnau eang a
naturiol o dir i�r de, rhwng prif ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd
a Chonwy yng Ngogledd Cymru.Mae�n ardal llwm ac anial o
rostir tonnog sydd,ar y cyfan rhwng 400 a 500m uwchben SO,
ond sydd � sawl dyffryn yn torri ar draws yr ochrau gogleddol
a dwyreiniol gan dreiddio i�r craidd mynyddig. Fodd bynnag,
rhannau gogleddol a gorllewinol y massif yn unig yw�r
ardaloedd a ddisgrifir yma fel tirwedd sydd yn cynnwys goroesiad
trwch di-dor o rostir grug,sydd yn brin iawn yng
Nghymru,a reolwyd ac a gynhaliwyd yn fwriadol fel rhostir
ceiliog y mynydd a stad saethu ar ddechrau�r 20fed ganrif.
Cafodd ei ddethol i beidio � chynnwys y rhan fwyaf o�r rhan
ddwyreiniol sy�n cynnwys planhigfeydd coedwigaeth helaeth
sy�n rhan o Fforest Cloclaenog,a oedd yn wreiddiol yn ymdebygu
ac yn barhad i�r ardal a ddisgrifir yma.
Mae�r tirwedd rhostir hwn, fel sawl ardal fynyddig
arall yng Nghymru wedi tarddu o econom�au ucheldir
Neolithig ac Oes yr Efydd neu,yn �l dehongliadau o dystiolaeth
archaeolegol o rannau eraill o Brydain,sydd
hwyrach a�i wreiddiau yn y cyfnod Mesolithig blaenorol,
pryd yr awgrymir i ardaloedd rhostir gael eu llosgi a�u
clirio�n fwriadol ar gyfer hela.Newidiodd tirwedd cynhanesyddol
yr ucheldiroedd wedi hynny wrth iddynt gael
eu defnyddio ar gyfer pori yn yr haf dros sawl tymor, arfer
a oedd yn seiliedig ar aneddiadau dros dro yn ystod yr haf
neu�r hafodau a leolwyd yn y dyffrynnoedd neu ar hyd ymylon
y rhostir. Ar adegau o orboblogi neu well hinsawdd,hwyrach
y preswyliai pobl ar rai o�r safleoedd hyn yn barhaol,ac yn
sicr ceid aneddiadau parhaol mewn hafodydd yn ystod y cyfnod
�l-ganoloesol.Roedd llawer o dori mawn yn digwydd yn yr
ardal yn ystod y ganrif ddiwethaf,a gwelir olion toriadau a
thomenni sychu o hyd,ynghyd � gweddillion y ffermydd
�l-ganoloesol a oedd yn ymelwa ar y mawn.
Ar Fynydd Hiraethog,diflannodd y tirwedd cynharaf hwn
yn ei dro, a bellach gwelir olion trefn o reoli rhostir grug a
osodwyd arno ar ddechrau�r 20fed ganrif.Tra bod y tirwedd
hwn yn greadigaeth gymharol fodern,mae�r ehangder di-dor
sydd wedi goroesi yn dal i fod yn brin yng Nghymru ac felly o
werth hanesyddol;mewn mannau eraill gwaredwyd y rhostir
grug a fu o dan reolaeth i geiliogod y mynydd yn ystod y 50
mlynedd diwethaf.
Mae ehangder y tirwedd a nodir yma wedi ei ddewis i gynnwys
y rhannau hyn o rostir grug sydd wedi goroesi a hefyd i
adlewyrchu darnau o dir sydd wedi goroesi na fuont o dan y
fath reolaeth ac sydd y tu allan i�r gyfundrefn.Mae llawer o hyn
wedi goroesi oherwydd creadigaeth stad saethu gan Is-Iarll
Devonport rhwng 1908 a 1925.Wedi�u gwasgaru dros ran
helaeth o�r ardal mae olion ffosydd targedau a chysgodfannau
o gerrig sychion ynghyd � waliau caeau,arwyddion ffiniau a
gwaith cloddiog sy�n dyddio o�r cyfnod hwn fwy na thebyg.
Mae�r ardal hefyd yn ymfalch�o mewn adfail o gaban hela yng
Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym
Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym
1908�11 ar gyfer part�on hela.Tybir mai�r adeilad hwn, a
gymerodd le bwthyn pren cynharach a fewnforiwyd o Norwy,
ac sy�n dal i gael ei adnabod fel y Plas Pren,oedd y ty� preswyl
uchaf yng Nghymru gyda�r golygfeydd ehangaf ym Mhrydain.
Mae�r adfeilion yn dirnod amlwg o hyd y gellir eu gweld ar
draws yr ardal o sawl cyfeiriad.
Ar ben pob un o�r copaon lleol ceir grwpiau o garneddi
claddu o Oes yr Efydd sydd bellach wedi eu gorchuddio gan
y tirwedd cyfoes ac sydd yn �l pob tebyg,yn dystiolaeth o
weithgaredd ehangach yn y cyfnod hwn.Ni cheir tystiolaeth
o aneddiadau cysylltiedig,er y canfuwyd grwpiau o aneddiadau
diweddarach o fath cynhanesydddol a gloddiwyd yn archaeolegol
yn ddiweddar yn ardal ddwyreiniol Hiraethog
na chaiff ei gynnwys yma.Canfuwyd llawer o fflint gweithiedig
yn dyddio o�r cyfnod Mesolithig i Oes yr Efydd o amgylch
ardal cronfa ddw� r Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Mae cronfa ddw� r y Brenig,a adeiladwyd rhwng 1973 a
1976,a�r goedwigaeth o�i hamgylch,sydd hefyd yn cynnwys
nifer o safleoedd Oes yr Efydd ac �l-ganoloesol,yn goruchafu�r
tirwedd o�r de. Cafodd sawl cofadail a oedd yn agos i�r gronfa
ddw� r neu a foddwyd ganddi,eu cloddio cyn adeiladu�r gronfa,
ac ailadeiladwyd sampl ohonynt fel rhan o lwybr neu daith
archaeolegol.Mae rheoli adnoddau dw� r hefyd yn thema ac yn
swyddogaeth bwysig yn y rhan o ardal Hiraethog y sonnir
amdani yma,gan fod y tirwedd yn cynnwys crynhoad dw� r
cronfa ddw� r Alwen a adeiladwyd yn gynharach rhwng 1911
a 1916 i gyflenwi dw� r i Gorfforaeth Penbedw, ynghyd � chronfeydd
dw� r llai Llyn Aled a Llyn Aled Isaf a adeiladwyd yn
y 1930au i gyflenwi dr i gyrchfan gwyliau y Rhyl ar yr arfordir.
Yr Amglychedd Naturiol
Tirweddau Gweinyddol
Tirweddau Anheddiad
Defnydd Tir
Trafnidiaeth a Chyfathrebu
Tirweddau Diwydiannol
Llynnoedd, Cronfeydd dwr a Phyllau
Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Cadwraeth a Hamdden
Ardaloedd cymeriad
|
1099 Moel Maelogen ardal cymeriad.
Porfeydd amgae�dig wedi�u gwella ar ymyl ogledd-orllewinol Mynydd Hiraethog, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau�r 19eg ganrif.
Photo: CPAT cs013138.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1100 Ffrithuchaf
ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amg�u ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, yn tremio dros Wytherin a dyffryn serth Afon Cledwen.
Photo: CPAT 01c215.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1101 Fawnog-fawr
ardal cymeriad.
Rhostir ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, wedi ei rannu yn amgaeadau mawr amlochrog ar ddiwedd yr 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Photo: CPAT 01c214.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1102 Creigiau Llwydion
ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amg�u ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, ynghyd � mannau unigol fu�n gorgyffwrdd �r rhostir ers y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach.
Photo: CPAT 01c211.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1103 Cronfa ddwr Aled Isaf ardal cymeriad.
Cronfa fodern y mae Afon Aled yn ei bwydo mewn dyffryn ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog.
Photo: CPAT 01c177.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1104 Llyn Aled ardal cymeriad.
Llyn uwchdirol naturiol wedi ei ymestyn yn gronfa ddwr ar ddechrau�r 20fed ganrif yng nghanol ardal rostirol Mynydd Hiraethog.
Photo: CPAT 01c182.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1105 Llyn Alwen ardal cymeriad.
Roedd yr ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas).
Photo: CPAT 01c183.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1106 Moel Rhiwlug ardal cymeriad.
Rhostir grugiog wedi ei rannu yn gaeau amlochrog ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Rheolid ef fel rhan o stad saethu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac mae henebion angladdol cynhanesyddol wedi eu gwasgaru yma a thraw, a thystiolaeth o anheddu tymhorol yn yr oesoedd canol ac wedi hynny.
Photo: CPAT 01c217.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1107 Moel Bengam ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amg�u, tir comin, corlan, carnedd gron fawr, nodau ffiniau ar ffin y plwyf a phorthdy saethu adfeiliedig o�r cyfnod Edwardaidd.
Photo: CPAT 01c190.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1108 Tan-y-graig
ardal cymeriad.
Ffermydd �l-ganoloesol gwasgaredig yn gorgyffwrdd �r rhostir ar lethrau deheuol cysgodol gan edrych tuag at ymyl ddeheuol y rhostir, peth tir wedi�i ddraenio a�i wella, a phlanhigfeydd conifferaidd bychain.
Photo: CPAT 01c168.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1109
Sportsman�s Arms ardal cymeriad.
Amgaead o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau�r 19eg ganrif ar hen dir comin a chan gynnwys tafarn ar hyd yr hen ffordd dyrpeg o'r 19eg ganrif ar ymyl ogleddol y rhos.
Photo: CPAT 01c192.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1110
Bryn-y-gors-goch ardal cymeriad.
Planhigfa coedwig gonifferaidd fodern dros dirwedd ganoloesol a hwyrach sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig � chyfundrefnau caeau cysylltiedig a chwareli cherrig.
Photo: CPAT 01c156.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1111
Cronfa Ddwr Alwen ardal cymeriad.
Cronfa ddwr gynharach o�r 20fed ganrif ar dirwedd wedi ei hamg�u o�r canol oesoedd a chyfnod cynharach.
Photo: CPAT 01c170.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1112
Cronfa Ddwr Brenig ardal cymeriad.
Cronfa ddwr fawr o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn dyffryn llydan tuag ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, ar ben tirwedd ganoloesol a diweddarach a oedd yn cynnwys ffermydd a chaeau.
Photo: CPAT 01c152.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
1113
Maen-llwyd ardal cymeriad.
Rhostir grug � pheth glaswelltir wedi�i wella, wedi�i rannu�n rhannol yn amgaeadau amlochrog mawr yn y 18fed/19eg ganrif, tirwedd angladdol a defodol o�r Oes Efydd, corlannau canoloesol wedi�u hamg�u, hafodydd a ffermydd canoloesol a hwyrach, llwybr archeolegol.
Photo: CPAT 01c160.
(N�l i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|