|
Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolMaelor SaesnegMae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r them�u tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae Maelor Saesneg yn cynrychioli tirwedd hanesyddol amrywiol sydd wedi�i chadw yn dda. Daw�r disgrifiad canlynol o�r Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru (Cadw 2001, 16-19), ac mae�n nodi them�u hanfodol tirwedd hanesyddol sydd i�w canfod yng nghymeriad hanesyddol yr ardal sy�n cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn yr adrannau sy�n dilyn. Yn ddaearyddol, Maelor Saesneg yw�r rhan honno o�r hen Sir y Fflint cyn 1974 i�r de ddwyrain o Afon Dyfrdwy, a adwaenid fel Sir y Fflint Ar Wah�n, ac sy�n ffinio � gorllewin Swydd Amwythig a gwastadedd De Sir Gaer. Yn dopograffaidd, nid yw�r tirwedd yn nodweddiadol o Gymru, ac ychydig iawn o ucheldir amlwg a geir, ac mae arwyneb y gwastadedd, sydd fel arall yn wastad neu ychydig yn donnog, yn adlewyrchu presenoldeb gwaddodion defnyddiau tanddaearol helaeth a adawyd ar �l Oes yr I� mewn sawl man. Mae arwyneb y gwastadedd yn disgyn, bron yn ddiarwybod, o 80m uwchben SO mewn rhai mannau ar hyd ffiniau deheuol yr ardal a ddisgrifir yma, i 15m uwchben SO ar wastadedd llifogydd yr Afon Dyfrdwy sy�n ymylu�r ardal yn y gogledd a�r gorllewin. Mae gan aneddiadau ac economi�r ardal ddyled fawr hefyd i ddylanwadau o�r tu hwnt i�r ffin yn Sir Gaer, ac yn sg�l hyn, mae cymeriad hanesyddol y tirwedd yn anghyffredin o fewn y cyd-destun Cymreig, ac yn fwy nodweddiadol o�r Gororau nag o Gymru ac yn llawer mwy Seisnig na Chymreig - fel y mae�r enw yn ei awgrymu. Yn hanesyddol, byddai�r rhan helaethaf o Maelor Saesneg wedi gostwng i batrymau tebyg o ddefnydd tir drwy rannu caeau agored yn stribedi o amgylch aneddiadau bach canoloesol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, amlygwyd gwahaniaeth rhwng economi�r gorllewin sydd yn fugeiliol yn bennaf a�r caeau �r yn y dwyrain. Mae llawer o�r tirwedd wedi newid o ganlyniad i ffermio �r, wrth i ffiniau gael eu clirio i greu caeau mwy ac wrth i aredig lefelu holl olion gwaith cloddiog y cyfundrefnau caeau blaenorol. O achos hynny, yng ngorllewin yr ardal a ddisgrifir yma y diogelwyd cywirdeb y tirwedd hanesyddol gorau. er hynny, o fewn y cyd-destun Cymreig mae�r ffaith bod cymaint o�r patrwm caeau ac amaethu canoloesol hwn wedi goroesi yn gwneud y tirwedd yn un prin a gwerthfawr iawn. Mae�r ardal yn cwmpasu nifer o aneddiadau hanesyddol sydd yn dyddio o�r cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar. Ceir trefi bach Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yn y gorllewin (wedi�i nodi fel safle posibl ar gyfer Burh Sacsonaidd, sydd yn beth prin iawn yng Nghymru) ac mae Wrddymbre [Worthenbury] ar yr ochr ogleddol; Llannerch Banna [Penley] a Lightwood Green i�r de; a Horseman�s Green a Tallarn Green i�r dwyrain. Tuedda llawer o�r aneddiadau bychain hyn i fod yn ddatblygiadau bach hirfain, wedi�u lleoli�n agos at ei gilydd ar ochr yr hyn y gellir tybio iddo fod yn rwydwaith ffyrdd blaenorol. Nodwedd llawer ohonynt yw�r tai a�r bythynnod bric coch sy�n nodweddu�r 18fed a�r 19eg ganrifoedd yn lleol. Fodd bynnag, ceir un neu ddau adeilad du a gwyn � ffr�m bren yn y rhan fwyaf o�r pentrefi, sy�n dynodi gwreiddiau cynharach, a awgrymir hwyrach gan bresenoldeb y cyfundrefnau caeau sy�n amgylchynu llawer o�r pentrefannau hyn. Eithriad i�r patrwm hwn yw Bangor Is-Coed sydd o dras llawer hyn, er bod nifer o�i nodweddion archeolegol yn debyg i adeiladau canoloesol yma ac acw o amgylch y dref ac mae pont gerrig urddasol o�r 15fed ganrif yn croesi Afon Dyfrdwy; erbyn heddiw mae�r dref yn fwyaf enwog am ei chae rasio ceffylau, yr unig un yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal �r aneddiadau hyn, ceir sawl neuadd fawreddog o ddiwedd y Canol Oesoedd megis Althrey a Hen Neuadd Llannerch Banna, ynghyd � nifer o safleoedd wedi�u hamgylchynu � ffos o ddechrau�r Canol Oesoedd, er enghraifft Halghton Lodge a Peatree Lane. Statws maenor oedd i�r rhan fwyaf o�r safleoedd a amgylchynwyd � ffos, am eu bod yn dai i arglwyddi neu i�w stiwardiaid, neu o bryd i�w gilydd yn eiddo i sefydliadau eglwysig. Mae tystiolaeth ddyddio yn dynodi i�r ffurf neilltuol hwn o aneddiad gael ei gyflwyno i�r ardal yn y 12fed ganrif gyda chynnydd yn nifer y safleoedd yn y 13eg ac ar ddechrau�r 14eg ganrifoedd, ac roeddent yn dal i gael eu hadeiladu a�u defnyddio tan y 16eg ganrif. Nid oedd unrhyw werth amddiffynnol iddynt, ac ymddengys mai eu swyddogaeth oedd datgan statws uchel eu deiliaid, ac y defnyddid y ffosydd, yn fwyaf tebygol, i gadw pysgod ac adar helai ddyfrhau�r stoc ac fel addurn. Fodd bynnag, nodwedd fwyaf neilltuol y tirwedd hwn yw ei etifeddiaeth amaethyddol ganoloesol. Patrwm defnydd y tir ar hyn o bryd yw caeau gyda gwrychoedd bach iddynt, wedi�u trefnu mewn stribedi cul yn aml, gyda llawer ohonynt wedi cadw�r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi amaeth canoloesol. Deilliodd gwaith cloddiog o�r fath o amaethu �r yn ystod y cyfnod canoloesol pan rannwyd y tir a oedd yn amgylchynu�r aneddiadau yn stribedi o fewn caeau mawr agored a g�i eu trin ar y cyd gan y pentrefwyr. Er y cr�wyd y gwrymiau a�r cwysi sydd i�w gweld heddiw drwy aredig y tir, ffurfiwyd y patrwm o gaeau amgae�dig bychan a gwrychoedd iddynt yn ddiweddarach. Gydag amser, caewyd y caeau agored i mewn, gyda ffiniau newydd y caeau yn aml yn adlewyrchu ffurf y stribedi blaenorol, gan greu�r caeau hir cul nodweddiadol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd megis y rhai i�r gogledd o Bandy Lane ac yn agos i Mulsford, mae�r patrymau amaethu �r yn fwy cymhleth ac yn aml, nid ydynt yn cyfateb � ffiniau diweddarach. Mae�r amaethu a oedd yn bennaf yn fugeiliol yn ystod canrifoedd mwy diweddar wedi ffosileiddio patrymau�r caeau sy�n cadw�r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi a�r caeau diweddarach � gwrychoedd, gan rhoi gwedd ganoloesol neilltuol i�r tirwedd. Mae llawer o�r caeau hyn yn cynnwys pyllau bach, ac er nad yw eu tarddiad na�u defnydd yn glir, gallant fod yn dyllau clai a oedd o bosibl yn darparu defnydd adeiladu ar gyfer adeiladu lleol canoloesol. Ni ddylid ystyried y cyfundrefnau caeau hyn ar eu pennau eu hunain, gan fod yr aneddiadau y maent yn perthyn iddynt yn gymaint rhan o�r tirwedd hanesyddol � hwy. Gyda�r eithriad o Fangor Is-Coed ac Owrtyn [Overton], mae�r patrwm aneddiadau yn parhau i fod yn un o bentrefi a phentrefannau cnewyllol nad ydynt wedi newid rhyw lawer ers eu tarddiadau canoloesol, sy�n ychwanegu cydlyniad a chywirdeb i gymeriad hanesyddol y tirwedd anghyffredin iawn, sydd yn dal i ffynnu ac sy�n amaethyddol yn bennaf. Them�u tirwedd hanesyddol yn Maelor SaesnegArdaloedd cymeriad
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk. |