|
Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r them�u hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae�r rhan o ddyffryn Wysg a nodir yma yn gorwedd i�r
dwyrain a�r gorllewin o Aberhonddu yn ne Powys;ardal a
ffinnir i�r de gan lethrau dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac i�r
gogledd gan odrau deheuol Mynydd Epynt.I�r dwyrain,mae
ochr orllewinol llethrau�r Mynyddoedd Du yn edrych dros y
basn bas sy�n cynnwys Llyn Syfaddan sydd wedi�i gynnwys yn
yr ardal.Mae dyffryn Wysg yn ffurfio tramwyfa nodedig sy�n
hawdd ei chyrraedd ar draws yr ardal, gyda�i lawr llydan,
gwastad yn codi�n raddol o 120m uwchben SO yn
Llansantffraid yn y dwyrain i 150m uwchben SO yn Aberbr�n
yn y gorllewin.Ar bob ochr i�r dyffryn,mae�r llethrau�n codi
i dirwedd dyranedig,tonnog o fryniau isel,esgeiriau a dyffrynnoedd
bas rhwng 150m a 300m uwchben SO.
Mae�r argraff weladwy o�r ardal wedi�i goruchafu gan y
caeau bychain � chloddiau sy�n amg�u�r tir amaethyddol
cyfoethog ar waelod y dyffryn,ac mae mewn sawl ffordd
yn olygfa nodweddiadol yng Nghanolbarth Cymru.Deillia�r
patrwm cyfoethog hwn o ddefnydd tir o�i hanes ffermio
ac aneddiad cymhleth o ffermwyr Neolithig cynnar drwy �oresgynwyr�
Rhufeinig a Normanaidd,y Saint Celtaidd,i olion
amaeth a masnach ganoloesol a diweddarach.Mae pob cyfnod
o ddefnydd tir wedi ffurfio�r tirwedd a chafodd pob un yn ei
dro ei orgyffwrdd gan a�i guddio�n rhannol gan y cyfnod a�i
olynodd.Mewn cyferbyniad bron �r parhad hwn,mae Canol
Dyffryn Wysg hefyd yn enghraifft glasurol o dirwedd Cymreig
o oruchafu, goresgyniad a newid gwleidyddol,ac mae llawer
o�r elfennau archaeolegol a hanesyddol sy�n weladwy heddiw
wedi deillio o�r ffordd y mynnodd dyn reoli�r tirwedd,nid yn
unig yn y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol a chyfnodau diweddarach,
ond hefyd yn y cyfnod cynhanesyddol.
Mae beddrod hir � siambrau claddu Neolithig Ty� Illtud yn
nodweddiadol o olion cynhanesyddol cynharach, ac mae�n go rwe
dd yn nwyrain yr ardal rhwng A b e r h o n ddu a Llyn Syfadd a n .
Mae�r beddrod megalithig 5000 mlwydd oed hwn yn cynnwys
cyfres o siambrau adeiledig o gerrig sych a orchuddiwyd
unwaith gan domen hir o bridd.Mae�r gofadail yn un o grw� p o
feddrodau tebyg ym Mannau Brycheiniog a�r Mynyddoedd Du.
Er mai cymharol brin yw�r olion o�r cyfnod pellennig hwn sydd
wedi go roesi yn y tirwe dd hwn, neu unrhyw dirwe dd arall yng
N g hy m r u , mae�r tomenni claddu cymunedol hyn yn rhoi cipolwg
difyr ar fywyd a marwolaeth y ffermwyr Neolithig a oedd yn
byw yng Nghanol Dyffryn Wysg.Yn �l traddodiad lleol defnyddiwyd
siambrau gwag Ty� Illtud yn ddiweddarach fel cell meudwy
gan Sant Illtud yn y 6ed ganrif,ac ar yr adeg honno cerfiwyd
nifer
o groesau a symbolau Cristnogol eraill ar eu muriau.
Cynrychiolir cynhanes diweddarach Oes yr Efydd gan
nifer o feddrodau crwn a charneddau claddu ar y tir uwch
sy�n edrych dros lawr cyfoethog dyffryn Wysg,sydd yn ei
dro yn cynnwys nifer o feini hirion enigmatig.
I�r gorllewin o Aberhonddu mae olion trawiadol Caer
Aberhonddu,yr enghraifft wychaf o gaer Rufeinig sydd
wedi goroesi ym Mhowys.Wedi�i hadeiladu o fewn golwg i
crug,mae�n gwarchod y ffordd Rufeinig sy�n arwain i
Orllewin Cymru o Gaerllion wrth ei chyffordd � Sarn Helen
wrth iddi ddod i lawr o Fforest Fawr i groesi�rWysg a theithio
tua�r gogledd i Ganolbarth Cymru.I�r dwyrain o Aberhonddu
mae olion yr unig fila Rufeinig ym Mhowys lle y datgelodd
gwaith cloddio yn y 18fed ganrif faddondy gwych � llawr
mos�ig.
Nid yw maint yr aneddiad Rhufeinig yn yr ardal yn hysbys,
ond does dim amheuaeth bod y Rhufeiniaid wedi efelychu
a manteisio ar y patrwm aneddiad eisioes mewn bodolaeth
a�r defnydd o�r tir y buasent wedi ei ddarganfod o amgylch
y bryngaerau mawr Oes yr Haearn yn Allt yr Esgair, Slwch
Tump, Pen-y-crug a Choed fenni-fach.
Hefyd i�r dwyrain o Aberhonddu,ger Llan-gors,mae
Llyn Syfaddan,sy�n bwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru.
Cr�wyd yr ynys fechan,neu�r grannog,a wnaed gan ddyn,
fel palas caerog gan Brychan,brenin Brycheiniog,ar ddiwedd
y 9fed ganrif ac fe�i dinistriwyd,yn �l Croniclau�r Eingl-
Sacsoniaid,yn AD 916.Mae chwedl leol yn s�n am sut mae�r
llyn yn cuddio olion dinas a reolwyd gan dywysoges greulon a
barus a gytunodd i briodi gw� r tlawd dim ond os byddai�n dod
� chyfoeth mawr iddi.Llofruddiodd y dyn fasnachwr cyfoethog
er mwyn ennill llaw y dywysoges,ond er mwyn dial,creodd
ysbryd y masnachwr storm ofnadwy a foddodd y deyrnas.Nid
yw�n hysbys pryd y dechreuodd y chwedl,ond mae�n gynharach
na�r gwaith cloddio archaeolegol cyntaf yn y grannog
ym 1850 ac mae�n atgof gwerinol difyr a sylwgar.Yn fwy
credadwy, fel canolfan frenhinol ac eglwysig bwysig ym
Mrycheiniog,gallai�r grannog fod wedi bod yn fan cyfansoddi�r
penillion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen,a ysgrifennwyd
fwy na thebyg rhwng yr 8fed a chanol y 10fed ganrifoedd,yn
ystod oes aur brenhinlin Llan-gors a Brycheiniog.Datgelwyd
olion yr ynys yn llawn drwy waith cloddio ar ddechrau�r
1990au.Llyn Syfaddan yw�r unig grannog hysbys yng Nghymru,
er ei bod yn ffurf gyffredin yn yr Iwerddon; awgrymir y cysylltiad
Gwyddelig posibl hwn gan y nifer fawr o arysgrifau Ogam
mewn eglwysi lleol.Mae gan bentrefi glan llyn Llan-gors a
Llangasty sylfeini mynachaidd Celtaidd cynnar fwy na thebyg.
Cynrychiolir gorchfygiad ac aneddiad o�r cyfnod canoloesol
yma hefyd ac mae hanes a thraddodiad yn awgrymu i�r frwydr
derfynol rhwng byddinoedd Cymreig Bleddin ap Maenarch a
byddin oresgynol Normanaidd Bernard de Neufmarch� gael
ei hymladd ger Y Batel ym 1092.Arweiniodd y fuddugoliaeth
Normanaidd at orchfygu�r boblogaeth frodorol a thwf tref
Aberhonddu.Roedd y castell cynharaf yn Aberhonddu yn un
tomen a beili,ac fe�i disodlwyd yn ddiweddarach gan gastell
o gerrig.Mae gan y dref hefyd olion priordy Benedictaidd,
a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1100,sydd,er gwaethaf iddo
gael ei adnewyddu�n sylweddol gan y pensaer Fictoraidd mawr
Syr Gilbert Scott,yn parhau i feddu ar nifer o nodweddion
diddorol,megis ffenestri pigfain Cynnar Seisnig prin a�r
adeiladau cwfeiniol o�r 16eg ganrif.Ym 1923,dewiswyd y priordy,
a oedd erbyn hynny wedi dod yn Eglwys Blwyf
Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac
Aberhonddu,a oedd newydd gael ei ffurfio, un o ddwy esgobaeth
newydd a sefydlwyd gan yr Eglwys yng Nghymru newydd,
yn dilyn ei gwahanu o Eglwys Loegr. Mae�r dref hefyd yn cynnwys
mynachlog Ddominicaidd,a sefydlwyd yn wreiddiol yn y
13eg ganrif,ac er ei bod bellach yn ysgol ac wedi cael ei newid
llawer, dyma yn �l y s�n yw�r grw� p unigol mwyaf o adeiladau
Dominicaidd sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Ffurfiodd presenoldeb y castell a'r ddau adeilad eglwysig
pwysig hyn y sail ar gyfer tref ganoloesol lewyrchus ac
erbyn y 13eg ganrif, roedd yr aneddiad wedi lledaenu i�r tir is
ar ymyl Afon Wysg,sydd bellach � phont gerrig wych drosti
sy�n dyddio o 1563, a rhoddwyd amddiffynfeydd o gerrig arni.
Er bod peth o�r ffabrig canoloesol hwn wedi goroesi mewn
mannau,heddiw prif nodwedd pensaern�aeth Aberhonddu yw
tai trefol o frics
a cherrig cain o�r 18fed a�r 19eg ganrifoedd.Yn wir, roedd
poblogaeth o 5026 yn ei gosod fel nawfed tref fwyaf Cymru
ar ddiwedd y cyfnod hwn.Mae llawer o�r bensaern�aeth ddiweddarach
hon yn parhau heb ei newid na�i difwyno
gan ddatblygiad modern,ac mae hyn,ynghyd �i gwreiddiau
canoloesol yn ased bleserus a gwerthfawr, ac un sy�n gynyddol
brin ymysg trefi eraill Cymru.Heddiw, mae Aberhonddu yn
fyd-enwog am ei Gw� yl Jas flynyddol.
Adeiladwyd Aberhonddu, fel ei rhagflaenydd Rhufeinig, i
gynnal dyffryn Wysg fel llwybr strategol i Orllewin Cymru,ac,
fel y Gaer, fe�i gwarchodir gan aneddiadau brodorol cyfnod
cynharach,megis Llanspyddid a Llanfrynach,sydd wedi�u lleoli
o amgylch ymylon y dyffryn.Enillodd un o�r aneddiadau
Cymreig cynnar hyn,Llanddew, fri yn y cyfnod canoloesol fel
safle palas Esgobion Aberhonddu.Meddiannwyd y castell
diymhongar hwn rhwng 1175�1203 gan Gerallt Gymro, sef
Archesgob Aberhonddu,a ddisgrifiodd y castell fel un a oedd
yn �well adapted to literary pursuits and the contemplation of
eternity� a dechreuodd ei daith enwog o gwmpas Cymru ar
ddiwedd y 12fed ganrif.Mae gan y pentref gasgliad trawiadol
o weithgareddau cloddiog canoloesol sy�n awgrymu ei faint a�i
bwysigrwydd yn y gorffennol.
Mae Canol Dyffryn Wysg yn enwog am ei chestyll
canoloesol,gan ei bod yn cynnwys enghreifftiau gwych o
gestyll tomen a beili cynnar arglwyddi Normanaidd y gororau,
megis
y rheini yn Aberyscir, Alexanderstone a Threberfydd,cestyll
cerrig megis Pencelli,a thy� tw� r canoloesol gwych diweddarach
yn Scethrog.Mae llawer o�r dyffryn yn dal i gadw�r cymeriad
canoloesol a gysylltir �r cadarnleoedd hyn, gyda phentrefi
bychain wedi�u cywasgu ac wedi�u hamgylchynu gan dir pori �
gwrychoedd o�i hamgylch.Enghraifft drawiadol iawn o gyfoeth
a phwysigrwydd blaenorol yr ardal hon yn ystod y cyfnod
canoloesol yw Llanfihangel Talyllyn.Gellir gweld cyn-ffiniau�r
pentref canoloesol yn glir yma, gyda gweithgareddau cloddiog
yn nodi hen strydoedd a llwyfannau adeiladau a oedd unwaith
yn llenwi bron i chwarter y pentref.Mae�r ardal hefyd yn
enwog am ei thai gwledig mawr, o�r 18fed a�r 19eg ganrifoedd,
megis Penpont a Peterstone Court,a�u stadau cysylltiedig sydd
wedi �trosargraffu� ar dirwedd eu rhagflaenwyr canoloesol ac
�l-ganoloesol cynnar megis Ty� Mawr yn Llangasty Talyllyn.
Cysylltodd datblygiad Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy (a
ddechreuwyd ym 1799,a agorwyd gyntaf ym 1801 ac ymunodd
� Chamlas Mynwy ym 1812),sy�n troelli ar hyd ymylon
deheuol yr ardal,y dyffryn ag econom�au diwydiannol ffyniannus
De Cymru.Daeth y glanfeydd a�r stordai a ddatblygwyd yn
sg�l hyn yn nherfynfa�r gamlas yn Aberhonddu yn ardal bwysig
ar gyfer masnach amaethyddol a�r diwydiant brethyn.Yn yr
1860au,disodlwyd y gamlas gan Reilffordd Aberhonddu a
Merthyr oedd yn cysylltu Aberhonddu �r Rheilffordd Great
Western yng Nghastell-nedd,trwy Ystradgynlais,yn y de ac yn
ddiweddarach i Henffordd,trwy�r Gelli Gandryll,yn y dwyrain.
Yn eironig mae�r cysylltiad gwythiennol hwn wedi hen ddiflannu
tra bod y gamlas,sydd wedi�i chroesi gan bontydd sy�n codi a phontydd cefn crwm nodweddiadol, bellach yn darparu llwybr prydferth
a phoblogaidd i dwrstiad ar hyd y dyffryn.
|