Cymraeg / English
2 40 |
|
Tirweddau Hanesyddol yng NghymruYn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi cyfrannu at waith yn edrych ar gymeriad hanesyddol yr ardaloedd a ddiffinnir gan Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru. Mae hyn yn rhan o brosiect ar gyfer Cymru gyfan a noddir gan Cadw: Welsh Historic Monuments a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac amlinellir y cefndir isod. Y gobaith yw y bydd yn bosibl ystyried pob tirwedd yn y gofrestr yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf ac yna ehangu'r gwaith i'r rhannau hynny o Gymru sydd 'heb eu cofrestru'. Mae'r dudalen ganlynol yn rhoi blas o'r gwaith a wnaed hyd yma yn ardal Clwyd-Powys. Er mwyn eu gweld, cliciwch ar y map isod neu dewiswch ardal o'r ddewislen.
Mae'r grymoedd nuturiol a'r gweithgaredd dynol a fu'n gweithredu ar y cyd dros y chwe mil o flynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at y broses o gynhyrchu tirwedd o harddwch ac amrywiaeth hynod yng Ngymru, ased cenedlaethol sy'n hanfodol i ni o ran ein hunaniaeth genedlaethol a hefyd o ran ein lles a'n 'hymdeimlad o berthyn i le' unigol. Gellir gweld ymhobman yr amrywiaeth a'r olion a adawyd ar y tirwedd gan weithgaredd dynol, o henebion cerrig enigmatig y cyfnod cynhanesyddol a chestyll ac abatai gwych y cyfnod canoloesol, i'r nodweddion eithaf cyffredin a nodweddiadol fel ffiniau caeau a all yn aml fod yn hen iawn. Ond nid dim ond golygyfeydd deniadol neu gofnod o'r gorffennol yn unig yw'r tirwedd; mae hefyd yn darparu lle i ni fyw, gweithio a chynnal ein hunain ynddo, drwy gyfrwng amaeth, coedwigaeth, twristiaeth ac ati, oll yn broseau sy'n llunio, ac a fydd yn parhau i lunio'r tirwedd. Bu cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a chyfoeth ffarig hanesyddol y tirwedd yn thema ac yn neges ganolog y gofrestr anstatudol, Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru, y cyhoeddwyd y rhan gyntaf ohoni, sy'n cwmpasu trideg chwech o dirweddau 'eithriadol' ym mis Ionawr 1998. Caiff y Gofrestr ei llunio fel menter ar y cyd rhwng Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) sy'n gweithio mewn cydweithrediad � phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac awdurdodau unedol Cymru. Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yw'r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i'r broses o lywio'r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn � chymeriad y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol. Cyflawnir hyn drwy broses a elwir yn nodweddiad tirweddau hanesyddol y gellir eu diffinio a'u mapio'n ddaearyddol, yn �l yr hyn a benderfynir gan ystod a dosbarthiad y nodweddion archaeolegol a hanesyddol sy'n goroesi a'r prif fathau o batrymau defnydd tir hanesyddol neu 'them�u' hanesyddol sydd wedi llunio'r ardal. Nodir nodweddion hanesyddol allweddol yr ardal felly ynghyd ag argymhellion ar gyfer eu rheoli'n gadarnhaol. Mae'r adroddiad hwn yn un o gyfres o ymarferion nodweddiad tirweddau hanesyddol yr ymgymerir ag ef gan Ymddiriedolaethau Archaeoloegol Cymru gyda chymorth grant gan Cadw. Bydd yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar yr ardaloedd hynny a nodwyd yn y Gofestr o Ddiddordeb Hanesyddol, er y caiff ei dderbyn bod modd disgrifio tirwedd Cymru gyfan, mewn un ffordd neu'r llall, fel yn hanesyddol. Mae gwybodaeth yn cael ei pharatoi ar ffurf sy'n cydweddu � methodoleg asesu tirweddau a gwneud penderfyniadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef LANDMAP. Bydd ar gael i ystod eang o sefydliadau a chaiff ei fwydo i fentrau amrywiol er mwyn diogelu a rheoli cefn gwlad Cymru, yn bennaf y cynllun agri-amgylcheddol sef, Tir Gofal. Caiff ei weld hefyd yn gwneud cyfraniad arbennig o bwysig i'r broses o godi ymwybyddiaeth a dwyshau'r ymdeimlad o arbenigrwydd lleol. Cydnabyddir yn llwyr gan y Gofestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol, a'r ymarferion nodweddu hyn, natur ddeinamig y tirwedd sy'n parhau i esblygu. Hyrwyddant y farn mai nid trwy rwystro newid neu ffosileiddio'r tirwedd y mae diogelu treftadaeth y gorffennol yn y tirwedd, ond yn hytrach drwy lywio'r broses o newid, gan greu tirweddau'r dyfodol heb o anghenraid aberthu tirweddau gorau'r gorffennol. Richard Avent & Richard Kelly
|