CPAT logo
Cymraeg / English
Eich Gymunydd
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a�r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref



Rhagarweiniad

Bellach, naws fodern gref sydd i dref y Fflint, yn cuddio�i gorffennol hynod a dramatig fel anheddiad diwydiannol Rhufeinig yn y cyfnod o�r ganrif 1af i�r 3ydd ganrif, fel y cyntaf o�r cestyll a�r trefi newydd a greodd y Brenin Edward yng Nghymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac fel un o�r porthladdoedd a�r trefi diwydiannol pwysig a ddaeth i�r amlwg adeg y Chwyldro Diwydiannol o ddechrau�r 18fed ganrif. Bu hanes cyfoethog y dref yn destun balchder ers canrifoedd lawer, fel y dengys ysgrifau haneswyr lleol fel Thomas Pennant ar ddiwedd y 18fed ganrif, hyd y rheiny sy�n ysgrifennu heddiw ar wefannau ac mewn cyfnodolion lleol. Fodd bynnag, mae gallu rhyfeddol y Fflint i ailddyfeisio�i hun wedi golygu y bu tueddiad ym mhob cenhedlaeth i ysgubo popeth o�r neilltu�n feiddgar, gan adael ond ychydig gliwiau cynnil am yr hyn a ddigwyddodd ynghynt yn y drefwedd fodern.

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon, a ariannwyd yn annibynnol gan Cadw, yn 2008 fel cyfraniad at gais Cyngor Sir y Fflint i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gynllun Menter Treftadaeth Trefluniau yn y dref. Y bwriad oedd adeiladu ar gynlluniau adfywio a oedd eisoes yn y dref, �r nod o wella�r dref yn ffisegol, denu ymwelwyr a darparu symbyliad ar gyfer buddsoddi pellach a chreu swyddi newydd.

Mae�r astudiaeth bresennol yn adolygu hanes a datblygiad y dref ers y cyfnodau cynharaf, ac yn edrych ar gyfraniad archaeoleg i fywyd y gymuned heddiw. Mae�n canolbwyntio ar archaeoleg a hanes y dref cyn ei hadfywio yn y 1960au, ac yn ceisio deall sut daeth i fodolaeth a sut mae wedi datblygu o ran topograffeg, gan nodi�r ffactorau pwysig yn ei hanes sy�n ei gwneud y lle ydyw heddiw. Mae�r astudiaeth hefyd yn edrych yn gryno ar gyfleoedd archaeolegol a hanesyddol, gan ddwyn sylw at rai o�r nodweddion sydd i�w gweld yn y dirwedd sy�n dweud wrthym am ei hanes, pethau sydd bellach wedi�u claddu yn y ddaear sy�n gallu ychwanegu at y stori ac, yn olaf, rhai o them�u allweddol hanes y dref, sydd o bosibl yn werthfawr wrth helpu i ddod �r gorffennol yn fyw. Ar y diwedd, ceir rhestr o rai o�r ffynonellau a fu�n gymorth yn yr astudiaeth hon. Yn cyd-fynd �r astudiaeth, ceir nifer o awyrluniau o�r dref i �glicio arnynt�, wedi�u tynnu gan Nigel Jones o CPAT yn 2009. Mae hanes diweddarach y dref a�r adeiladau sydd wedi goroesi yn cael eu hystyried yn fanylach yn Flint: Understanding Urban Character (2009), ar gael gan Cadw.

Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys ymyl yr anheddiad modern ac ardaloedd a fwriedir ar gyfer tai a diwydiannau�r dyfodol. Fe�i hestynnwyd hefyd i�r gogledd a�r gogledd-ddwyrain i gynnwys Castell y Fflint ac ardaloedd cyfagos aber afon Dyfrdwy yn hanes y dref. Ystyriwyd hefyd i ryw raddau y ffermio a�r hanes diwydiannol mewn ardal ychydig yn ehangach o amgylch yr anheddiad, sy�n cyd-fynd yn gyffredinol � chwmpas hanesyddol y fwrdeistref.