
278 CARNEDD MEIBION-OWEN 
CYFEIRNOD GRID: SN090365
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 114.4
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr gogleddol pellaf Mynydd
Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth
Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu
Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan
y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau â Chantref Cemaes a
grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon
yn gorwedd o fewn plwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth
yn ystod y cyfnod canoloesol. Erbyn hyn rhostir anial, creigiog ydyw heb
fawr ddim tir amgaeëdig, ond ar ei llethrau isaf o leiaf mae'n bosibl
ei bod wedi'i gorchuddio â choed gynt. Roedd coedwig ganoloesol Cilruth
- y mae Coedwig Pentre Ifan yn cynrychioli rhan ohoni sydd wedi goroesi
- wedi bod tan awdurdod coedwig y Farwniaeth ers y 12fed ganrif pan ddywedwyd
ei bod yn ymestyn i fyny llethrau Carnedd Meibion Owen, ac fe'i nodir
fel 'Fforest' ar fap Rees. Cliriwyd yr ardal cyn ceisio ei hamgáu â system
o gaeau mwy o faint ac afreolaidd eu siâp. Mae golwg caeau diweddar i'r
caeau hyn, ac mae'n debyg bod yr anheddiad anghyfannedd a gofnodwyd yma
yn ddiweddar yn cynrychioli anheddiad sgwatwyr yn dyddio o'r blynyddoedd
hynny yn ystod y 18fed ganrif pan fu'r boblogaeth dan bwysau. Nid oes
unrhyw aneddiadau erbyn hyn, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa a gofnodwyd ar
fap degwm 1843, ac mae llawer o ran ogledd-orllewinol yr ardal hon yn
troi'n goetir unwaith eto.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Carnedd Meibion-Owen yn fryn
creigiog anghysbell sydd wedi'i amgylchynnu gan dir ffermio amgaeëdig.
Tua chopa'r bryn, ar 244m o uchder, mae'r nifer o frigiadau creigiog eponymaidd
sy'n debyg i foelydd yn gorwedd mewn rhostir agored llawn rhedyn, eithin
a grug. I'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de mae'r rhostir hwn yn disgyn
nes ei fod o dan 150m o uchder. Ar yr ochr orllewinol ceir rhai cloddiau
nad oes eu hangen bellach. Mae coetir yn dechrau tyfu unwaith eto dros
y llethrau isaf sy'n wynebu'r gogledd-orllewin. O bob tu i'r rhostir mae
cloddiau mawr ac iddynt wynebau o gerrig sydd hefyd yn isrannu'r tir ar
yr ochr ddeheuol rywfaint. Nid oes unrhyw wrychoedd. Cafodd pen dwyreiniol
y copa i lawr hyd at ryw 180m o uchder ei wella yn ddiweddar i greu tir
pori ac ychydig o dir âr ac fe'i rhannwyd â ffensys gwifrau. Nid oes unrhyw
adeiladau yn yr ardal hon. Lonydd a llwybrau yw'r unig elfennau yn y dirwedd
yn ymwneud â thrafnidiaeth.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dwy feddrod siambrog
bosibl o'r oes neolithig (sef Carnedd Meibion Owen), llwybr o ddyddiad
anhysbys, ffynnon sanctaidd ganoloesol a safle'r anheddiad ôl-ganoloesol.
Mae'r elfen o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Carnedd
Meibion-Owen sy'n cynnwys rhostir agored yn nodedig ac mae iddi ffiniau
pendant. Fodd bynnag o ganlyniad i waith a wnaed yn ddiweddar i wella
pen dwyreiniol yr ardal mae'r gwahaniaethau rhyngddi â'r tir ffermio amgaeëdig
o'i hamgylch yn llai pendant. Yn y fan hon nid oes ffin bendant rhyngddi
a'i chymdogion bellach.
Ffynonellau: Map degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932;
Trethowan 1998.
|