Neidio i'r prif gynnwys

Cyfoethogi bywydau trwy Archaeoleg

Cysylltu cymunedau â’r gorffennol drwy ymchwil, ymgysylltu a chydweithio

Croeso i Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru

Yn 2024, unodd Heneb bedair ymddiriedolaeth archaeolegol ranbarthol Cymru—Clwyd-Powys, Dyfed, Morgannwg-Gwent, a Gwynedd—yn un sefydliad sy’n ymroddedig i ddatgelu a chadw treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru.

Elusen annibynnol gyda dros 50 mlynedd o arbenigedd cyfunol, mae Heneb yn cysylltu cymunedau â’r gorffennol trwy ddiogelu safleoedd hanesyddol, rheoli’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH), ac arwain ymchwil arloesol.

O gloddiadau archaeolegol i allgymorth cymunedol, mae Heneb yn sicrhau bod treftadaeth Cymru yn hygyrch, yn cael ei deall a’i werthfawrogi—nawr ac am genedlaethau i ddod.

Cefnogwch Heneb

Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn ymroddedig i ddarganfod, diogelu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru.

Cymerwch ran

Allgymorth Cymunedol

Rydym yn cysylltu pobl â threftadaeth gyfoethog Cymru drwy ddigwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae rhaglenni cymunedol Heneb yn ysbrydoli diddordeb y cyhoedd mewn archaeoleg ac yn hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros gadw’r gorffennol.

Addysg

Mae mentrau addysg Heneb yn darparu cyfleoedd dysgu i ysgolion, prifysgolion ag i’r cyhoedd. Trwy brofiadau ymarferol, sgyrsiau ac adnoddau gwahanol, ein nod yw gwneud archaeoleg yn hygyrch ac yn ddeniadol i bawb.

Gweithgareddau hwyliog

Darganfyddwch fyd cyffrous archaeoleg gyda’n gweithgareddau hwyliog wedi’u cynllunio ar gyfer plant ysgol! O bosau a gemau i grefftau a heriau ymarferol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau wrth ddysgu am y gorffennol.

Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau

Cadwch yn wybodus o’r darganfyddiadau, digwyddiadau a phrosiectau treftadaeth ddiweddaraf gan Heneb.

Oriel – Mehefin

Ac edrychwch ar yr oriel drawiadol hon o’n teithiau cerdded yn ystod y mis diwethaf!

Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur – Strata Florida Trust 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fel elusen yn 2006 a phrynodd fferm Mynachlog Fawr yn 2016. Mae’n cael ei rhedeg gan…

Eisteddfod yr Urdd, Môn 23ain – 29ain Mai 2026

Beth allaf ei ddweud am ein hamser yn Eisteddfod yr Urdd? Gallwn drafod yr 800 a mwy o bobl a…

Archwiliwch fwy

Archwilio Treftadaeth Archaeolegol Cymru

Darganfyddwch filoedd o gofnodion o safleoedd archaeolegol a hanesyddol ledled Cymru. Ewch i Archwilio i edrych trwy’r data a datgelu straeon y gorffennol.

Byddwch yn rhan o daith Heneb

Ymunwch â ni i ddatgelu, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog Cymru. Boed hynny drwy wirfoddoli, digwyddiadau neu bartneriaethau, mae lle i bawb gysylltu â’r gorffennol.

Cefnogi ein Cenhadaeth

Helpwch ni i ddiogelu treftadaeth archaeolegol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae eich cefnogaeth yn cael effaith barhaol ar ddiogelu a rhannu ein hanes cyfoethog.

Archwilio ein Prosiectau

Dysgwch fwy am y gwaith a wnawn i ddiogelu a datgelu treftadaeth gyfoethog Cymru. O gloddiadau i gadwraeth, gwelwch sut mae Heneb yn dod â hanes yn fyw.