Trosolwg
Heneb: Mae Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn sefydliad annibynnol sy’n ymroddedig i warchod, ymchwilio, cofnodi a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru a thu hwnt. Rydym yn elusen gyda’r nod o addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg. Gwnawn hyn drwy gyllid Llywodraeth Cymru sy’n ein galluogi i gynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i ymgysylltu ag archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol Cymru gyfan.
Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, athrawon, myfyrwyr, prifysgolion ac ystod eang o sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol i ddatblygu prosiectau, creu adnoddau addysg a dysgu a darparu archaeoleg gymunedol ragorol i bawb.
Gwneir y gwaith hwn fel rhan o gyflawni ein strategaeth allgymorth ac mae’n cyfrannu at fframwaith archaeoleg gymunedol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Cadw

Sefydliadau Cyswllt a Chysylltiadau Defnyddiol

Cysylltwch
Ar gyfer ymholiadau: [email protected]