
Mae ein swyddogion allgymorth yn dod ag archaeoleg i ysgolion ledled Cymru. Y mis hwn, cefais gyfle i weld Bethan wrth ei gwaith yn Sir Ddinbych a dysgu am hanes Caer Drewyn yn yr ysgol gyfagos sydd wedi cael ei henwi ar ei hôl, Ysgol Caer Drewyn. Roeddem wedi dysgu am bobl yr Oes Haearn yng Nghymru yn byw mewn tai crynion dan doeau gwellt, am ffermio, gwneud dillad ac offrymu pethau gwerthfawr mewn afonydd a llynnoedd.
Mae cloddiau anferth o gerrig i’w gweld o hyd ym mryngaer Caer Drewyn, sef gweddillion y muriau a oedd yno cynt. Os edrychwch yn fanwl, gallwch weld y darnau o dir gwastad lle byddai pobl wedi gallu codi eu tai. Mae llwyfannau tai tebyg i’w gweld ar y llethrau is hefyd, un ohonynt yn cael ei gloddio gan staff a gwirfoddolwyr Heneb. Cawsom drafodaeth am yr offer y mae archaeolegwyr yn eu defnyddio ac am beth a allai gael ei ddarganfod yno.
Ar ôl y sesiwn yn yr ystafell ddosbarth, aethom â’r dosbarth o blant i weld y safle cloddio wrth waelod y bryn, ac roeddem yn gallu cerdded i fyny at y fryngaer ei hun.

Daeth Ruth aton ni o sefydliad Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a sôn wrthym am y dirwedd arbennig roeddem yn cerdded drwyddi gyda’i hamrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd, yn cynnwys glaswelltir asidig, a thynnodd ein sylw at y blodau Drain Gwyn a welwch yn rhai o’r lluniau hyn a sut y gallwch eu hadnabod.
Dangosodd Ian i ni beth oedd wedi cael ei ddarganfod, sef darnau mân o grochenwaith canoloesol. Cafodd y dosbarth gyfle i weld archaeolegwyr wrth eu gwaith a gofyn cwestiynau iddynt amdano. Wrth gerdded i fyny’r bryn, roeddem wedi siarad am y cysylltiadau posibl ag Owain Gwynedd ac Owain Glyndŵr, am y defnydd o’r fryngaer i warchod gwartheg yn ystod cyfnodau o wrthdaro ac am chwedlau am gewri’n adeiladu’r fryngaer.

Cawsom seibiant ar y copa i gael golwg ar y muriau a cheisio gweld bryngeyrydd eraill ar ben y bryniau cyfagos. Dangosodd Bethan ble roedd pobl wedi bod yn pentyrru cerrig, sydd yn arfer eithaf cyffredin gan bobl ym mhob man, ond yn un sydd yn dinistrio nodweddion archaeolegol, felly dylem wrthsefyll yr awydd i wneud hynny! Roedd yn wyntog iawn ac roedd yn amlwg bod yr hen bobl wedi bod yn ddoeth iawn wrth godi tai crynion i’r gwynt gael chwythu o’u hamgylch. Daeth y glaw a’r cenllysg yn fuan gyda’r gwynt ac, yn lle cael picnic ar y copa fel y bwriadwyd, aethom oddi yno ar frys. Wrth gwrs, cyn gynted ag y daethom yn ôl i’r prif lwybr i lawr y bryn, daeth yr haul allan eto a’n helpu i gynhesu.

Brysiodd y plant ysgol yn ôl i’w dosbarth i gael eu cinio ac roedd Bethan a minnau’n gallu cymryd rhan yn y cloddio ar y llwyfan tai. Daeth y ddwy ohonom o hyd i ddarnau bach o grochenwaith a oedd yn dyddio o’r 12fed ganrif, yn ôl pob tebyg. Efallai y byddai’r bobl a oedd yn byw yno bryd hynny wedi gallu sôn wrthym am weld Owain Gwynedd yn mynd heibio ar gefn ei geffyl!
Os byddai’ch ysgol chi yn hoffi trefnu ymweliad tebyg gan archaeolegydd, cysylltwch â ni yn [email protected]
Alice Evans, Allgymorth y De-orllewin