
Mae archeolegwyr o Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru wedi darganfod cei canoloesol yn Island House yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin: y cei canoloesol cyntaf i gael ei gloddio yng Nghymru.
Mae’r gwaith cloddio presennol yn cael ei noddi fel rhan o’r gwaith o adfer Island House gan Philip Bond a Stephen Kirkwood o Island House Restoration Ltd. Mae’r coed yn nho Island House yn dyddio’n ôl i 1437 OC (yn seiliedig ar ddyddio cylchoedd coed (dendrocronoleg) a dyddio radiocarbon).
Yn 2020, yn ystod gwaith cloddio cynharach, datgelodd archeolegwyr archaeoleg ganoloesol haenog a oedd yn cynnwys tystiolaeth o gwrs dŵr a ddefnyddiwyd fel tomen – hynny yw, sianel wastraff ganoloesol – gan y castell a’r dref o’r 12fed ganrif. Ers hynny, mae Heneb wedi darganfod adeiladau diweddarach wrth ymyl cei canoloesol.
Meddai Ken Murphy, sy’n goruchwylio’r gwaith cloddio ar gyfer Heneb: ‘Roedden ni’n gwybod bod gan Island House hanes diddorol, ond doedden ni ddim yn disgwyl darganfod cei. Byddai’r cei wedi bod ar gilfach lanw fechan y tu allan i furiau’r dref ganoloesol ac yng nghysgod Castell Talacharn. Mae’r castell yn dal i edrych dros y dref, ond mae’r gilfach lanw wedi hen siltio ac mae bellach yn faes parcio.’
‘Adeiladwyd y cei cyntaf yn y ddeuddegfed neu’r drydedd ganrif ar ddeg. Roedd y gilfach yn siltio’n araf, felly adeiladwyd waliau’r cei ymhellach ac ymhellach allan i’r gilfach. Yn y pen draw, erbyn yr ail ganrif ar bymtheg doedd dim modd i gychod gyrraedd y cei mwyach. Rydyn ni hefyd wedi darganfod adeiladau cerrig a arferai fod ar ochr y cei, un ohonynt yn dŷ neuadd mawr o statws uchel. Roedd ganddo le tân canolog, a byddai’r mwg wedi dod o hyd i’w ffordd allan trwy’r to uchel. Mae’n debyg mai cartref masnachwr cyfoethog oedd hwn, un a oedd yn elwa o’r fasnach ar yr arfordir.’
‘Mae ceiau canoloesol eisoes wedi’u cloddio mewn porthladdoedd mawr yn y DU, fel Llundain a Bryste. Roedd dod o hyd i un yn Nhalacharn yn dipyn o syndod. Mae’n gwneud i ni ail-werthuso pwysigrwydd Talacharn o fewn rhwydwaith masnachu Ynysoedd Prydain yn yr Oesoedd Canol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd masnach môr yn y gorffennol. Mae’r crochenwaith a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio yn dangos bod llwybrau masnachu helaeth yn mynd o Fryste, arfordir Ffrainc ac mor bell i’r de â Sbaen.’
Meddai Stephen Kirkwood: ‘Rydyn ni’n ceisio darganfod cymaint â phosibl am hanes Island House. Mae’r darganfyddiadau archeolegol yn gyffrous iawn. Fe fyddan nhw’n ategu ymchwil hanesyddol ac ymchwiliadau eraill yr ydym wedi’u comisiynu. Mae Island House wedi bod yn destun rhyfeddod i ni erioed ac fe fanteision ni ar y cyfle i’w brynu dros bum mlynedd yn ôl gyda’r nod o’i wneud yn westy bach. Roedd mewn cyflwr gwael iawn pan wnaethon ni ei brynu ac roedd mewn perygl o ddymchwel. Mae bellach yn ddiogel, ac mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda. Un o’r pethau rydyn ni’n meddwl amdano yw sut y gallwn gadw ac arddangos y darganfyddiadau archeolegol pwysig i ymwelwyr eu mwynhau yn y dyfodol.’
Bydd Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn parhau i weithio ar y safle ac mae cyfres o ddiwrnodau agored wedi’u cynllunio i’r cyhoedd.
Meddai Dr Carol Bell, Cadeirydd Heneb: “Mae’r hyn y mae Ken a thîm Heneb wedi’i ddarganfod ar y safle hwn yn rhyfeddol. Mae’n hawdd dychmygu pa mor brysur fyddai’r cei canoloesol hwn wedi bod, gyda chychod bach yn mynd a dod i’r cei. Ar ben hynny, mae’n tanlinellu pwysigrwydd Talacharn fel porthladd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r darganfyddiadau yn ychwanegu’n sylweddol nid yn unig at ein dealltwriaeth o Gymru’r Oesoedd Canol ond hefyd am rôl Talacharn mewn rhwydweithiau masnachu helaeth i rannau eraill o Brydain a thu hwnt, hoffwn dalu teyrnged arbennig i berchnogion Island House am eu cefnogaeth a’u gweledigaeth. Mae eu brwdfrydedd a’u diddordeb wedi galluogi tîm archeolegwyr medrus iawn Heneb i ddatgelu mwy am orffennol morwrol y rhan hon o Gymru.
