Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad i’r Wasg ar y Cyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, Historic England, Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol, Ffederasiwn Rheolwyr a Chyflogwyr Archaeolegol, Solar Energy UK

    • Sectorau ynni adnewyddadwy ac archaeolegol yn uno i gyhoeddi fframwaith arferion da
    • Mae’r Canllaw yn ymdrin â chylch bywyd llawn ffermydd solar mawr, o’r cam cynllunio i’r cam datgomisiynu
    • Mae’r cyhoeddiad yn cefnogi’r ymdrechion i symud i ynni glân yn y DU ar yr un pryd â diogelu’r amgylchedd hanesyddol
    • Gweler y Canllaw Arferion Da yma
    • Lawrlwytho delweddau YMA

Mae’r canllaw newydd yn ceisio lleihau effaith ymchwiliadau archaeolegol ar ddatblygiadau ffermydd solar, ar yr un pryd â sicrhau bod asedau’n parhau i gael eu diogelu.

Fframwaith cyson

Mae’r Canllaw Arferion Da Archaeoleg a Ffermydd Solar yn rhoi fframwaith clir a chyson i ddatblygwyr, archaeolegwyr a swyddogion cynllunio ar gyfer rheoli ystyriaethau archaeolegol ar bob cam o brosiectau ffermydd solar mawr, o’r cam canfod safle hyd y cam dylunio a’r cam datgomisiynu.

Mae’n seiliedig ar egwyddorion arferion da y cytunwyd arnynt, ac mae’n nodi dull gweithredu fesul cam a phenodol ar gyfer asesu pwysigrwydd a sensitifrwydd safleoedd archaeolegol. Gan ddefnyddio technegau gwerthuso priodol cyn ac ar ôl cydsynio, mae’n cefnogi dull integredig o ddylunio a lliniaru.

Cyflawni ar y cyd

Gyda chefnogaeth cyrff proffesiynol a chyrff y diwydiant, mae’r Canllaw yn dangos bod modd cyflawni gwaith rheoli archaeolegol a datblygu ynni glân ar raddfa fawr ar y cyd, gan ddiogelu safleoedd hynafol ac olion wedi’u claddu wrth i gapasiti ynni solar ehangu.

Drwy gynnwys cyngor archaeolegol yn gynnar yn y broses gynllunio, gall datblygwyr osgoi oedi a gwneud penderfyniadau dylunio gwybodus o’r cychwyn cyntaf. Gall dull archaeolegol sydd wedi’i gynllunio’n dda gadw’r datblygiad ar y trywydd iawn ar yr un pryd â bodloni’r gofynion polisi sy’n diogelu’r amgylchedd hanesyddol.

Cysylltiadau ystyrlon

Gall darganfyddiadau archaeolegol a wneir yn ystod datblygiad arwain at fanteision ehangach. Gall canfyddiadau ac ymchwiliadau adrodd hanes safle, gan roi ffordd ystyrlon a diddorol i ddatblygwyr gysylltu â chymunedau lleol.

Dull partneriaeth

Mae’r Canllaw yn ffrwyth cydweithio rhwng Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA), Historic England, Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), Ffederasiwn Rheolwyr a Chyflogwyr Archaeolegol (FAME), a Solar Energy UK. Rhoddodd Historic England oddeutu £40,000 i gefnogi’r gwaith o’i ddatblygu.

Mae’r canllaw’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

SYLWADAU

Dywedodd Kate Geary, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol CIfA: “Mae CIfA yn croesawu cyhoeddiad y Canllaw Arferion Da a dull gweithredu cadarnhaol a chydweithredol cydweithwyr yn y sector solar ac archaeoleg a fu’n ymwneud â’r gwaith o’i ddatblygu.

Mae’r cyfle i gydweithio i wella cyd-ddealltwriaeth, archwilio materion a chanfod atebion wedi bod yn werth chweil. Mae’r Canllaw yn rhoi cyngor manylach sy’n ymhelaethu ar y safonau proffesiynol presennol ar gyfer ymarfer archaeolegol i gefnogi datblygu cynaliadwy a gwarchod treftadaeth archaeolegol er budd cymdeithas.”

Dywedodd Claudia Kenyatta ac Emma Squire, Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol, Historic England: “Mae cyhoeddi’r Canllaw Arferion Da Archaeoleg a Ffermydd Solar yn foment bwysig a fu’n bosibl drwy gydweithio cadarnhaol ar draws partneriaid ym maes treftadaeth, archaeoleg a datblygu. Drwy roi fframwaith clir a chyson sy’n ymdrin â phob cam o gylch bywyd fferm solar, mae’n galluogi penderfyniadau gwybodus, yn lleihau oedi ac yn sicrhau bod ein treftadaeth gudd unigryw yn cael ei diogelu wrth i gapasiti adnewyddu gynyddu.”

Dywedodd Chris Hewett, Prif Weithredwr Solar Energy UK: “Mae’r canllaw hwn yn garreg filltir o ran dod â dau ddiwydiant gwahanol at ei gilydd, ar yr un pryd ag adeiladu sylfaen ar gyfer perthynas gadarnhaol a pharhaol rhwng archaeolegwyr a’r sector solar. Dylai’r canllawiau newydd sicrhau bod ymchwiliadau archaeolegol ar ffermydd solar yn cael eu cynnal yn fwy cyson, gan leihau costau a rhoi hwb i hyder wrth fuddsoddi yn yr ymdrechion i symud i ynni adnewyddadwy.”

Dywedodd John Lawson, Cadeirydd, ALGAO:UK: “Mae ALGAO:UK yn croesawu cyhoeddiad y Canllaw Arferion Da Archaeoleg a Ffermydd Solar, sy’n ganlyniad i gydweithio rhwng ein haelodau, diwydiant Solar a phartneriaid yn y diwydiant. Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw newydd yn rhoi fframwaith clir a chyson i reoli ystyriaethau archaeolegol ar bob cam o brosiectau ffermydd solar mawr ac yn helpu llywodraeth leol a chenedlaethol i fynd i’r afael â’n gwydnwch i’r hinsawdd sy’n newid.”

Dywedodd Joe Abrams, Cyfarwyddwr, Abrams Archaeology: “Mae Abrams Archaeology yn gweithio’n agos â datblygwyr ffermydd solar, cynllunwyr a chynghorwyr archaeolegol i ganfod risgiau’n gynnar a dylunio atebion ymarferol. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’r dull cydweithredol hwnnw ac yn nodi canllawiau ymarferol sy’n seiliedig ar brofiad yn y byd go iawn.” 

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol, Cadw: “Mae Cadw yn croesawu’r canllaw hwn, ac roedd wedi helpu i’w ddatblygu ac mae’n ei gefnogi’n llwyr. Bydd yn helpu i sicrhau bod materion archaeolegol yn cael eu hystyried yn gynnar yn y broses ddylunio, gan gefnogi proses gynllunio fwy effeithlon yng Nghymru ar yr un pryd â helpu i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol.”
    

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Esther Blaine, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd Dwyrain Lloegr, yn Historic England ar 07584 365681 neu e-bost [email protected]    

I lawrlwytho delweddau, cliciwch YMA

NODIADAU

  • Mae’r canllaw yn berthnasol i ffermydd solar mawr yn unig ac nid yw’n cynnwys gosodiadau ar y llawr ar raddfa fach
  • Nid yw’n mynd i’r afael â lleoliad asedau treftadaeth na thirweddau hanesyddol. Ymdrinnir â’r rhain mewn canllaw ar wahân

Gwybodaeth am Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA)

Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA) yw’r prif gorff proffesiynol sy’n cynrychioli archaeolegwyr sy’n gweithio yn y DU a thramor. Sefydlwyd CIfA ym 1982, a’i nod yw hyrwyddo safonau proffesiynol uchel a moeseg mewn ymarfer archaeolegol, gan sicrhau bod archaeolegwyr yn dod â manteision sylweddol i gymdeithas. Mae CIfA yn darparu adnoddau, yn cefnogi datblygiad gyrfaoedd, ac yn eirioli dros fuddiannau archaeoleg ac archaeolegwyr i’r llywodraeth a’r diwydiant.

Gwybodaeth am Historic England   

Historic England ydyn ni, sef y corff cyhoeddus sy’n gwarchod ac yn adfywio’r dreftadaeth sy’n bwysig i bob un ohonom, fel ei bod yn goroesi ac yn cael ei charu am fwy o amser. O’r eithriadol i’r arferol, mae ein lleoedd a’n mannau hanesyddol yn bwysig. O ganolfannau cymunedol i gadeirlannau, cartrefi i’r stryd fawr, marchnadoedd i felinau – mae mannau arbennig rydym ni i gyd yn dewis dal gafael ynddynt, yr etifeddiaeth rydym yn awyddus i’w throsglwyddo, a’r straeon rydym ni’n parhau i’w hadrodd. Dyna pam rydym yn gweithio gyda phobl ledled Lloegr i ddarganfod, diogelu ac adfywio ein hamgylchedd hanesyddol, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @HistoricEngland.   

Gwybodaeth am Solar Energy UK

Mae Solar Energy UK yn gymdeithas fasnach sefydledig sy’n cynrychioli ac yn gweithio i’r gadwyn gwerth storio ynni a solar. Mae’n cael ei hariannu’n bennaf gan ei haelodau ac mae’n cynrychioli cymuned ffyniannus dan arweiniad yr aelodau o dros 400 o fusnesau a chymdeithion. Mae ein haelodau’n amrywio o fusnesau bach a chanolig uchelgeisiol ac arloesol i frandiau byd-eang.

Gwybodaeth am Abrams Archaeology

Mae Abrams Archaeology yn ymgynghoriaeth archaeolegol fasnachol sy’n darparu cyngor arbenigol ac ymarferol i ddatblygwyr ffermydd solar. Rydym yn nodi risg, yn lleihau ansicrwydd, ac yn darparu atebion effeithlon sy’n cyd-fynd â pholisïau. Comisiynwyd Abrams Archaeology gan CIfA i gynorthwyo â’r gwaith o ysgrifennu’r canllaw.

Gwybodaeth am Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae’n gweithio i ddiogelu, gwarchod a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog Cymru. Mae’n gofalu am y lleoedd hanesyddol sydd yng ngofal Gweinidogion Cymru ac mae’n rhoi cyngor arbenigol ar warchod adeiladau hanesyddol, henebion a thirweddau. Drwy ei waith, mae Cadw yn helpu pobl ledled Cymru a thu hwnt i ddeall, mwynhau a gwerthfawrogi amgylchedd hanesyddol y genedl.

Mwy o Newyddion

Cryfhau’r Dreftadaeth Cymru

Ers bron i ddegawd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heneb (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru gynt) a Chadw wedi bod yn cydweithio…
Dr Olivia Husoy-Ciaccia wins Doctoral Prize from Bristol University!

Enillwyd Dr Olivia Husoy-Ciaccia Gwobr Doethuriaeth o Brifysgol Bryste!

Rydym yn falch iawn o rannu'r newyddion bod ein Swyddog Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Olivia wedi ennill Gwobr Ddoethurol am ei…

Ymweliad gan yr AS Ben Lake

Yn ddiweddar, derbyniodd Heneb ymweliad gan yr AS Ben Lake yn ein pencadlys yn Llandeilo. Mae Ben wedi bod yn…