Neidio i'r prif gynnwys

Mae erydu arfordirol wedi effeithio ar arfordir Sir Benfro ers canol yr 20fed ganrif o leiaf, gan ddatgelu cyfoeth o dystiolaeth archeolegol a safleoedd hanesyddol. Un o’r darganfyddiadau mwyaf arwyddocaol hyd yma, a ddaeth i’r amlwg yn dilyn stormydd gaeafol 2013-14, yw mynwent ganoloesol gynnar a chapel diweddarach Sant Padrig, a arferai sefyll ar ymyl Bae Porth Mawr, Tyddewi, Sir Benfro. Ar ôl i weddillion dynol gael eu dadorchuddio ddechrau 2014, cynhaliwyd pum tymor cloddio, tan 2021, fel rhan o brosiect cydweithredol rhwng Heneb: Archaeoleg Dyfed (dan arweiniad Ken Murphy) a Dr Katie Hemer (UCL, Prifysgol Sheffield gynt). Gyda thîm o wirfoddolwyr ymroddedig, datgelodd y gwaith cloddio safle amlswyddogaethol sylweddol, ac yng nghanol y safle hwnnw roedd y fynwent ganoloesol gynnar fwyaf erioed i gael ei chloddio yn ne-orllewin Cymru hyd yma.

Roedd y fynwent ganoloesol gynnar sydd o dan Gapel Sant Padrig i gyd mewn ardal lle roedd tywod wedi’i chwythu gan y gwynt. Y nodweddion cynharaf ar y safle, sy’n dyddio’n ôl i tua chanol yr 8fed ganrif OC, oedd clostir hirgrwn wedi’i adeiladu o garreg, ac yn ei ganol roedd strwythur cerrig petryal bach a ddaeth yn ganolbwynt ar gyfer sawl claddedigaeth yn ddiweddarach. Roedd tystiolaeth o feddiannaeth yn gysylltiedig â’r cyfnod cyn y fynwent, megis esgyrn adar ac anifeiliaid, grawnfwyd a hadau wedi deifio, a chynhyrchu crefftau, gan gynnwys gweithgynhyrchu arteffactau wedi’u gwneud o aloi copr, a gweithio gydag ambr ac esgyrn.

Fodd bynnag, erbyn diwedd yr 8fed ganrif/dechrau’r 9fed ganrif OC, roedd y gweithgarwch ar y safle’n canolbwyntio ar gladdu’r meirw. Gorchuddiwyd y clostir hirgrwn a’r strwythur petryal blaenorol â thywod, ac adeiladwyd clostir mawr muriog. Gosodwyd y claddedigaethau cyntaf y tu mewn i’r clostir hwn, ac ar/o amgylch y nodwedd betryal gynharach. Roedd tywod wedi cronni drwy gydol oes y fynwent, gan gladdu a gwarchod beddi a dyddodion cynharach. Cafodd dros 250 o feddi a oedd yn cynnwys olion bron i 300 o unigolion eu cloddio’n ofalus yng Nghapel Sant Padrig. Cafodd y claddedigaethau eu neilltuo i un o saith cam stratigraffig ac maent yn cynrychioli continwwm o’r defnydd o’r fynwent. Cynorthwywyd hyn heb os gan y tywod a oedd wedi cronni’n barhaus. Roedd natur gyfnewidiol y safle’n her sylweddol yn ystod y gwaith cloddio; prin oedd modd gweld toriadau llawer o’r beddi, ac roedd hyd yn oed y rhai a oedd yn amlwg i ddechrau yn diflannu’n gyflym wrth i’r tywod sychu neu wrth i fwy o dywod chwythu ar draws y safle. Parhaodd y claddu yn y fynwent tan yr 11eg ganrif o leiaf, ac ar ôl hynny, adeiladwyd capel carreg. Fodd bynnag, dirywio wnaeth y capel yn y pen draw, ac roedd yn adfail erbyn yr 16eg ganrif.

Roedd y fynwent ganoloesol gynnar a gloddiwyd yn sylweddol, a beddi syml oedd y rhan fwyaf o’r claddedigaethau, wedi’u cloddio heb strwythurau cymhleth na nwyddau claddu. Mae’n ymddangos bod ffurf y beddi wedi esblygu dros y cyfnod y defnyddiwyd y fynwent – o feddi tywod syml yn bennaf yn y cyfnodau cynharaf, i feddi wedi’u leinio â cherrig a’u gorchuddio â slabiau lintel i bob tebyg, ac yn olaf, llond llaw o feddi â chapiau cwarts arnynt erbyn i’r capel gael ei adeiladu. Rhoddwyd rhyw fath o farciwr beddi ar sawl claddedigaeth ddiweddarach, gan gynnwys cerrig unionsyth â chroes wedi’i cherfio arnynt, neu orchuddion o gregyn a cherrig cwarts gwyn. Babanod a phlant bach oedd yn cael eu claddu yno’n bennaf yng nghyfnodau cynharaf y fynwent, a daeth claddu plant hŷn ac oedolion yn fwy cyffredin wrth i’r fynwent esblygu.

Mae cadwraeth ysgerbydol eithriadol wedi galluogi cyfres o ddadansoddiadau bioarchaeolegol i gael eu cynnal ar yr olion – gan gynnwys osteoleg, histoleg, dadansoddi DNA hynafol, dadansoddi isotopau sefydlog, a phroteomeg. Mae’r casgliad sydd wedi’i gloddio yn cynnwys dynion, menywod a phlant o bob oed, ac mae’r dadansoddiadau o’r gweddillion wedi datgelu cyfoeth o wybodaeth am y bobl sydd wedi’u claddu yng Nghapel Sant Padrig – gan gynnwys o ble roedden nhw’n dod, i bwy roedden nhw’n perthyn, sut roedden nhw’n byw, beth roedden nhw’n ei fwyta, a pha anhwylderau roedden nhw’n dioddef ohonynt. Gyda’i gilydd, mae’r dystiolaeth yn rhoi darlun byw o gymuned ganoloesol gynnar a oedd wedi addasu i fywyd yng nghefn gwlad Sir Benfro.

Bydd digwyddiad undydd i ddathlu deng mlynedd o gloddio, lle ceir sgyrsiau gan arbenigwyr sydd wedi gweithio yng Nghapel Sant Padrig, yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddechrau mis Medi. Er nad oes lle ar ôl yn y digwyddiad ar hyn o bryd, gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi ei enw ar y rhestr aros anfon e-bost at drefnydd y digwyddiad (Dr Katie Hemer, Sefydliad Archeoleg UCL: [email protected]).

Bwriedir llunio monograff i gyhoeddi canfyddiadau’r gwaith cloddio yng Nghapel Sant Padrig.

Dr Katie A. Hemer, FSA (hi/ei)

Athro Cyswllt mewn Bioarchaeoleg ac Anthropoleg Fforensig

Mwy o Newyddion

Abaty Dinas Basing – Dydyn ni’n ôl!

Gan ddechrau ar 8 Medi, byddwn yn dychwelyd i Abaty Dinas Basing! Y tro hwn, fel rhan o brosiect a…

Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur – Strata Florida Trust 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fel elusen yn 2006 a phrynodd fferm Mynachlog Fawr yn 2016. Mae’n cael ei rhedeg gan…
Group of archaeologists excavating a trench, using trowels and buckets, with fencing and trees in the background.

Gŵyl Archaeoleg Drenewydd

Mae'r gwaith wir wedi dechrau yn Y Drenewydd wrth i'n gwirfoddolwyr darganfod mwy am y tomen canoloesol dirgel. Bydd ein…