Rhoddwch
Pam mae eich cefnogaeth yn bwysig
Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn ymroddedig i ddarganfod, diogelu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel elusen annibynnol, mae Heneb yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr fel chi i barhau â’r gwaith hanfodol hwn.
Mae eich rhodd yn ein galluogi i ddiogelu etifeddiaeth archaeolegol unigryw Cymru, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.
Sut mae eich rhodd yn helpu
Mae pob cyfraniad yn cefnogi ein cenhadaeth i gadw, ymgysylltu ac addysgu. Mae eich cefnogaeth yn ein helpu ni i:

Wahanol Ffyrdd O Roi
Gallwch gefnogi gwaith Heneb drwy opsiynau amrywiol o roi:
- Rhodd Un-Amser: Mae un rhodd yn cefnogi anghenion uniongyrchol a phrosiectau parhaus.
- Rhoi yn Fisol drwy aelodaeth: Mae rhodd fisol rheolaidd yn darparu sylfaen ar gyfer ymdrechion cadwraeth tymor hir Heneb.
- Etifeddiaeth: Ystyriwch adael rhodd yn eich ewyllys. Gall dewis gadael rhodd yn eich ewyllys i Heneb i helpu sicrhau ein bod ni yma ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archeolegwyr. I wneud hyn, siaradwch â’ch cyfreithiwr wrth lunio eich Ewyllys fel y gallant cynghori gyda’r geiriau priodol.
Gwnewch Gwahaniaeth Heddiw
Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn helpu i sicrhau bod gwaith Heneb yn parhau. Drwy ein cefnogi, rydych yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu treftadaeth Cymru a chysylltu pobl â’u gorffennol a rennir.