Skip to main content

Darganfod Gorffennol Cymru: Archwilio’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol

Eich porth i ddeall, gwarchod a chyfrannu at dreftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru.

Y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yw adnodd mwyaf cynhwysfawr Cymru ar gyfer safleoedd archaeolegol a hanesyddol, ac mae’n cael ei reoli’n rhanbarthol gan Heneb.

P’un a ydych chi’n ymchwilio, yn cyfrannu, neu’n chwilfrydig, mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn eich cysylltu â 420,000 o gofnodion o hanes dynol ar draws Cymru, o’r cyfnod cynhanes i’r oes fodern

Nod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr am safleoedd, henebion, adeiladau, arteffactau a thirweddau archaeolegol a hanesyddol hysbys pob sir yng Nghymru.

Mae’r Cofnod yn cael ei reoli’n rhanbarthol drwy bedair swyddfa ranbarthol Heneb, sydd gyda’i gilydd yn gwasanaethu Cymru gyfan.

Mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn dal tua 420,000 o gofnodion a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau ers diwedd y 1970au ac mae’n cynnwys manylion, ar ffurf ddigidol a phapur, safleoedd adnabyddus a llai adnabyddus, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchwyd gan brosiectau archaeolegol a gynhaliwyd yn yr ardal.

Pwysigrwydd

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i lunio a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer ardal pob awdurdod unedol yng Nghymru.

Mae’r ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni drwy wasanaethau Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru.

Mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol statudol ar gael i’r cyhoedd drwy wefan Archwilio

Y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yw’r brif ffynhonnell gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol i Gymru gyda chofnodion sy’n ymwneud â phob agwedd ar weithgarwch dynol yn y dirwedd a’r gwaith a wneir i ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol, ei ddeall a’i reoli. 

Mae rhai cofnodion yn ymwneud â safleoedd sy’n cael eu gwarchod yn gyfreithiol fel Henebion Rhestredig ac Adeiladau Rhestredig, ond mae llawer ohonynt yn ymwneud â nodweddion llai adnabyddus fel systemau caeau ac anheddau bach.

Mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag ystod eang o safleoedd o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol fel:

  • Henebion claddu ac aneddiadau cynhanesyddol

  • Caerau a ffyrdd Rhufeinig,

  • Llysoedd a chestyll canoloesol

  • Tai a safleoedd diwydiannol ôl-ganoloesol

  • Strwythurau dinesig a milwrol yr ugeinfed ganrif

  • Gwrthrychau archaeolegol

  • Tirweddau a gerddi hanesyddol

  • Enwau lleoedd a meysydd brwydro

Ydych chi eisiau gwneud eich ymchwil eich hun?

P’un a ydych chi’n ymchwilio, yn cyfrannu, neu’n chwilfrydig, mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn eich cysylltu â 420,000 o gofnodion o hanes dynol ar draws Cymru, o’r cyfnod cynhanes i’r oes fodern.

Adneuo Data neu Gyfrannu at y Cofnod

Prosiectau Masnachol ac Ymchwil sy’n cyflwyno data, cliciwch yma.

Gall aelodau’r cyhoedd gyfrannu at y Cofnod mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gallwch:

  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw wybodaeth newydd sydd gennych neu ddweud wrthym os gwelwch chi rywbeth sy’n anghywir
  • Gadael i ni gael copi o unrhyw waith ymchwil rydych chi wedi’i wneud a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer ein cofnodion
  • Cyflwyno setiau data mawr neu fach (dilynwch ein canllawiau cyflwyno data)
  • Gwirfoddoli gyda ni i’n helpu i gynnal a gwella’r wybodaeth sydd gennym

Ar gyfer unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol isod.

Chwiliwch y Gronfa Ddata ar Archwilio

Chwiliwch y Gronfa Ddata ar Archwilio: www.archwilio.org.uk 

Ymholiadau a Gwybodaeth Gyswllt

Chwilio drwy’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar-lein drwy fynd i www.archwilio.org.uk 

Cyflwyno Ymholiad i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol

Gydag ymholiadau cyffredinol neu i drefnu apwyntiad i ymweld ag un o’n swyddfeydd rhanbarthol, anfonwch e-bost i’r [email protected].

Cais am Primary Record Numbers

I wneud cais am Primary Record Numbers (PRNs) newydd ar gyfer cofnodion digwyddiad na craidd ar gyfer adroddiad masnachol neu academaidd cliciwch yma