Neidio i'r prif gynnwys

Swyddog Rhwydwaith Gwirfoddoli NEWYDD Heneb

Siân Jackson Swyddog Rhwydwaith Gwirfoddoli NEWYDD Heneb

Mae’n bleser gennym ni groesawu Siân Jackson fel Swyddog Rhwydwaith Gwirfoddoli newydd Heneb, wedi’i ariannu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r swydd newydd hon yn gam cyffrous at gryfhau cyfranogiad cymunedau mewn archaeoleg ledled Cymru, ac rydyn ni’n falch dros ben o gael Siân yn gweithio ar y fenter bwysig hon.

Mae gan Siân brofiad helaeth o weithio gyda chymunedau, rheoli prosiectau a chysylltu â gwirfoddolwyr. Mae ei hangerdd dros alluogi pobl i archwilio, gwarchod a dathlu eu hanes lleol yn golygu y bydd hi’n ychwanegu’n aruthrol at y tîm. Bydd hi’n gweithio’n agos gyda grwpiau archaeoleg gymunedol, cymdeithasau lleol a gwirfoddolwyr i helpu i adeiladu rhwydwaith cryf a chefnogol, sydd â chysylltiadau da, ar hyd a lled y wlad.

Nod y Prosiect Rhwydwaith Gwirfoddoli newydd yw creu cyfleoedd i grwpiau, bach neu fawr, rannu sgiliau, dysgu gan ei gilydd, a chael gafael ar gymorth ymarferol. Efallai fod eich grŵp yn cynllunio gwaith cloddio newydd, yn rhedeg prosiect hanes lleol, yn trefnu digwyddiadau, neu’n dymuno tyfu eich cronfa gwirfoddolwyr – mae Siân yma i helpu.

Mae croeso i grwpiau archaeoleg gymunedol gysylltu â ni i drafod sut mae modd i’r prosiect gefnogi eich gwaith. Bydd Siân yn gallu rhoi cyngor ar recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, eich helpu chi i gysylltu â grwpiau eraill sy’n wynebu heriau tebyg, a rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau, adnoddau a chyfleoedd y Rhwydwaith. Dros y misoedd nesaf, bydd hi hefyd yn cydlynu gweithgareddau a hyfforddiant sydd wedi’u dylunio i gryfhau cysylltiadau a dathlu’r gwaith ysbrydoledig sydd eisoes yn digwydd ar draws ein cymunedau.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn archaeoleg gymunedol i gysylltu â ni, dim ots a ydych chi’n grŵp sydd wedi sefydlu ers tro, sydd newydd ffurfio, neu eich bod yn archwilio syniad. Gyda’n gilydd, gallwn ni adeiladu rhwydwaith cydweithredol a ffyniannus sy’n cefnogi gwirfoddoli, yn cynyddu sgiliau, ac yn hybu treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru.

Gallwch chi gysylltu â Siân ar [email protected]. Mae hi’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Mwy o Newyddion

Heneb yn y Senedd – Lansio ein Strategaeth 5 Mlynedd

Pleser oedd lansio Strategaeth 5 Mlynedd Heneb yn y Senedd yr wythnos hon, gan nodi ein huchelgais i lunio dyfodol…

Cryfhau’r Dreftadaeth Cymru

Ers bron i ddegawd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heneb (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru gynt) a Chadw wedi bod yn cydweithio…

Darlith Ar Gael Ar-lein Nawr

Mae’r ddarlith a roddwyd gan Gadeirydd Heneb, Dr Carol Bell ar Enedigaeth Heneb a Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol bellach…