
Ers bron i ddegawd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heneb (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru gynt) a Chadw wedi bod yn cydweithio i ddiogelu a dyfnhau ein dealltwriaeth o amgylcheddau naturiol a hanesyddol Cymru.
Yr wythnos diwethaf llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MC-dd) newydd gan Brif Weithredwr Dros Dro CNC, Ceri Davies, Pennaeth Cadw Gwilym Hughes a Phrif Weithredwr Heneb Richard Nicholls, gan atgyfnerthu’r bartneriaeth rhwng y tri sefydliad. Mae’r cytundebau hyn yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth blaenorol a lofnodwyd yn 2016 a 2020.
Mae’r cydweithio adnewydd hwn yn gam cadarnhaol ymlaen, gan sicrhau cynnydd parhaus wrth ddiogelu treftadaeth Cymru wrth amlinellu nodau a rennir a meysydd cydweithio sy’n ymwneud â’r amgylcheddau hanesyddol a naturiol.
“Mae ethos y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn aml wedi bod yn gatalydd ar gyfer cydweithio – am y tro cyntaf mewn rhai meysydd – ac yn hwb i gydweithio cryfach a chliriach mewn meysydd sefydledig.
Mae egwyddorion ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi sut y byddwn i gyd yn cydweithio’n ymarferol i sicrhau bod yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn rhan annatod o benderfyniadau sy’n effeithio ar reoli tir a’n bod yn rhoi sylw dyledus i’r dyletswyddau penodol a osodir arnom drwy ddeddfwriaeth.
Mae egwyddorion ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi sut y byddwn i gyd yn cydweithio’n ymarferol i sicrhau bod yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn rhan annatod o benderfyniadau sy’n effeithio ar reoli tir a’n bod yn rhoi sylw dyledus i’r dyletswyddau penodol a osodir arnom drwy ddeddfwriaeth.” – Ceri Davis, Prif Weithredwr Dros Dro CNC
“Mae Cymru’n cael ei chydnabod yn eang am ei thirweddau naturiol a hanesyddol eithriadol – tirweddau a luniwyd dros filoedd o flynyddoedd gan genedlaethau o bobl yn gweithio gyda’r tir.
Mae’r bartneriaeth hon yn llwyfan gwerthfawr iawn lle mae ymarferwyr sy’n angerddol am ofalu am ein treftadaeth werthfawr yn gallu cydweithio i gefnogi cadwraeth a rheolaeth gynaliadwy o’n hamgylchedd naturiol a hanesyddol.
Drwy’r cytundeb hwn rydym wedi gweld gwell cydweithio, wedi gweithio gyda’n gilydd i wella ein dealltwriaeth o heriau’r argyfwng natur a hinsawdd – a’r addasiadau sydd eu hangen – ac wedi datblygu enghreifftiau o arfer gorau i lywio dulliau rheoli tir at y dyfodol.” – Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw
“Mae cydweithio rhwng swyddogion yr amgylchedd hanesyddol, cadwraethwyr, a rheolwyr tir yn helpu i greu synergeddau sy’n arwain at strategaethau rheoli tir mwy effeithiol a chydgysylltiedig.
Mae’r dull hwn yn sicrhau bod ein treftadaeth naturiol a diwylliannol yn cael eu cadw a’u cynnal gyda’i gilydd, er budd pawb yng Nghymru, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Heneb – sef Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru – felly wedi ymrwymo’n llwyr i gryfhau’r bartneriaeth hollbwysig hon.” – Richard Nicholls, Prif Weithredwr Heneb