Skip to main content

Diogelu Archaeoleg Cymru drwy Gynllunio

Mae Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Heneb yn darparu cyngor diduedd ac arbenigol i sicrhau bod treftadaeth archaeolegol Cymru yn cael ei gwarchod yn ystod gwaith datblygu. O’r ymgynghori cychwynnol hyd at fonitro cydymffurfiaeth, rydym yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio, datblygwyr ac ymgynghorwyr i gydbwyso cynnydd â chadwraeth.

Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol

Heneb: Mae Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn adran annibynnol ar wahân o Heneb. Rydym yn darparu cyngor archaeolegol diduedd arbenigol i awdurdodau cynllunio lleol Cymru, yn ogystal ag i asiantaethau cenedlaethol, cwmnïau cyfleustodau, datblygwyr, ymgynghorwyr ac eraill sy’n ymwneud â datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Heneb yw’r gwasanaeth curadurol sy’n gyfrifol am bennu cwmpas yr holl waith archaeolegol a wneir mewn cyd-destun datblygu ac am sicrhau cydymffurfiad â safonau proffesiynol drwy fonitro prosiectau archaeolegol hyd at eu cyhoeddi.

Mae ein Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol yn cael ei ddarparu drwy bedwar rhanbarth Heneb.

  • Clwyd-Powys

    Mae rhanbarth Clwyd-Powys yn gweithio yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys a rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Dyfed

    Mae rhanbarth Dyfed yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Morgannwg-Gwent

    Mae rhanbarth Morgannwg-Gwent yn gweithio ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Abertawe, Bro Morgannwg a rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Gwynedd

    Ac mae rhanbarth Gwynedd yn gweithio yn Ynys Môn, Conwy, Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Os ydych chi yn y broses o gyflwyno cais cynllunio, mae Heneb yn awgrymu’r canlynol:

  • Mynnwch gyngor cynnar

    Rydym yn fwy na pharod i roi cyngor ar eich cais cynllunio.
  • Darperir cyngor cychwynnol am ddim

    Darperir cyngor cychwynnol am ddim, ond mater i’r ymgeisydd cynllunio yw cael a thalu am wybodaeth archaeolegol i gefnogi’r cais neu i gydymffurfio ag amod cynllunio.
  • Mae olion archaeolegol yn fregus

    Mae olion archaeolegol yn fregus ac ar ôl eu dinistrio ni ellir eu hail-greu. Mae’r system gynllunio wedi’i chynllunio i ddiogelu’r olion hyn. Os na ellir eu diogelu, bydd cynllunio da yn sicrhau bod cofnod ohonynt yn cael ei wneud cyn iddynt gael eu difrodi neu eu dinistrio.
  • Darganfyddiadau rhyfeddol

    Mae rhai o’r darganfyddiadau archaeolegol mwyaf anhygoel dros y degawdau diwethaf wedi deillio o amodau archaeolegol a roddwyd ar ganiatâd cynllunio

Dolenni Defnyddiol