Beth allaf ei ddweud am ein hamser yn Eisteddfod yr Urdd? Gallwn drafod yr 800 a mwy o bobl a ymwelodd â’n stondin dros y 7 niwrnod, neu’r cannoedd o droellenni gwerthyd a grëwyd gan bobl ifanc brwdfrydig (a Miss Cymru). Neu’r metrau o liain a nyddais wrth ddangos sut i ddefnyddio gwerthyd gollwng. Neu hyd yn oed y wyrth o gael Eisteddfod sych a phoeth yn hytrach na’r glaw a’r mwd mwy traddodiadol. Yn hytrach, rwyf am ganolbwyntio ar sut yr oedd ein presenoldeb yn galluogi ymwelwyr i weld ochr arall archeoleg.
Dyma ymweliad cyntaf Heneb ag Eisteddfod yr Urdd, ond roedd yn ymweliad a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd ein presenoldeb. Ar hyd y 7 niwrnod, buom yn siarad gyda llawer o athrawon a llywodraethwyr ysgolion, a oedd yn frwdfrydig ac yn falch o ddysgu am yr Ardoll Ysgolion newydd, sy’n galluogi staff Heneb i gyfoethogi’r cwricwlwm a hynny heb unrhyw gost i’r ysgol ei hun.
Mae tair ysgol eisoes wedi cysylltu â ni i ddechrau’r broses o drefnu’r ymweliadau hyn. Fe wnaethom gyflwyno archeoleg i’r gymuned hefyd; y casgliad trin a thrafod bychan a oedd yn cynnwys arteffactau o’r cyfnod cynhanesyddol, i gyfnod y Rhufeiniaid i’r cyfnod modern. Un o fy hoff atgofion o’r wythnos oedd gweld wyneb defnyddiwr cadair olwyn yn goleuo wrth iddyn nhw afael mewn darn o fortariwm Rhufeinig, cyn creu eu troellen gwerthyd eu hunain.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cawsom drafodaeth ddiddorol iawn gyda ffermwr lleol a oedd wedi ymddeol. Soniodd am sut yr oedd ef a’i deulu wedi tyfu a pharatoi llin i’w brosesu’n lliain yng nghanol yr 20fed ganrif yn Iwerddon: roedd wedi’i gyfareddu yn gwylio’r llin a oedd gennym at ddibenion arddangos yn cael ei nyddu’n edau wrth i ni siarad. Roedd dysgu am byllau mwydo llin a’r ffordd yr oedd y llin yn cael ei dynnu â llaw er mwyn cadw’r gwreiddyn cyfan, gan roi hyd hwy ac felly mwy gwerthfawr, yn datblygu fy nealltwriaeth o’r prosesau a oedd ond wedi’u ‘dysgu mewn llyfr’ cyn hynny.
Roedd siarad ag aelodau’r cyhoedd o bob oed a chefndir yn arddangos gwasanaethau eang Heneb; o dirfeddianwyr a dderbyniodd fanylion cyswllt ar gyfer ein gwasanaethau maes a chynllunio i staff a disgyblion ysgolion. Roedd pawb wedi dysgu rhywbeth newydd a gwerthfawr, yn ogystal â gwell dealltwriaeth o bosibl o’r ffordd mae archeoleg a hanes Cymru wedi’u plethu gyda’i hiaith a’i diwylliant. Rydym yn edrych ymlaen at yr haf nesaf yn barod!


