
Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod ein Swyddog Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Olivia wedi ennill Gwobr Ddoethurol am ei hymchwil i adfywiad hanesyddol Dduwiesau hynafol Môr y Canoldir a’r Aifft.
Dywedodd yr Athro Tansy Jessop, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Myfyrwyr ac Addysg ym Mhrifysgol Bryste: “Mae ein myfyrwyr doethurol yn angerddol ac yn chwilfrydig yn ddeallusol. Maent yn ymdrechu i dorri tir newydd ag yn sbarduno newid positif. Yn fwy na hynny, maent ar flaen y gad o ran datblygu syniadau ac arferion newydd trwy mynd ar drywydd cwestiynau sy’n bwysig i gymdeithas a’r blaned.”