Dathlu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Cymru yn Sain Ffagan
Dewch i fod yn rhan o ddiwrnod bywiog yn Sain Ffagan i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol Cymru?
Bydd cyfle i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau yn atriwm Sain Ffagan, gan gynnwys bandiau a dawnswyr gwerin o Gymru, Côr Meibion Risca, grwp dawns Qwerin, Dawns y Llew gyda Chymdeithas Tseiniaidd Cymru, cerddwyr stilts a mwy.
Bydd crefftwyr traddodiadol yn arddangos eu gwaith yn Gweithdy, gyda cherddorion ac adroddwyr straeon yn Y Vulcan.
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau am dreftadaeth fyw yn y ddarlithfa.
Mae croeso i bawb.
Bydd y digwyddiad hwn yn dod ag unigolion, sefydliadau a chymunedau ynghyd i ddathlu’r traddodiadau, ymarferion, a mynegiadau sy’n siapio ein hunaniaeth ddiwylliannol.
Bydd Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn bresennol drwy gydol y dydd.
Manylion
-
TrefnyddLlywodraeth Cymru / Welsh Government
-
MathYn bersonol
