Galw am Wirfoddolwyr! – Llandeilo
Yn dilyn gwaith cloddio llwyddiannus yng Nghaer Bentir Buckspool, mae gennym amrywiaeth ddiddorol o ddarganfyddiadau archaeolegol y mae angen eu prosesu.
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i lanhau a rhoi trefn ar y darganfyddiadau hyn ar 9 a 23 Hydref. Does dim angen profiad – dim ond diddordeb brwd a pharodrwydd i helpu.
Os gallwch chi ymuno â ni ym Mhencadlys Heneb yn Llandeilo i helpu gyda’r gwaith cyffrous hwn, anfonwch e-bost at Bethan Murphy [email protected] i gadw eich lle.
Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, Tŷ Cornel, 6 Heol Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AE

Manylion
-
MathYn bersonol
