Neidio i'r prif gynnwys

Yn dilyn gwaith cloddio llwyddiannus yng Nghaer Bentir Buckspool, mae gennym amrywiaeth ddiddorol o ddarganfyddiadau archaeolegol y mae angen eu prosesu.

Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i lanhau a rhoi trefn ar y darganfyddiadau hyn ar 9 a 23 Hydref. Does dim angen profiad – dim ond diddordeb brwd a pharodrwydd i helpu.

Os gallwch chi ymuno â ni ym Mhencadlys Heneb yn Llandeilo i helpu gyda’r gwaith cyffrous hwn, anfonwch e-bost at Bethan Murphy [email protected] i gadw eich lle.

Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, Tŷ Cornel, 6 Heol Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AE

Manylion

  • Math
    Yn bersonol

Digwyddiadau i ddod

5
Sep

Taith Tywys y Gogarth

Taith gerdded archaeolegol yn cychwyn yn Eglwys ganoloesol Sant Tudno a ffynhonnau cysegredig cyfagos, gan archwilio bryngaer Pen y Dinas…
22
Aug

Taith Tywys Moel Ty Uchaf

Archwiliwch rai safleoedd cynhanesyddol ucheldirol ym Mynyddoedd hardd a gwyllt y Berwyn, gan gynnwys ymweliad â chylch cerrig Moel Tŷ…
2
Oct

ArCC2026 – Cynhadledd Rufeinig yn Wrecsam

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y Gynhadledd Archaeoleg Cymru (ArCC) gyntaf yn cael ei chynnal yn Wrecsam…