Heneb yn CIfA 2026
Mae’n bleser gan Heneb gyhoeddi y byddwn yn mynd i Gynhadledd Flynyddol CIfA2026, a gynhelir yn ninas hanesyddol Caeredin. Hon yw prif gynhadledd archaeolegol broffesiynol y DU, sy’n dod â channoedd o ymarferwyr o bob rhan o’r sector treftadaeth at ei gilydd i rannu gwybodaeth, ymchwil ac arferion gorau.
Manylion y Gynhadledd
- Dyddiadau: Dydd Mawrth 28 Ebrill – Dydd Mercher 29 Ebrill 2026
- Lleoliad: Canolfan Gynadledda John McIntyre, Caeredin
Thema: Datblygu Cysylltiadau
Mae thema cynhadledd eleni, Datblygu Cysylltiadau, yn canolbwyntio ar gryfhau perthnasoedd ar draws y sector archaeolegol ac archwilio sut y gall cydweithio, arloesi a dysgu ar y cyd helpu i ddiogelu’r proffesiwn at y dyfodol.
Bydd y sesiynau’n edrych ar y canlynol:
- Materion proffesiynol cyfredol
- Arloesi mewn ymarfer archaeolegol
- Ymchwil o bob rhan o sectorau treftadaeth y DU ac yn rhyngwladol
Beth i’w Ddisgwyl
Mae’r rhaglen ddeuddydd yn cynnwys:
- Prif areithiau
- Ystod eang o sesiynau arbenigol
- Gweithdai hyfforddi
- Cyfleoedd i rwydweithio â chydweithwyr ar draws y sector
Heneb yn CIfA 2026
Bydd Heneb yn bresennol drwy gydol y gynhadledd, gan gyflwyno papurau, ymgysylltu â chymheiriaid, rhannu gwybodaeth o’n gwaith ledled Cymru, ac archwilio dulliau arloesol o ran ymarfer archaeolegol. Mae’r gynhadledd yn rhoi llwyfan delfrydol i:
- Adeiladu cysylltiadau proffesiynol
- Cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid ledled y DU
- Dysgu o ddatblygiadau arloesol yn y sector
- Cynrychioli tirwedd archaeolegol Cymru ar lwyfan cenedlaethol
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chydweithwyr a phartneriaid newydd yng Nghaeredin! Gobeithio y gwelwn ni rai ohonoch chi yno!
Rhagor o Wybodaeth
I gael y manylion llawn, ewch i dudalen swyddogol cynhadledd CIfA: [archaeologists.net]
Manylion
-
TrefnyddChartered Institute for Archaeologists
-
MathYn bersonol
