Neidio i'r prif gynnwys

Mae Heneb yn falch iawn o gadarnhau y byddwn yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol 2026, a gynhelir yn Sir Benfro, gan nodi dychweliad cyntaf yr ŵyl i’r sir mewn dros ddau ddegawd! Mae gŵyl 2026 yn arbennig gan ei bod yn dathlu 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chofnodi, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176.

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar safle ger Llantwd, rhwng Aberteifi ac Eglwyswrw, gan ddod â chymunedau ynghyd o Sir Benfro, de Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fel rhan o ddalgylch yr ŵyl sy’n ymestyn dros dair sir.

Bydd wythnos yr ŵyl ei hun yn digwydd rhwng 1 a 8 Awst 2026.

Presenoldeb Heneb yn yr Eisteddfod

Bydd Heneb yn cymryd rhan drwy gydol yr wythnos, gan ddathlu:

  • Treftadaeth archaeolegol a diwylliannol Cymru
  • Ymgysylltu â threftadaeth dan arweiniad y gymuned
  • Tirweddau a straeon de-orllewin Cymru

Byddwn yn rhannu mwy am ein gweithgareddau, ein digwyddiadau a’n cyfleoedd wrth i’r ŵyl agosáu.

Cadwch lygad allan

Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi:

  • Ein rhaglen o sgyrsiau, gweithgareddau a gwaith maes
  • Cyfleoedd i gwrdd â thîm Heneb
  • Ffyrdd i ymwelwyr o bob oed archwilio archaeoleg yn yr Eisteddfod

Cadwch lygad am ragor o wybodaeth a manylion llawn cyn bo hir – gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Manylion

  • Math
    Yn bersonol
    Rhith

Digwyddiadau i ddod

5
Sep

Capel Sant Padrig, Bae Porth Mawr

Un o'r safleoedd archaeolegol mwyaf arwyddocaol a gloddiwyd yn Sir Benfro hyd yma yw safle cynnar canoloesol Capel Sant Padrig,…
5
Sep

Taith Tywys y Gogarth

Taith gerdded archaeolegol yn cychwyn yn Eglwys ganoloesol Sant Tudno a ffynhonnau cysegredig cyfagos, gan archwilio bryngaer Pen y Dinas…
18
Jul

Gŵyl Archaeoleg 2026

Thema: Archaeoleg a Natur Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Heneb yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg 2026 Cyngor…