Wythnos Cymru Llundain yn Burlington House
Ymunwch â ni i ddathlu blwyddyn o archaeoleg, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y Cei Canoloesol cyntaf a ddarganfuwyd yng Nghymru
Yn ogystal â gwybodaeth y tu ôl i’r llenni am waith cloddio Heneb ledled Cymru, cewch gyfle i sgwrsio â’n harcheolegwyr, cyfarfod ag aelodau o dîm arweinyddiaeth Heneb, rhannu eich syniadau a gofyn cwestiynaumewn derbyniad diodydd yn ystafell eiconig y ‘Council room’ wedi’i hamgylchynu gan lyfrgell hanesyddol, portreadau brenhinol a chwmni bendigedig yn y lleoliad hardd hwn.
Mae’r digwyddiad yn addas i bawb, mae croeso i bawb, ac mae mynediad am ddim!

Manylion
-
TrefnyddHeneb
-
MathYn bersonol
