Neidio i'r prif gynnwys

Ar ddiwedd Mai, byddwn yn ffarwelio â Mark Walters, sy’n ymddeol ar ôl gweithio am 35 mlynedd yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (YACP), a Heneb wedyn.

Dechreuodd Mark gyda YACP ym 1991 fel Archaeolegydd Rheoli Datblygu ac mae wedi darparu gwasanaethau cynllunio archaeolegol yn rhanbarth Clwyd-Powys byth ers hynny – yn cynghori datblygwyr, awdurdodau lleol a’r cyhoedd ar y goblygiadau archaeolegol mewn cynigion cynllunio, ac yn monitro gwaith contractwyr archaeolegol. Mae’n aelod o’r tîm sy’n annwyl ac yn fawr ei barch, a byddwn yn gweld colled fawr ar ei ôl ar gyfrif ei wybodaeth a’i brofiad.

Enillodd Mark radd BA (Anrh) mewn Archaeoleg a Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ym 1986. Treuliodd nifer o flynyddoedd wedyn yn archaeolegydd maes gyda gwahanol unedau. Roedd ei gyfnod hiraf o gyflogaeth gydag Uned Gloddio Dinas Caerloyw lle cododd o fod yn gynorthwyydd safle i fod yn oruchwyliwr ac wedyn yn swyddog prosiect. Bryd hynny, roedd hefyd yn gweithio fel nwmismatydd llawrydd, yn ysgrifennu adroddiadau arbenigol ar ddarnau arian i sefydliadau eraill. Rai blynyddoedd wedyn, wrth weithio gyda CPAT, aeth Mark yn ôl i’r brifysgol ac ennill gradd MA mewn Treftadaeth Ddiwydiannol gan Athrofa Ironbridge sy’n rhan o Brifysgol Birmingham.

Mae gan Mark lawer o wahanol ddiddordebau mewn archaeoleg a meysydd eraill. Mae’n ymddiddori o hyd mewn darnau arian (yn enwedig rhai Rhufeinig), mewn archaeoleg mwyngloddio ac ymladd ac mewn crefydd. Dros y blynyddoedd mae wedi ehangu ei ddiddordebau i gynnwys ffotogrametreg a ffotograffiaeth dronau/cerbydau awyr di-griw, delweddu a dehongli LiDAR, seryddiaeth archaeolegol, ac acwsteg archaeolegol. Y tu allan i faes archaeoleg, mae Mark yn ymddiddori, ymysg pethau eraill, mewn seryddiaeth a ffotograffiaeth seryddol, ffilmiau a llyfrau ffugwyddonol, tynnu lluniau o dirweddau ac o’r awyr a cherdded mynyddoedd. Mae hefyd yn mwynhau cerddoriaeth o bob math, ond yn enwedig gerddoriaeth gynnar, arbrofol ac electronig, a recordio sain. Bydd yn creu ei gerddoriaeth ei hun gan gyfuno nifer o’r diddordebau uchod, yn recordio seiniau wrth gerdded yn y bryniau neu’n ymweld â thirweddau mwyngloddio anghofiedig.

Rydym wedi holi Mark i gael gwybod sut y daeth i weithio ym maes archaeoleg:

Beth oedd wedi’ch sbarduno’n gyntaf i weithio ym maes archaeoleg ?

Mae’n debyg bod y diddordeb wedi dechrau ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au pan fyddai fy nhad yn dangos i mi ddarnau arian Rhufeinig a Groegaidd a oedd ganddo yn ei gasgliad ac yn egluro’r hanes y tu ôl iddyn nhw a chefndir y bobl roedden nhw’n eu darlunio. O hynny ymlaen, roeddwn i wedi magu diddordeb mawr yn hanes yr henfyd ac wedyn mewn archaeoleg. Byddai Dad yn arfer cymryd rhan mewn gwaith cloddio gyda grŵp archaeolegol yng Nghanolbarth Lloegr a oedd yn gweithio ar safle caer ac anheddiad Rhufeinig yn Penkridge yn Swydd Stafford a bydden ni’n cael mynd i weld beth roedden nhw wedi’i ddarganfod. Erbyn 1981 roeddwn i’n cloddio ar safle a oedd yn brin 12 milltir i fyny’r ffordd yn y dref Rufeinig sydd islaw pentref Wall (Letocetum), Swydd Stafford fel gwirfoddolwr ar y penwythnosau am ddwy flynedd pan oedd Frank a Nancy Ball yn arwain y gwaith cloddio yn y fan honno. Dyma oedd y profiad cyntaf go iawn i mi ei gael o waith cloddio archaeolegol ac roeddwn i wrth fy modd a gwnes i nifer o ffrindiau rydw i’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw.

Beth yw’r peth gorau i chi ddod o hyd iddo?

Mae’n debyg mai’r darganfyddiad gorau oedd set o lestri Samiaidd a llestri cain Rhufeinig mewn pentwr uchel, yn rhan o gasgliad o lestri bwrdd wedi’u cadw o fewn ei gilydd ar aelwyd, yn cynnwys platiau, cwpanau, powlenni addurnedig a llestri gwydr. Roedd y rhain wedi dod i’r golwg mewn trawstoriad wrth wylio’r gwaith cloddio ar safle ar gyrion Caerloyw lle roedden ni’n gwybod bod mynwent yn bodoli. Yn ddigon ffodus, roedd y peiriant wedi methu’r llestri’n llwyr ac roedden ni wedi gallu eu codi’n  gyfan ac roedd pob dim yn ymddangos yn berffaith gyda gloywedd hardd a ffres ar wyneb y llestri. Roedd y casgliad yn cael ei gysylltu â chorfflosgiad menyw ac mae’n bosibl ei fod wedi cael ei osod fel nwyddau claddu ar ôl cadw gwylnos. Roedden nhw’n cael eu harddangos am hydoedd yng nghyntedd y fynedfa i Amgueddfa Dinas Caerloyw a byddai’n dda cael mynd yn ôl yno i’w gweld.

Beth yw’ch hoff safle hanesyddol neu archaeolegol?

Mae cymaint ohonyn nhw! Rydw i wrth fy modd gyda safleoedd lle mae archaeoleg a hanes yn dod at ei gilydd mewn un digwyddiad byr hanesyddol y gallwch chi ei weld yn y fan a’r lle a darllen amdano. Mae fel drws mewn amser sy’n eich cipio’n ôl i’r union eiliad honno yn y gorffennol a gallwch chi weld y cyfan yn digwydd o’ch cwmpas yn yr union leoliad. Yn ôl ym 1983 cymerais i ran fel gwirfoddolwr mewn gwaith cloddio yn Israel mewn lle o’r enw Gamla yn Ucheldiroedd Golan. Mae yna olygfeydd hyfryd oddi yno ac mae’r ardal yn Barc Cenedlaethol bellach gyda bywyd gwyllt rhyfeddol, rhaeadr anferthol ac olion archaeolegol ardderchog. Mae Gamla yn cael ei alw’n aml yn ‘Masada’r Gogledd’ yn Israel a chafwyd gwarchae yno gan y Rhufeiniaid a lladdfa ofnadwy yn 67OC yn ystod Gwrthryfel yr Iddewon. Gallwch chi ddarllen am y gwarchae mewn disgrifiad gan lygad-dyst sydd wedi cael ei ailadrodd mewn testun clasurol o’r enw Rhyfel yr Iddewon gan Josephus. Roedd Josephus yn un o’r gwrthryfelwyr i ddechrau ac wedyn wedi cymryd ochr y Rhufeiniaid. Ysgrifennodd ddisgrifiad manwl o ddigwyddiadau’r

rhyfel. Mae adfeilion y ddinas Iddewig i’w gweld o hyd ar lethrau’r bryn, ar ben craig uchel gyda dyffryn serth ar y ddwy ochr. Gallech chi ddarllen am y gawod o saethau a phelenni o’r blifiau a balistâu a’u gweld nhw ar y llawr – roedden nhw ym mhob man. Gallech weld y bwlch ym mur y ddinas a oedd wedi cael ei wneud gan hwrdd rhyfel o ben llwyfan gwarchae lle roedd y milwyr Rhufeinig wedi heidio drwodd. Gallech weld y tŵr ar ben y mur a oedd wedi cael ei danseilio a’i ddymchwel gan y Rhufeiniaid a gweld effaith drychinebus yr ymosodiad o fewn y ddinas wrth i ni gloddio mewn ystafelloedd a’u waliau wedi cwympo a darganfod trysorfa o wybodaeth am oriau a dyddiau olaf y naw mil o drigolion. Mae’n lle sy’n eich cyffwrdd ac mae mewn cyflwr da iawn. Byddai cwningen y cerrig fach (yn eithaf tebyg i fochyn cwta mawr) yn dod i’r gwersyll pebyll gyda’r nos ac roedd griffoniaid, adar haul Palesteina a bronfreithod y graig glas yn hedfan o’n cwmpas a gwelson ni hen ddigon o sgorpionau!

Dymunwn ymddeoliad hir a hapus i Mark, gan obeithio ei weld ar un o’n safleoedd cloddio cymunedol yn ystod yr haf – chewch chi ddim dianc mor hawdd â hynny!

Mwy o Newyddion

Ffarwel Annwyl

Mae rhai o'n haelodau staff hir sefydlog yn ein gadael. Hoffem ddiolch iddynt am eu hymroddiad dros y blynyddoedd a'ch…

Gwobrau Cyflawniad Archeolegol

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod ein Prosiect Archeolegol Cymunedol Bryngaer Pendinas gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi derbyn Canmoliaeth Uchel gan feirniaid categori Estyn Allan a Chyfranogi yng nghystadleuaeth Gwobrau Cyflawniad Archeolegol CAP a gynhaliwyd yng Nghaerdydd am 22ain Tachwedd 2024.

Melissa Lambe, Swyddog CAH (Cofnod Amgylchedd Hanesyddol) Heneb ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Archaeoleg Genedlaethol

Mae Melissa Lambe, Swyddog CAH Heneb wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cyflawniad Archaeolegol 2025, gwobrau sy’n dathlu cyfraniadau rhagorol at…