
Mae rhai o’n haelodau staff hir sefydlog yn ein gadael. Hoffem ddiolch iddynt am eu hymroddiad dros y blynyddoedd a’ch gwahodd i gofio rhai o’u cyflawniadau ac uchafbwyntiau gyrfa gyda ni.
Anne-Marie Oattes
Yn dilyn gyrfa amrywiol, a gwirfoddoli gyda George Smith ar gloddiadau ar ucheldiroedd Penmaenmawr, ddilynodd Anne-Marie Oattes ei diddordeb oes hir mewn hanes ac ymunodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn 2007 ar safle anheddiad Neolithig ym Mharc Cybi. Roedd ar y safle hwn ddaru hi ddod ar draws ei ddarganfyddiad penodol o ddarn crochenwaith ardynedig enfawr, amryw o deilchion crochenwaith a theclynnau fflint oddi fewn pydew croestorred.
Gyda’i angerdd i gloddio a dod ar draws archaeoleg ddiddorol, un o’r agweddau difyr o’r yrfa hir hi yn y maes yw cwrdd ag amrywiad o bobl wahanol ar safle. Gan gynnwys archeolegwyr eraill, gweithio wrth ymyl gweithiwr adeiladu, rhyngweithio gyda’r cyhoedd a chael sgyrsiau diddorol gyda gwirfoddolwyr ar brosiectau cymunedol.
Yn fuan fydd Anne-Marie yn cymryd gorffwys haeddiannol iawn o’r maes cyn ymgymryd â rhywbeth newydd. Mae ei gyrfa hir wedi cael ei ysbrydoli gan archeolegwyr benyw eraill fel Frances Lynch a Jane Kenney.

Jane Kenney
Mentrodd Jane Kenney ddiddordeb mewn gwaith maes yn ystod ei chloddiad cyntaf ar Wal Hadrian ger y Bwlch Sycamorwydden ym 1984. Ar ôl wedi derbyn PhD a gweithio ar y Cylched am sawl blwyddyn ar amryw o safleoedd ar hyd Prydain (ac y Swistir) – wnaeth hi ymuno am y tro cyntaf i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd gan weithio ar safle Tŷ Mawr yn 1999.
Cloddio sydd wedi bod yr fwynhad penodol yn ystod gyrfa hir sefydlog Jane. Yn ddiweddar mae hi wedi cael llawer o bleser yn cloddio yn Chwarel Penrhyn a Phrosiect Bwyell Llanfairfechan; gyda gyrru amryw o gerbydau 4×4 ar hyd tiroedd ansefydlog ucheldiroedd Gogledd Cymru wedi bod yn uchafbwynt mawr! Mae Jane yn ystyried mai cyflawnad fwyaf hi yn ystod ei gyrfa gyda GAT/Heneb yw arwain yr cloddiad ym Mharc Cybi. Hwn gan gynnwys rhai o’i darganfyddiadau gorau hi sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ei llyfr “A Welsh Landscape Through Time”.
“Mae’r broses o dynnu’r safle ar wahân ac yn deall be wnaeth ddigwydd sydd y mwyaf cyffroes i mi. Y peth fwyaf boddhaol yn archaeoleg yw pryd mae’r Matrics Harris rydych wedi gweithio arno am ddyddiau yn dod at ei gilydd a gwneud synnwyr, yn sydyn rydych yn deall yr holl safle.” Jane Kenney
Fel Anne-Marie, mae Jane yn ystyried Frances Lynch I fod yn ysbrydoliaeth fawr, ac yn gobeithio, yn dilyn ymddiswyddiad cynnar o Heneb, medrith dal cario ymlaen mor hir â Frances. Mae’n gobeithio ysgrifennu fersiwn newydd o “Prehistoric Anglesey” wedi ei diweddaru gydag y cloddiadau i gyd ers argraffiad diweddar Lynch ym 1991, gwrthlaw gyda chyhoeddiadau eraill ac yn bwriadu gwario fwy o amser hi ar ei phrif angerdd… cloddio!

Richard Hankinson
Profiad cyntaf Richard o archaeoleg oedd pan oedd yn ei arddegau yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd yng nghanol y 1970au, yn helpu ar gloddiad yng nghaer Rufeinig Ffordun. Ar ôl astudio Ffiseg yn y brifysgol, daeth yn ôl i archaeoleg ym 1987, drwy gynllun cyflogaeth y Comisiwn Gwasanaethau Gweithlu, ar apwyntiad 12 mis gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Stori hir yn fyr, mae wedi bod gyda ni ers hynny! Yn ystod ei flynyddoedd cynnar gyda YACP bu Richard yn gweithio ar gloddiadau mawr o rai safleoedd gwirioneddol eiconig – Eglwys Pennant Melangell, Castell y Fflint, cymhlyg cynhanesyddol Sarn-y-bryn-caled, caer a vicus Rufeinig Caersws, carnedd gladdu Pen-y-fan o’r Oes Efydd; aeth hyd yn oed yn ôl i Gaer Ffordun.
Erbyn diwedd y 1990au, roedd Richard wedi sefydlu ei hun fel aelod craidd o dîm y Gwasanaethau Maes. Trodd ei stoc-mewn-fasnach yn arolwg ucheldir, gan sathru’n systematig rhostir, rhos a chors i gofnodi archaeoleg mewn amodau heriol iawn yn aml. Bu cefndir Richard mewn mathemateg a ffiseg yn ddefnyddiol pan ddaeth arolwg geoffisegol yn fwy eang mewn archaeoleg. Am nifer o flynyddoedd bu’n geoffisegydd mynd i’r YACP, yn arbennig yn arolygu Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng, a’r anheddiad sifil Rhufeinig o amgylch y gaer ym Mhen-y-gaer ger Aberhonddu gyda chanlyniadau trawiadol.
Dros y blynyddoedd, bu Richard yn gweithio ar gyfres o brosiectau Cymru gyfan a ariannwyd gan Cadw, yn astudio bythod crwn, henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, aneddiadau gwledig anghyfannedd, mynwentydd canoloesol cynnar, safleoedd mynachaidd cynnar, ogofâu, safleoedd damweiniau awyr o’r Ail Ryfel Byd ac eraill. Roedd rhai o gyfraniadau pwysicaf Richard yn yr astudiaeth a’r arolwg o glawdd byr o’r Oesoedd Canol Cynnar, a helpodd i gynhyrchu rhai o’r dyddiadau radiocarbon cyntaf ar gyfer y grŵp enigmatig hwn o henebion. Yn ddiweddar mae wedi cyflwyno erthygl ar y pwnc hwn i’r Siwrnal Offa’s Dyke, felly gwyliwch y gofod hwn!
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Richard wedi gweithio fwyfwy ar waith contract a ariennir yn fasnachol, gan ganfod ei hun yn aml yn ôl yn yr ucheldiroedd yn asesu safleoedd ffermydd gwynt arfaethedig, ond hefyd yn asesu prosiectau adfer mwyngloddiau metel y 19eg ganrif, cynlluniau ffyrdd a datblygiadau tai ledled rhanbarth Clwyd-Powys a thu hwnt. Bydd tîm Clwyd Powys yn gweld eisiau Richard yn fawr. Ar ôl bron i 38 mlynedd mae’n rhan allweddol o’n hanes ac yn wirioneddol ymgorffori’r diffiniad o gydnerth – ffyddlon, dibynadwy a gweithgar. Dymunwn yn dda iddo yn ei gamau nesaf.
