Yn Heneb, rydym yn ymroddedig i ysbrydoli gwerthfawrogiad dyfnach o’n treftadaeth gyfoethog ac archaeoleg gyfareddol. Mae ein mentrau Cymunedol ac Allgymorth yn cysylltu pobl o bob oed â’r trysorau diwylliannol o’u cwmpas, gan ddod â hanes yn fyw trwy raglenni hygyrch a deniadol. Rydym yn cydweithio gyda amrediad eang o sefydliadau, cymunedau ac unigolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chyfranogiad mewn cadwraeth treftadaeth.
Trwy ddigwyddiadau cyhoeddus fel cloddiadau cymunedol, diwrnodau agored ar safle, sgyrsiau rhyngweithiol, a gweithdai addysgol, rydym yn gwahodd pawb i archwilio’r straeon sydd wedi siapio ein byd. Mae ein tîm o arbenigwyr yn rhannu mewnwelediadau gwerthfawr i archaeoleg, gan wneud treftadaeth yn hygyrch a chyffrous i bob cynulleidfa, o gymdeithasau ac ysgolion lleol i grwpiau cymunedol a selogion treftadaeth.
Mae Heneb yn cefnogi cyfleoedd dysgu ymarferol, gan gynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr o ysgolion a phrifysgolion lleol ag ar draws y wlad. Mae’r lleoliadau hyn yn darparu profiad ymarferol mewn archaeoleg, gan annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr treftadaeth proffesiynol.

Siaradwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru gyda ni neu wahodd Heneb i gefnogi eich digwyddiad, cysylltwch â ni. Mae ein tîm yma i ddod â gwybodaeth, arbenigedd a brwdfrydedd i amrediad eang o ddigwyddiadau, gan helpu i wneud pob achlysur yn llwyddiant.