Yn Heneb, rydym yn ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer cofnodi a chyflwyno gwybodaeth archaeolegol. Mae’r cynnydd cyflym mewn technoleg ddigidol wedi rhoi cyfle delfrydol i gynnig cyfres well o ddata i gleientiaid.
Mae ein sganiwr laser yn caniatáu creu cymylau pwynt graddadwy i weddu i anghenion a gofynion prosiectau, gan gynnwys cofnodi strwythurol neu tirweddol.
Mae ffotogrametreg yn ddull syml a chost-effeithiol ar gyfer cofnodi gwaith maes a strwythurau yn gyflym, gan ategu a gwella dulliau recordio mwy traddodiadol; gellir ei gwblhau gan ddefnyddio camerâu digidol a / neu Awyrennau Ddi-beilot, gyda’r olaf yn darparu gwelediad mwy unigryw.
Gellir defnyddio’r data i gyflwyno drychiadau a chynlluniau, yn ogystal â modelau 3D mwy cymhleth. Gellir cynnal y modelau ar-lein hefyd ar gyfer gwylio ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Siaradwch â ni
Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gall ein gwasanaethau Modelu 3D, Ffotogrametreg ac Awyrennau Ddi-beilot (UAV) gefnogi eich prosiect.