
Ein gorffennol sy’n ffurfio ein dyfodol. Mae Heneb yn falch o ddiogelu’r dreftadaeth archaeolegol gyfoethog sydd gan Gymru, gan sicrhau bod storïau ein hynafiaid yn dal i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i chi gefnogi’r gwaith hwn yw gadael rhodd yn eich ewyllys. Bydd hyn yn fwy na rhodd yn unig; bydd yn waddol parhaol a fydd yn helpu i ddiogelu hanes a hunaniaeth Cymru ymhell i’r dyfodol.
Pam ystyried gadael rhodd?
Mae rhodd mewn ewyllys yn ffordd syml ond ystyrlon i wneud gwahaniaeth. Mae’n ffordd i chi allu:
- Dathlu beth sy’n bwysig i chi – gan ddangos eich ymrwymiad i dreftadaeth a diwylliant Cymru
- Cefnogi gwaith hanfodol – helpu i ariannu gwaith cloddio, ymchwil ac addysg
- Creu effaith sy’n para – rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol ddod i gysylltiad ag archaeoleg
Beth yw rhodd mewn ewyllys?
Mae rhodd mewn ewyllys yn ffordd i roi rhywbeth o’r neilltu, boed yn swm o arian, yn gyfran o’ch ystad neu’n eitem werthfawr, i gefnogi achos sy’n bwysig i chi – archaeoleg.
Byddai’r ymddiriedolaethau archaeolegol rhanbarthol blaenorol weithiau’n derbyn rhoddion mewn ewyllysiau. Bydd pobl yn dewis y ffordd hon i gefnogi archaeoleg yng Nghymru oherwydd:
- Nid yw’n effeithio ar eich sefyllfa ariannol tra byddwch yn fyw – Byddwch yn dal i allu rheoli’ch holl asedau
- Mae’n hyblyg – gallwch adael swm penodol neu gyfran o’ch ystad
- Mae’n effeithlon o ran treth – mae rhoddion i elusennau fel Heneb yn esempt rhag treth etifeddiant a gallant leihau’ch atebolrwydd cyffredinol i dalu treth
- Mae’n caniatáu i chi roi mwy nag a allai fod yn bosibl tra byddwch yn fyw, gan ddal i ddarparu ar gyfer eich anwyliaid a dibenion elusennol eraill
Sut i gynnwys Heneb yn eich ewyllys
Os ydych yn ystyried gadael rhodd yn eich ewyllys i gefnogi archaeoleg yng Nghymru, dyma rai camau syml i’w cymryd:
- Meddwl am eich gwaddol Ystyried beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi, a’r gwahaniaeth yr hoffech ei wneud er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
- Siarad â chyfreithiwr neu gynghorydd ariannol Bydd yn gallu helpu i sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu cofnodi’n glir a rhoi cyngor ar y ffordd orau i weithredu yn ôl eich amgylchiadau chi.
- Penderfynu sut bydd eich rhodd yn cael ei defnyddio Mae rhoddion heb gyfyngiadau yn caniatáu i ni ymateb lle mae’r angen mwyaf. Os yw’n well gennych chi, gallwch gefnogi maes penodol fel gwaith ymchwil, gwaith cloddio neu addysg. Byddwn yn falch o’ch helpu i sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu gwireddu.
- Diweddaru’ch ewyllys Wrth i’ch amgylchiadau newid, bydd yn werth adolygu’ch ewyllys o bryd i’w gilydd.
- Rhoi gwybod i ni (os hoffech chi wneud hynny) Does dim rhaid i chi ddweud wrthym ni ond, os byddwch yn gwneud, byddem yn hoffi diolch i chi a’ch cadw mewn cysylltiad â’r agweddau o’n gwaith sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu gael sgwrs am eich syniadau, bydd ein Prif Weithredwr yn falch o glywed gennych.
- E-bost: [email protected]
- Ffôn: 01558 823121
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ffordd i ymestyn eich cariad at dreftadaeth i’r dyfodol. Diolch.