Neidio i'r prif gynnwys

Yn sgil rhaglen hir o waith llwyddiannus ar gestyll mwnt a beili yng ngororau’r gogledd-ddwyrain, mae rhanbarth Clwyd Powys wedi croesi’r ffin yn ddiweddar i gynorthwyo mewn prosiect newydd yng Nghastell Mwnt a Beili Ellesmere. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar y cloddiau trawiadol, lle mae Heneb yn darparu cymorth archaeolegol arbenigol i ymchwilwyr lleol.

Bu’n bosibl ymgymryd â’r gwaith o ganlyniad i dderbyn grant gan Glwb Bowlio Ellesmere oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll i ymchwilio i safle Castell Ellesmere (sydd yn eiddo i’r clwb) a meysydd Castlefields gerllaw, sydd yn eiddo i Gyngor Swydd Amwythig. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Nick Cull a Gary Bick o’r clwb bowlio, ac mae’r holl arolygon yn cael eu cynnal gyda chydsyniad Historic England.

Ymysg yr ymchwiliadau sydd wedi’u cynnal hyd yma y mae arolwg Radar Treiddio Tir o’r mwnt, a gyflawnwyd gan Adam Cook o SMT, ac wedyn dadansoddiad LiDAR ac arolygon geoffisegol ychwanegol (magnetometreg a gwrthedd trydanol) a gyflawnwyd gan Heneb. Gyda’i gilydd, bydd y technegau anymwthiol hyn yn ein galluogi i greu darlun o’r hyn sydd yn debygol o fod dan wyneb y tir, heb ymyrryd â’r tir na’r nodweddion archeolegol o dano.

Credir bod Castell Ellesmere wedi cael ei godi yn fuan ar ôl 1086 gan Roger de Montgomery, arglwydd pwerus yn y gororau. Yn dilyn gwrthryfel gan ei fab, Robert de Bellême, ym 1101, aeth y castell yn eiddo i’r Goron. Dros y ganrif wedyn, roedd y faenor wedi newid dwylo, yn cynnwys perchnogaeth gan William Peverel o Dover ac yn ddiweddarach gan y Tywysog Dafydd ab Owain, yn dilyn ei briodas â chwaer Harri’r Ail, Emma o Angyw, ym 1174.

Mae’r canlyniadau a gafwyd hyd yma o’r arolygon yn galonogol iawn. Yn yr un modd â nifer o gestyll y gororau, mae’n ymddangos bellach fod Castell Ellesmere yn fwy cymhleth o lawer nag a gredwyd yn wreiddiol. Wrth edrych ar yr holl dystiolaeth gyda’i gilydd, mae’n ymddangos yn debygol iawn bod olion helaeth o waith cerrig dan y wyneb, a hynny’n dangos bod adeiladau sylweddol o gerrig ar y safle ar un adeg yn hytrach na dim ond mwnt a beili pren. Er ei bod yn debygol bod cryn lawer o’r cerrig hynny wedi cael eu hysbeilio’n gyson yn ystod y cyfnod canoloesol diweddarach, mae’n bosibl iawn bod olion pwysig dan y wyneb o hyd, wedi eu selio dan y lawnt fowlio Sioraidd.

Mwy o Newyddion

Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur – Strata Florida Trust 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fel elusen yn 2006 a phrynodd fferm Mynachlog Fawr yn 2016. Mae’n cael ei rhedeg gan…

Abaty Dinas Basing a Dyffryn Maes Glas: Haf prysur o gloddio!

Yr haf hwn (2025), rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, fe wnaethom ddychwelyd i Abaty Dinas Basing a Pharc Treftadaeth…
Dr Olivia Husoy-Ciaccia wins Doctoral Prize from Bristol University!

Enillwyd Dr Olivia Husoy-Ciaccia Gwobr Doethuriaeth o Brifysgol Bryste!

Rydym yn falch iawn o rannu'r newyddion bod ein Swyddog Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Olivia wedi ennill Gwobr Ddoethurol am ei…