Neidio i'r prif gynnwys

Eisiau bod yn wirfoddolwr?

O gloddio i brosesu canfyddiadau, caffaeliad llyfrgelloedd i’r cyfryngau cymdeithasol (a phopeth rhyngddynt) rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn gallu cymryd rhan ym mhob agwedd ar ein gwaith.

Yn Heneb, rydym yn cynnig amrywiaeth o swyddogaethau gwirfoddoli sy’n cael eu hadolygu a’u datblygu’n rheolaidd i wneud yn siwr bod wirfoddoli gyda ni yn parhau i fod yn hwyl, yn effeithiol ac yn gynhwysol.

Ni allai cofrestru i fod yn wirfoddolwr fod yn haws, tanysgrifiwch i’n rhestr bostio trwy glicio yma.

Cofrestrwch

Cofrestrwch am gyfleoedd gwirfoddoli

Ymunwch â ni

Dewch yn Aelod

Digwyddiadau

Digwyddiadau i ddod

Cyfleoedd

Profiad Gwaith

O’r Ysgol Uwchradd i Ôl-raddedig gallwn greu lleoliad tymor penodol i roi’r profiad sydd ei angen arnoch i’ch cefnogi i ddilyn eich gyrfa ddelfrydol.

Gwaith Wrth Y Ddesg

P’un a yw’n cynorthwyo gyda’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER), helpu i ddylunio cynnwys cyfryngau cymdeithasol atyniadol neu ymgymryd ag atchweliad map hanesyddol gall eich help fod yn ased go iawn i Heneb.

Cloddiadau

Os ydych chi’n mwynhau’r awyr agored ag yn medrus gyda thrywel yn eich llaw, yna beth am ymuno â ni ar gyfer un o’n cloddiadau cymunedol. Maent yn digwydd trwy gydol y flwyddyn ar draws y wlad ac yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, finiogi eich sgiliau archaeolegol a chael awyr iach (gyda’r bonws ychwanegol o de a bisgedi!).

Prosesu Canfyddiadau

Yn ystod, ac ar ôl ein cloddiadau mae llawer o ddeunydd y mae angen ei lanhau, ei brosesu a’i gofnodi. Mae hon yn ffordd wych o fod yn rhan o’r weithred heb ofynion corfforol cloddio ffosydd.

Yn Dda i Wybod

Byddwch yn ymwybodol y gall cyfleoedd i wirfoddoli gyda Heneb fod yn gystadleuol iawn ac efallai na fyddwn bob amser yn gallu hwyluso lleoliadau gwirfoddoli. Unwaith y byddwch wedi tanysgrifio i’n rhestr bostio gwirfoddolwyr byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw cyfleoedd ar gael, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.


Nodwch – i unrhyw un o dan 16 oed, bydd angen i oedolyn fynd gyda chi. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i cyfaddasu ar gyfer bobl o dan 16 oed, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch ac mae’n dibynnu ar natur y cloddio. Gwneir penderfyniadau yn ôl disgresiwn yr archeolegydd arweiniol.

Gofynnir i wirfoddolwyr ddarllen a llofnodi Cod Ymddygiad wrth gyrraedd lleoliad. Gellir dod o hyd i gopi o hyn YMA. Gall aelod o staff ofyn i unrhyw berson y canfyddir eu bod yn torri’r Cod ar unrhyw adeg, ac mewn achosion difrifol gall hefyd arwain at dynnu’n barhaol oddi ar gynllun gwirfoddoli Heneb.

Cod Ymddygiad ar Gyfer Gwirfoddolwyr 

Gwirfoddolwyr Heneb a Diogelu’

Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn pwysleisio diogelwch, lles a mwynhad ein staff, contractwyr a gwirfoddolwyr. Mae ein polisi diogelwch yn berthnasol i bob gweithgaredd, un ai ar lein neu yn wyneb i wyneb.



Nid ydym yn caniatáu unrhyw weithred fydd yn peri pryder, iaith sarhaus neu ymddygiad digroeso.

Os byddech yn gweld unrhyw ymddygiad all fod yn ddigroeso neu mae ymddygiad gan berson yn peri pryder, rydym yn eich annog i gysylltu â’r Tîm Diogelwch ar [email protected].

Cewch ddarllen ein Polisi Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed yma a’r Cod Ymddygiad ar Gyfer Gwirfoddolwyr yma