Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol.
Mae’r ardal arfordirol yma o forydau, iseldiroedd arfordirol, twyni tywod a barrau tywod rhynglanw yn gorwedd ar ochr ogledd ddwyrain Bae Caerfyrddin ar arfordir De Cymru. Tu cefn i’r eangderau hir o dwyni tywod ar ochr ogleddol ddwyrain Bae Caerfyrddin, ar ochr dwyreiniol a gorllewinol cegau aberoedd Afonydd Taf, Tywi a’r Wendraeth, mae ardaloedd helaeth o gorsdir isel. Mae’r ardal gyfan yn cynnwys tystiolaeth amrywiol o weithgaredd o’r cyfnod cynhanesyddol hyd y cyfnod diweddar yn ogystal â’r drefn ganoloesol Hugden o gaeau agored ar y gefnen arfordirol isel i’r gorllewin o Lacharn. Mae’r arfordir presennol yn un sy’n newid, oherwydd symudiadau parhaus y tywod, ond mae waliau môr a thraeniau, ac o’u blaenau forfeydd y daw’r llanw drostynt, yn diogelu’r tir a adenillwyd. Trwy ddefnyddio cyfraniad o dystiolaeth archeolegol, astudiaeth o nodweddion creiriol a rhai byw yn y tirweddau presennol, a ffotograffau o’r awyr, a ffynonellau cartograffig a dogfennol, darganfuwyd sut yr esblygodd y tirwedd hwn, a grëwyd yn bennaf trwy waith dynol.
Ar derfyn gogledd y gors orllewinol neu Gors Lacharn a moryd Gwendraeth mae etifeddiaeth ddaearegol o linell o glogwyni môr gyda chyfordraeth wrth eu bôn. Er bod gwaith chwarela wedi’u dinistrio erbyn hyn, yr oedd unwaith ogofâu yng nghalchfaen Coygan Bluff, a oedd ger glan y môr ar un adeg, lle cafwyd defnydd o’r cyfnod Uwch Balaeolithig. Gwelwyd hefyd wrth gloddio’r fryngaer a oedd yno cyn y chwarela ddilyniant hir o breswyliaeth o’r cyfnod Neolithig i’r Canol Oesoedd cynnar. Mae angen rhagor o ymchwil i ganfod ble yr oedd y morlin yn ystod y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol, ond mae’n sicr bod trefi cestyll Cydweli a Lacharn yn llawer mwy agored i’r môr gynt nag yn awr.
Ni ellir canfod erbyn hyn o ble yn union y daeth llawer o’r darganfyddiadau o’r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol a gafwyd yn Nhwyni Lacharn, ond mae lleoliad tomennydd cregin o fewn y ddwy gyfundrefn dwyni, lle cafwyd crochenwaith canoloesol, o bwysigrwydd hanfodol i bennu trefn amser y newidiadau i’r morlin a’r gwaith cau tir. Byddai’n fuddiol pe gellid eu cloddio y dyddiau hyn. Yr oedd yr hen Witchett Brook yn rhannu Cors Lacharn yn Gors Ddwyreiniol a Gorllewinol, a defnyddiwyd yr un orllewinol fel tir pori ar forfa heli yn y Canol Oesoedd cyn adeiladu unrhyw furiau rhag y môr, ac efallai y bu hefyd aneddiadau yn yr un cyfnod ar y safleoedd ychydig uwch ar y Gors Ddwyreiniol, lle saif ffermydd ‘nawr. Mae olion muriau môr o’r 17ail ganrif a chyfres o waith cau tir o ran gyntaf y 19edd ganrif wedi’u cadw’n dda er eu bod yn rhannol o fewn tir saethu’r Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn. Yr oedd tramffordd a chilfachell fach, Railsgate Pill, yn darparu mynediad o chwarel Coygan i’r afon yn Lacharn, ac mae’r rhain wedi’u cadw’n dda hyd heddiw fel tystiolaeth o oes ddiflanedig o fasnach trwy borthladdoedd bach y morydau, masnach a barhaodd hyd yr Ail Ryfel Byd.
Fel yn Lacharn, yr oedd modd cau tir Cors Pen-bre oherwydd fod twyni tywod wedi datblygu ac yn rhoi cysgod rhag y môr. Mae hanes diwydiannol Pen-bre a chanlyniadau hynny yn fwy cymhleth gyda cyfres hynod o gamlesi cynnar yn arwain at geiau a mannau llwytho llongau. Datblygwyd y rhain i allforio glo caled maes glo De Sir Gaerfyrddin, o tua dechrau’r 18fed ganrif ymlaen. Aent ar draws tir a gaewyd o’r môr rhwng Twyni Pen-bre a’r tir mawr yn ystod rhan olaf y 17ail ganrif, os nad yn gynharach. Mae olion cloddwaith i’w gweld o’r awyr ac ar wyneb y ddaear yn y ddwy Gors, yn dangos technegau trin a thraenio tir ar dir amaeth, a welwyd gan bobl y gwelliannau amaethyddol, er enghraifft Charles Hassall yn gynnar yn y 19edd ganrif, fel y man i arbrofi gyda thechnegau amaethyddol modern. Mae hyn yn wahanol iawn i’r drefn Hugden o eiddo Corfforaeth Lacharn lle goroesodd caeau agored canoloesol a ddyrennir yn gymunedol, heb eu cau hyd heddiw, hwythau hefyd o fewn terfynau’r ardal hon. Mae newidiadau’r 20fed ganrif yn fwy amlwg ar Dwyni Pen-bre, sydd ‘nawr wedi’u gorchuddio gan blanhigfa goed o’r 1920au. Defnyddiwyd y tir hwn at wahanol ddibenion diwydiannol yn gynnar yn yr 20fed ganrif gan arwain at faes awyr yn ystod y rhyfel a Gwaith Ordnans Brenhinol, ac mae un o’i adeiladweithfeydd a oroesodd ‘nawr yn Heneb Cofrestredig. Bu gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn nodwedd bwysig o’r defnydd a wnaed, ac a wneir, o’r tir hwn yn yr 20fed ganrif, o ymdrechion y teulu Campbell a Parry Thomas yn ‘Babs’ i dorri’r record am y cyflymder uchaf ar dir yn yr 1920au ar hyd Traeth Pentywyn, hyd at greu Parc Gwledig ar Dwyni Pen-bre yn yr 1980au. Yr oedd Bar Caerfyrddin yn enwog am longddrylliadau ac mae nifer ohonynt i’w gweld yn amlwg ac o fewn cyrraedd ar y trai, tra dateglir rhai eraill o dro i dro gan y tywod sy’n symud yn barhaus. Yn olaf, rhaid cofio am Lacharn oherwydd y cysylltiadau llenyddol gyda’r bardd Dylan Thomas a’i olwg ef ar fywyd mewn cymuned fach Gymreig yn ystod canol yr 20fed ganrif.
HLW (D) 9 11 Landranger 158, 159 Dyfed Sir Gaerfyrddin Mae’r ardal yn cynnwys: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbenig Twyni Lacharn a Phentywyn ac Arfordir Pen-bre; Safleoedd Gwarchodaeth Cestyll Cydweli a Lacharn; Ardaloedd Cadwraeth Lacharn a Llan-saint. 1, 3, 5 Ardal helaeth o iseldir arfordirol, clogwyni, corsydd, twyni tywod a barrau tywod rhynglanw o fewn morydau Afonydd Taf, Tywi a’r Wendraeth, sy’n cynnwys tystiolaeth amrywiol o weithgaredd o’r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Mae’r ardal yn cynnwys: tystiolaeth o breswyliad o’r cyfnod Uwch Balaeolithig hyd at y cyfnod canoloesol cynnar; trefi a chestyll canoloesol Cydweli a Lacharn, trefn gaeau agored ganoloesol Hugden (Lacharn); adennill tir ar ffurf muriau rhag y môr, draeniau, camlesi a cheiau o’r 17ail ganrif ac wedi hynny; diwydiant a choedwigaeth diweddar a maes awyr o’r Ail Ryfel Byd a Gwaith Ordnans Brenhinol, nifer o longddrylliadau a safle’r ymdrech i dorri’r record cyflymder uchaf ar dir gyda ‘Babs’ ar Draeth Pentywyn; cysylltiadau llenyddol â Dylan Thomas.