Cefndir Hanesyddol
Gwyddom bod yr harbwr yma wedi ei glustnodi, ac o bosibl wedi ei ddefnyddio ar gyfer cludo mwynau yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond ni chafodd ei ddatblygu i unrhyw raddau tan tua chanol y ddeunawfed ganrif, pan fu twf sydyn yn y gweithgaredd mwyngloddio. Yn ogystal â darparu lle i storio’r mwynau copr oedd yn cael eu hallforio, datblygodd ardal yr harbwr i gynnwys safle ffwrneisi mwyndoddi, melinau coed, iardiau adeiladu llongau, warysau, odyn galch, goleudy a morglawdd, llofft hwyliau a phuteindai. Ar ben hyn, roedd angen glo yn danwydd i’r ffwrneisi mwyndoddi oedd wedi eu lleoli i’r gorllewin o’r harbwr, biniau i storio’r glo a phlân ar oleddf er mwyn ei godi o lefel y cei.
Doedd dirywiad y gwaith allforio copr o flynyddoedd cynnar i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddim yn golygu diwedd i waith yr harbwr ac fe barhaodd yn drwyborth rhanbarthol pwysig hyd at flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Aeth y gwaith o adeiladu llongau pren yn ei flaen hyd at 1897, ac roedd llongau haearn a dur yn cael eu hadeiladu yno am rai blynyddoedd wedi hynny. Mae’r harbwr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden nawr.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Harbwr mwynau hanesyddol.
Mae Porth Amlwch yn harbwr mwynau bach sydd gyda’r gorau yng Nghymru o ran cadw’i nodweddion hanesyddol. Mae’r lleoliad cyfyng yn golygu ei fod ymdebygu fwy i harbwr bach yn Ne-orllewin Lloegr nag i harbwr Cymreig mewn sawl ffordd, ac mae’n anarferol oherwydd nad oedd rheilffordd yn ei wasanaethu erioed, ac eithrio system fer iawn i symud glo o’r bin glo i’r gwaith mwyndoddi. Mae rhai o furiau’r cei wedi eu gosod mewn modd nodedig, â’r cerrig wedi eu gosod mewn rheseidiau bron yn fertigol; y gred yn lleol ydy mai dylanwad Cernywaidd a welir yma.
Mae’r archaeoleg wedi ei hastudio’n drylwyr a rhestri wedi eu llunio o’r nodweddion hanesyddol sydd wedi goroesi. Bu rhai ymdrechion i ddiogelu’r goleudy, yr odyn galch a’r biniau copr a glo. Ac mae’r llofft hwyliau, sydd â llawr nodweddiadol ar ogwydd, wedi ei thrawsnewid yn gaffi/canolfan ddehongli.
Mae’r rhan fwyaf o’r porthladd o fewn yr Ardal Gadwraeth, sy’n cyfateb i’r ardal gymeriad hon, gan gynnwys y llofft hwyliau, y tai â chynllun nodedig sy’n bennaf o’r ddeunawfed ganrif ar hyd Pen Cei, a’r tai ar y sgwâr sydd wedi ei ffinio gan Stryd y Glorian a Lon Cei. Mae’r dirwedd archaeolegol greiriol ar ochr orllewinol yr harbwr wedi ei chynnwys hefyd – safle adfeilion iard longau, tafarn, cei a melin goed.
