Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Yr ardal hon yw’r anheddiad oddi allan i’r canol hanesyddol sydd bellach yn ffurfio Ardal Gadwraeth (04) ond gall fod wedi’i datblygu tua diwedd y ddeunawfed ganrif (er enghraifft, o gwmpas Stryd Bethesda a Stryd y Frenhines). Wedi dweud hynny, mae’r stoc dai bresennol yn deillio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’r gweddill yn ddatblygiad neu’n “orlif” o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae map degwm Amlwch yn dangos yr ardal heb ei datblygu o gwbl, ond mae’n bosibl bod bythynnod sgwatwyr yno na chafodd eu dangos ar y map. Mae’r ysgol uwchradd yn ardal dirwedd amlwg yn ei rhinwedd ei hun bron. Cafodd ei hadeiladu yn 1948-53. Mae nifer o adeiladau pwysig a nodedig o fewn yr ardal hon.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Dyma’r ardal ar gyrion Ardal Gadwraeth Amlwch (ardal 04). Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o anheddiad Amlwch a llawer o’i adeiladau hanesyddol yn ogystal â thai cymdeithasol o ail hanner yr ugeinfed ganrif a stad ddiwydiannol.

Mae Stryd Bethesda yn echelin sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin (parhad o Stryd Mona i bob pwrpas, sef un o brif wythiennau’r dref hanesyddol) ac mae’n cynnwys llawer o dai o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ogystal ag adeilad nodedig a sylweddol Mona Lodge. Mae hwn yn dy bonedd â stablau, wedi ei godi yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif fwy na thebyg (roedd yno erbyn 1794) ar gyfer yr asiant mwynau/eiddo, John Price o Gadnant. Mae wedi ei wahanu yn bedair preswylfa ar wahân erbyn hyn (SH 4389 92823 – stablau yn SH 4391 9286).

Mae llawer o’r stoc dai yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn adlewyrchu pensaernïaeth ‘ddiwydiannol-frodorol’, gyda ffenestri ‘dormer’ yn gyffredin. Mae rhai o’r tai hynaf ar hyd Stryd y Frenhines a Stryd Bethesda yn dyddio o flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y rhan fwyaf wedi eu moderneiddio gan ei gwneud yn anodd rhoi dyddiad pendant arnynt. Deellir bod rhai o’r tai yn cynnwys blociau slag yn eu hadeiladwaith, gan ddilyn arfer a sefydlwyd gyda nifer o dai diwydiannol cynnar yn Abertawe. Mae’n bosibl bod y stryd, a fu’n dwyn yr enw Stryd Methusalem gynt, wedi ei gosod allan yn wreiddiol gan yr entrepreneur o’r ddeunawfed ganrif, Methusalem Jones. Bu yntau’n byw yn Amlwch am gyfnod, er y caiff ei gofio’n bennaf am roi cychwyn i gloddio’n fasnachol am lechi ym Mlaenau Ffestiniog.

Codwyd yr Ysgol Wladol ar Ffordd Porthllechog yn SH4404 9301 yn 1824 (dyddiad cynnar iawn ar gyfer codi ysgol yn benodol at y pwrpas yn ôl safonau gogledd Cymru) ac mae’n hynod anarferol oherwydd ei phensaernïaeth ‘boléit’ bendant. Bu Robert Roberts Sgolor Mawr, y geiriadurwr a’r hunangofiannydd, yn ysgolfeistr yno am gyfnod byr. Mae wedi newid ei defnydd erbyn hyn i gartrefu meithrinfa ac uned fasnachol. Ar hyd yr un ffordd ond ymhellach o ganol y dref y mae Eglwys Mair Seren y Môr a’r Santes Gwenfrewi a gynlluniwyd yn y 1930au i ymdebygu i gwch â’i phen i lawr. Mae’r adeiladwaith yn cynnwys cromen uchel o goncrid wedi’i ddirwasgu.

Ysgol Syr Thomas Jones (Ysgol Uwchradd y Sir gynt) oedd yr ysgol gyfun gyntaf i gael ei chodi’n bwrpasol ym Mhrydain. Cafodd ei hadeiladu rhwng 1948 ac 1953 ar ardal o dir uchel i’r de-ddwyrain o brif ran y dref; mae’r tŵr cerrig sydd â wyneb o gerrig nadd yn adlais o gynllun Cwt Injan Cerrig y Bleiddiau yn y mwynglawdd copr. Cynlluniwyd coridorau llydan yr ysgol er mwyn hwyluso symudiad niferoedd uchel o ddisgyblion rhwng neuaddau, campfeydd ac ystafelloedd dosbarth a leolir mewn blociau cysylltiedig. Mae ffenestri eang a gofodau helaeth yn nodweddion i’r cynllun. Caiff ei heffaith ei lliniaru rywfaint gan y ganolfan hamdden a saif gyferbyn, ond serch hynny, mae’n gasgliad trawiadol o adeiladau, yn enwedig o safbwynt ymwelwyr sy’n cyrraedd Amlwch o’r gorllewin.

Nodir yma, yn ogystal ag ar gyfer ardal 04, bod tref Amlwch wedi’i lleoli ar dir cymharol isel, a bod y ffyrdd tuag ati yn cynnig golygfeydd diddorol ac atyniadol. Yn y cyswllt hwn, mae’r adeiladau tal yn gwneud llawer i wella’r olygfa yn y dref gyfan – mae’r rhain yn cynnwys tŵr ‘cwt injan’ yr ysgol a thŵr yr eglwys (04), yn ogystal â thŵr dŵr Octel (06) a’r nodweddion sy’n dal i sefyll yn y mwyngloddiau – siafft Morris (y tu allan i ardal y Dirwedd Hanesyddol), Cwt Injan Cerrig y Bleiddiau a’r felin wynt (09).

Mona Lodge, a late 18th century house