Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Dyma galon yr anheddiad hanesyddol yn Amlwch ac erbyn hyn mae’n Ardal Gadwraeth. Mae gwreiddiau Amlwch yn y Canol Oesoedd pan oedd eglwys y plwyf a llys Esgob Bangor yn ganolbwynt, ond fe ehangodd yn gyflym o’r 1760au ymlaen. Hyd yn oed bryd hynny, mae’n debyg bod y twf cychwynnol wedi’i gyfyngu i ardal gryno iawn â’i chanolbwynt ar yr echelin sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de sy’n dwyn yr enw Stryd y Frenhines heddiw a’r echelin dwyrain-gorllewin ar Stryd Mona/Stryd Wesley . Dywedir mai cabanau to gwellt oedd y tai diwydiannol cynnar.

Wedi hynny, mae mapiau’n dangos i’r anheddiad barhau fwy neu lai yn sefydlog yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nes y cafodd rywfaint o adfywiad pan gyrhaeddodd y rheilffordd. Arweiniodd sefydlu gwaith Octel (ardal 02) yn 1951 at ehangu’r anheddiad, ac yn benodol at adeiladu tai cymdeithasol newydd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad hanesyddol

Mae Amlwch wedi cadw llawer o nodweddion anheddiad diwydiannol cynnar. Mae rhywfaint o’r stoc tai sydd wedi goroesi yn dyddio o flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw dystiolaeth yn parhau uwchlaw’r ddaear o fewn yr Ardal Gadwraeth o dai y gellir eu hadnabod fel rhai oedd yn perthyn i ‘gam cyntaf’ y datblygiad yn y ddeunawfed ganrif. Mae rhyw ychydig dystiolaeth bod blociau o slag y mwyn copr wedi eu defnyddio yn ddeunydd adeiladu fel ag y gwelwyd yn Abertawe. Mae’r adeiladau’n rhannu’r un nodweddion â rhai a welir mewn rhannau eraill o Ynys Môn gyda’u waliau rwbel, yn aml wedi eu rendro neu eu chwipio â gro, toeau llechi â bondoeau cyfwyneb, a ffenestri dalennog – y rhai cynharaf â cwareli bach (12 ohonynt fel arfer), a’r enghreifftiau Fictoraidd diweddarach yn rhai â phedwar cwarel. Mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri wedi eu moderneiddio. Mae adeilad Banc Barclays ar Stryd y Frenhines (SH 4426 9276) yn awgrymu bod adeiladau o bensaernïaeth frodorol wedi goroesi, hyd yn oed ar brif echelinau’r dref.

Eglwys blwyf Sant Elaeth ydy’r nodwedd amlycaf yn yr anheddiad. Cafodd ei chysegru yn 1800 a ‘i chynllunio gan Wyatt (James fwy na thebyg), er iddi gael ei hail-fodelu gan Henry Kennedy, pensaer yr esgobaeth, yn 1867. Codwyd yr adeilad neoglasurol hwn â’i ffurf yn ddiamheuol Brotestannaidd i gymryd lle adeilad canoloesol; mae’r tŵr yn parhau a’i olwg dros y dref. Mae addoldai eraill ac isadeiledd dinesig wedi eu hadeiladu ar raddfa sylweddol, gan gynnwys y cyn-gapel Wesleaidd Cymraeg sydd mewn safle amlwg ar ben dwyreiniol Stryd Wesley (SH 4444 9306). Mae dan berchnogaeth Mona Safety Products erbyn hyn ac mae drws llithro wedi ei osod yn y talcen blaen (yn wynebu’r gorllewin) i roi mynediad i’w gweithdy . Mae’r Neuadd Goffa â’i ffasâd clasurol a’i tho talcen hefyd wedi ei lleoli ar Stryd Wesley (SH 4427 9298). Yn adeilad llai ac yn dal mewn defnydd, y mae’r capel Wesleaidd Saesneg â’i fynediad ochr sydd yn sefyll ar ochr ogleddol Stryd Wesley. Wedi ei adeiladu yn 1831, mae’n ddiaddurn heblaw am ei ffenestri gothig pigfain – cynllun tebyg i rai a welir yng Nghernyw (SH 4436 9305). Saif y Dinorben Arms ger y groesffordd sydd fel ffwlcrwm i’r Ardal Gadwraeth ac fe wyddom ei fod yn sefyll yno yn 1817, adeg terfysgoedd Amlwch. Mae’n adeilad deniadol â dwy haen o ystafelloedd ac mae cyffyrddiad clasurol yn y portsh portico. Fodd bynnag, mae naws hanesyddol y rhan hon o’r dref wedi ei gwanhau trwy ddymchwel yr adeiladau nesaf at y gwesty tua’r gogledd a chodi adeiladau o friciau brown yn eu lle yn rhan olaf yr ugeinfed ganrif.

Er i Amlwch ddirywio yn y 19eg ganrif, mae yma nifer o adeiladau deniadol o’r cyfnod Fictoraidd a dechrau’r ugeinfed ganrif, megis adeiladau banc HSBC a’r Swyddfa Bost , sy’n adlewyrchu ymgais go dila i’w datblygu yn gyrchfan gwyliau. Mae modd gwahaniaethu rhwng adeiladau a godwyd yn ystod oes aur Amlwch (1760-1830) a’r rhai a godwyd yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan bod ffurf a maintioli’r rheiny yn ymdebygu fwy i dai diwydiannol safonol a welir mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol, a bod deunyddiau a fewnforiwyd – briciau, er enghraifft – wedi eu defnyddio, er bod llawer ohonynt wedi eu chwipio â gro erbyn hyn.

Nodir yma, yn ogystal ag ar gyfer ardal 03, bod tref Amlwch wedi’i lleoli ar dir cymharol isel, a bod y ffyrdd tuag ati yn cynnig golygfeydd diddorol ac atyniadol. Yn y cyswllt hwn, mae’r adeiladau tal yn gwneud llawer i wella’r olygfa yn y dref gyfan – mae’r rhain yn cynnwys tŵr ‘cwt injan’ yr ysgol (03) a thŵr yr eglwys, yn ogystal â thŵr dŵr Octel (06) a’r nodweddion sy’n dal i sefyll yn y mwyngloddiau – siafft Morris (y tu allan i ardal y Dirwedd Hanesyddol), Cwt Injan Cerrig y Bleiddiau a’r felin wynt (09).

St Elaeth' s Church, Amlwch