Cefndir Hanesyddol
Dyma ardal y gwyddom iddi fod yn gynhyrchiol yn amaethyddol yn y cyfnod Canoloesol (fel y dengys tystiolaeth ddogfennol a’r dystiolaeth yn yr enw Llaethdy), ac a elwodd o incwm a ddeilliodd o’r gwaith mwyngloddio tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Amaethyddiaeth wedi’i wella
Ardal fechan ar gyrion prif ardaloedd yr aneddiadau a’r mwyngloddiau ydy hon, ond mewn gwirionedd, mae’n rhan o dirwedd llawer mwy o dir wedi’i wella’n amaethyddol sy’n ymestyn allan o ardal y Dirwedd Hanesyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffermdai a’r tai allan yn sefyll y tu allan i ardal y Gofrestr; dim ond Llaethdy Mawr a Phentre Gwian sydd oddi mewn. Mae’r cyntaf o’r rhain yn ffermdy sylweddol iawn a’r llall yn dŷ deulawr â ffrynt ddwbl sy’n llawer llai o faint, ond mae’r ddau yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae yna res o fythynnod yn Mynydd Llwyd, ond maent wedi colli eu cymeriad traddodiadol, ac mae preswylfa o bensaernïaeth draddodiadol yn sefyll ar ei ben ei hun yn Nhal y Dyffryn (SH 44799108).
Un o nodweddion yr ardal ydy caeau mawr cyson eu ffurf sy’n ganlyniad i’r gwelliannau a gyflwynwyd yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg dan nawdd y perchnogion tir mawr, gan adlewyrchu ansawdd y tir yn ogystal â ffyniant cynyddol amaethu yn yr ardal wedi i’r mwyngloddio ddechrau ar raddfa fawr yn yr 1770au.
