Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Safle gwaith cemegol a agorwyd gan entrepreneur o’r enw Hills ar bentir llwm yn 1840 ac oedd wedi peidio â gweithio erbyn 1897. Nid oes llawer o wybodaeth am hanes yr ardal hon cyn hynny, ond mae’n debygol y byddai wedi ei defnyddio ar gyfer pori bras. Mae’r ardal hon hefyd yn cynnwys safle’r doc sych oedd yn gysylltiedig â’r harbwr ond nad yw’n rhan o’r Ardal Gadwraeth yn ogystal â’r ddwy simnai o garreg a allai fod y rhan o’r gweithfeydd cemegol.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Safle gweithfeydd cemegol.

Ychydig a wyddom am hanes a datblygiad y safle hwn a elwir yn gwaith Hills, er gwaethaf ymchwil helaeth gan aelodau o Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Ddiwydiannol Amlwch. Mae’n wybyddus bod Hills wedi bod yn gysylltiedig â sawl gwaith cemegol, gan gynnwys un yn Llundain. Mae olion slag ar y ddaear mewn sawl man, a’r dybiaeth yw ei fod wedi ei gario yno i lenwi’r tir yn hytrach na’i fod yn gynnyrch o’r gwaith a wnaed yma.

The two stone-built chimneys at Porth Amlwch next to the former Shell Oil terminal