Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Un o nodweddion anarferol y mwyngloddiau ar Fynydd Parys oedd yr arfer o ddyddodi dŵr a oedd yn cynnwys crynhoad uchel o gopr a oedd wedi treiddio trwy’r mwyngloddiau neu dros y tipiau gyda haearn sgrap mewn pyllau mawr a adeiladwyd yn bwrpasol er mwyn adennill mwyn y gellid ei sychu wedyn. Bu’r broses hon yn dal ar waith wedi i’r mwyngloddio confensiynol ddod i ben yn yr 1880au ac fe barhaodd hyd at 1958.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Nodweddion diwydiannol unigryw

Mae’r pyllau eang yn dal yno ar hyd a lled y mynydd, ac mae sawl un yn dal dŵr o hyd. Mae’r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn Nyffryn Adda (SH 438 915), ynghyd â llawr sychu ocr ac adeilad odyn sy’n dyddio o 1815-19. Mae Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Ddiwydiannol Amlwch wedi cynnal gwaith cadwraeth yn yr ardal hon. Mae rhan fach o heneb restredig Dyffryn Adda o fewn yr ardal hon.

Remains of brick and timber built precipitation ponds at Dyffryn Adda Historical background