Cefndir Hanesyddol
Bu llethrau’r bryniau i’r gogledd o Harlech yn goediog ers o leiaf y 19eg ganrif, ac mae’r rhywogaethau sydd yma yn awgrymu cyfnod llawer yn hwy. Fodd bynnag, mae argraffiad cynnar o fapiau’r Arolwg Ordnans (1889) yn dangos bod y rhan fwyaf o’r eiddo yn glir o’r coetir ar y pryd, ac mai ar gyfer porfa arw y defnyddid ef.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Coetir llydanddeiliog
Dynodwyd Coed Llechwedd, tua phen deheuol yr ardal, yn SoDdGA ym 1971 (CCGC cyf. 31WMY). 60ha yw ei arwyneb, ac mae wedi ei leoli ar lethr serth sy’n wynebu’r gogledd-orllewin ar uchder o rhwng 50 – 600tr gyda brigiad tra-fasig. Derw digoes a welir yma fwyaf, ond ceir yma rywogaethau eraill (gan gynnwys y ddraenen ddu, yr onnen, y llwyfen lydanddail, a’r gollen) ac mae’n arbennig o amrywiol. Mae hefyd yn goetir pwysig i anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac adar sy’n bridio. Ceir coetir tebyg ond llai amrywiol a llai diddorol o ran botaneg (sef Coed Carreg-wen) ar hyd lethrau’r bryn i’r gogledd-ddwyrain i barcdir stad Glyn-cywarch (yr un math, ond mewn ardal nodwedd wahanol).
