Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Yn y canrifoedd wedi’r canoloesoedd, fe siltiodd yr ardal arfordirol hon ac ystyriwyd hi yn anialdir corsiog. Aeth stad Cors-y-gedol ati i amgáu a draenio rhan helaeth o’r ardal tua diwedd y 18fed ganrif gan greu’r tirlun fel y gwelwn ef heddiw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Twyni tywod

Mae ehangder y system twyni tywod (gweler system debyg hefyd yn ardal 32) yn diffinio’r ardal nodwedd hon. Dynodwyd Morfa Dyffryn (CCGC cyf. 31WNS) yn SoDdGA am y tro cyntaf ym 1953, a diwygiwyd hyn yn ddiweddarach. Mae’n ymestyn dros 334ha. Mae’n ardal ag iddi dwyni tywod arfordirol symudol a sefydlog â morfa heli ac aber sy’n estyniad o Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn. Mae’r system twyni galchaidd helaeth yn cynnwys twyni hyd at 60tr o uchder. Mae hefyd yn bwysig i blanhigion ac adar hirgoes.

Sand dunes