Cefndir Hanesyddol
Mae gan yr ardal ganolraddol hon hanes cymhleth, ynghyd â chyfres o henebion archeolegol creiriol sydd wedi’u cadw mewn cyflwr da, gan gynnwys siambrau claddu neolithig cynnar (gorllewin Bron y Foel a Dyffryn Ardudwy), carneddi cynhanesyddol, clystyrau cytiau cynhanesyddol hwyr â llociau a bryngaer fach gysylltiedig (Byrllysg). Mae’r patrwm cymhleth o gaeau, neu lociau cromlinog afreolaidd eu siâp (sy’n dal i gael eu ddefnyddio) yn tystio i hanes amaethyddol maith a chymhleth.
Mae’n bosibl fod cyfadail o dair fferm yn rhan uchaf yr ardal (Bron-y-foel Isaf, Bron-y-foel Ganol a Bron-y-foel Uchaf) yn awgrymu anheddiad cnewyllol canoloesol, yn enwedig gan fod cyfeiriad at Bron-y-foel fel trefgordd ganoloesol sylweddol. Mae’n wir fod set ddiddorol o olion gwrthgloddiau ac olion archeolegol o gerrig yn yr ardal hon.
Ceir nifer o ffermydd (diweddarach) diddorol yn yr ardal, gan gynnwys Meifod-Isa (73 erw) a Meifod-Uchaf (72 erw) (yr unig enghreifftiau yng ngorllewin Meirionnydd). Gallai hyn olygu ‘anheddiad mis Mai’ neu ‘anheddiad canol’, rhwng hendre a hafod. Mae’r lleoliad yn gyson â’r posibilrwydd bod lleoliad yn bodoli ar gyfer yr haf cynnar, neu anheddiad canol rhwng y gaeaf a’r haf ond mae’r dystiolaeth yn brin iawn. Ymhlith y gweddill mae Byrdir, Byrllysg (ffermydd cyfagos ag iddynt enwau diddorol), Gwerncarnyddion a Llwyneinion Fechan.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Henebion angladdol a defodol cynhanesyddol cynnar, aneddiadau a chyfundrefnau caeau cynhanesyddol hwyr, llechfeddiannu ymylon yr ucheldiroedd, ffermydd
Gorwedd yr ardal ar lethrau canol y bryniau, wedi’i gwasgu’n rhannol rhwng ardaloedd 15 (tir pori wedi’i wella, llociau o’r 19eg ganrif, coetir) ac ardal 16 (mynydd-dir heb ei wella yn bennaf, â llociau rheolaidd eu siâp o’r 19eg ganrif a llawer mân nodwedd archeolegol creiriol). Mae’n debyg i ardal 7. Mae’n ardal sy’n gwbl wahanol i’r ddwy uchod o safbwynt ei phatrwm caeau (sy’n dangos bod iddi hanes a defnydd hir a chymhleth o amaethyddiaeth) a hefyd o safbwynt y cyfoeth o safleoedd a henebion archeolegol creiriol (llawer ohonynt yn rhestredig). Llociau mawr, lled-grwn yn aml ac afreolaidd eu siâp sydd i’w gweld amlaf (er bod ychydig o gaeau rheolaidd llai yn rhan isaf yr ardal o amgylch Hwlfa Lydan, sy’n tarddu, mae’n debyg o’r 19eg ganrif) ac mae llawer o henebion archeolegol pwysig (gweler uchod); mae gwaith maes yn y gorffennol yn awgrymu bod llawer mwy i’w darganfod. O uwcholwg, mae’r patrwm caeau afreolaidd, a phresenoldeb anheddiad o gytiau crwn a bryngaer fechan yn awgrymu mai o’r cyfnod cynhanesyddol hwyr y tarddodd llawer o gymeriad yr ardal, ac mae’n bosibl bod llechfeddiannau ôl-ganoloesol ymylon y tir diffaith ucheldirol yn gorchuddio rhan o’r darn uchaf. Mae llawer o ffiniau’r caeau i’w gweld yn amlwg, ac wedi’u ffurfio o waliau sychion ar ben cloddiau cynharach o rwbel cerrig. Mae rhai wedi’u linsiedu tra bo eraill, yn enwedig Bron-y-foel, yn amlwg yn ‘hyˆn’. Unwaith eto, mae rhai o’r caeau wedi’u clirio (at ddibenion amaethyddol, gan eu gwneud yn gymharol well) tra bo eraill yn parhau i fod yn llawn o gerrig a chlogfeini naturiol.
