Cefndir Hanesyddol
Ceir ambell safle cynhanesyddol hwyr creiriol yn yr ardal, ond nid oes modd cadarnhau bod unrhyw un ohonynt yn perthyn i’r cyfnod canoloesol. Mae’r patrwm anheddu yn cynnwys llawer o ffermydd gwasgaredig o wahanol gyfnodau a gwahanol gymeriad o’r is-ganoloesol (er enghraifft Penarth a Choed mawr) ac enghreifftiau o’r 17eg ganrif (Gilfach Goch) i’r enghreifftiau o’r 18fed a’r 19eg (er enghraifft Gwynfryn, ac yn fwyaf arbennig Penrallt (sydd â rhes drawiadol o stablau a thai allan) i’r gogledd o’r afon. Ceir anheddiad cnewyllol bychan unigol ym Mhentre Gwynfryn sydd wedi’i gofnodi fel anheddiad cnewyllol yn y cyfnod canoloesol, er bod yr adeiladau yno nawr yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tir pori, coedwigoedd, ffermydd
Mae’r ardal yn annhebyg iawn i unrhyw un arall yn Ardudwy. Mae Afon Artro, sy’n llifo o’r dwyrain i’r gorllewin yn ei rhannu’n ddwy, ond mae cymeriad yr ardal yn eithaf cyson, er amrywiol. Mae sawl cymeriad gwahanol i’r ardal tir isel hon, ar sail cymysgedd o ardaloedd tir pori sydd ar y cyfan wedi’i wella (er enghraifft o amgylch Hendy a Gilfach Goch i’r de o’r afon) brigiadau creigiog (yn enwedig i’r gogledd o’r afon, er enghraifft yr un y mae Clogwyn Arllef, sy’n rhestredig, wedi’i leoli arno), coetiroedd hynafol a lled-naturiol (Coed Lletywalter yw’r enghraifft orau, gweler isod) a thir anial corsiog heb eu wella (er enghraifft uwchlaw Allt-goch yn rhan uchaf yr ardal ddeheuol).
Ar wahân i Glogwyn Arllef a chylch cytiau Gelli-las, nid oes nemor ddim safleoedd archeolegol cynhanesyddol neu ganoloesol creiriol yn yr ardal (er na chynhaliwyd unrhyw waith maes yma) ac mae llai o safleoedd wedi’u cofnodi ar y cyfan ar y CSH. Mae patrwm anheddu’r ffermydd gwasgaredig is-ganoloesol y tu allan i Bentre Gwynfryn eisoes wedi’i ddisgrifio. Mae’r ardal yn cynnwys sawl enghraifft dda o ysguboriau anghysbell yn y caeau (er enghraifft, yn gysylltiedig â Phenrallt) a cheir corlannau hefyd. Mae’r holl stoc adeiladau o garreg, y rhan fwyaf ohono â thoeau llechi (er bod sinc yn ddeunydd cyffredin ar gyfer toeau tai allan y ffermydd mewn mannau).
Mae’r brif ffordd o’r gogledd i’r de yn rhedeg trwy rhan isaf yr ardal, tra bo ffordd bwysig arall yn rhedeg i’r dwyrain o Lanbedr gan ymrannu’n ddwy a pharhau i fyny Cwm Nantcol a Chwm Bychan. Dim ond tair ffordd arall sy’n croesi’r ardal. Mae’r rhan fwyaf o’r ffermydd llai ar ben y mân lonydd.
