Cefndir Hanesyddol
Mae Cwm Nantcol (ynghyd â Chwm Bychan, ardal 28) yn un o ddau ddyffryn afon sy’n torri o’r gorllewin i mewn i massif ucheldirol Ardudwy. Mae’r ardal yn ymestyn yn fras o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae Afon Cwmnantcol, yn ei chanol, yn llifo ar hyd dyffryn cul ag iddo waelod gwastad ac ochrau serth, creigiog. Mae’n debyg mai’r un garnedd fawr ar waelod gwastad pellaf y dyffryn yw’r unig safle cynhanesyddol y gwyddys amdano yn yr ardal (er na chynhaliwyd unrhyw waith maes yno, ac mae’n bosibl y gallai’r caeau afreolaidd eu siâp ar hyd ochrau’r dyffryn gynnwys tystiolaeth fod rhywrai wedi byw yma yn y cyfnod cynhanesyddol).
Mae ty is-ganoloesol pwysig Maesygarnedd yn tra-arglwyddiaethu ar ben pellaf y dyffryn, ac mae cysylltiad rhyngddo â John Jones (1597?-1660), a oedd yn frawd-yng-nghyfraith i Cromwell ac yn un o’r rhai a lofnododd warant marwolaeth Charles I.
Yn rhan gul y dyffryn, a rhyngddo a Chwm Bychan (ardal 28) ceir ardal o gaeau cromlinog â waliau sych o amgylch fferm Cae’r Cynog (gweler y ffotograff) sydd o bosibl yn enghraifft o lechfeddiannau’r ymylon ucheldirol yn y 16eg ganrif. Mae cyfadeilau tebyg yr olwg ar ben pellaf y dyffryn, o amgylch fferm o’r enw Nantcol, ac mae’n debygol ei fod yn dyddio o’r un cyfnod.
Yn y 1840au, yn ôl mapiau degwm y stad, fferm Graig Isaf, Graig Uchaf a Graig Fforchog yng Nghwm Nantcol, cyfanswm o 1,425 erw (ar yr ochr ddeheuol ger blaen y dyffryn, ond ei thir yn ymestyn i ardal 16) a brydleswyd i Morris Jones a Robert Owen gan William Ormsby-Gore oedd fferm fwya’r sir. Mae hon yn enghraifft dda o stadau bonedd cryno; cedwid y demên wrth law, tra gosodid y ffermydd eraill i denantiaid unigol.
Ceir ffermydd mawr eraill o’r 18fed neu’r 19eg ganrif a chyfadeilau mwy ar hyd yr ochr ddeheuol (ger yr unig ffordd), yn arbennig Hendre-waelod a Twllnant. Nid oes datblygiad o’r 20fed ganrif oddi eithr ‘gwelliannau’ i ffermydd sy’n bodoli eisoes (a blwch ffôn).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Dyffryn pellennig sydd wedi ei wella’n amaethyddol, ffermdai sylweddol, patrymau caeau
Mae’r prif nodweddion sy’n diffinio’r ardal yn ymwneud â’i nodwedd dopograffig fel dyffryn afon sy’n torri trwy massif ucheldirol. Mae llawr y dyffryn yn wastad ac mae ynddo gaeau pori wedi’u gwella mewn patrwm rheolaidd (ar flaen y dyffryn) tra bo darnau helaeth o dir corsiog yn is i lawr. Mae’r ardal yn ymestyn rhan o’r ffordd i fyny ochrau’r dyffryn i ben uchaf y caeau (sydd yn afreolaidd eu siâp a’u cynllun yn bennaf ac yn cynnwys corlannau a pheth coetir yn y pen deheuol). Mae cyfres o gaeau ger rhan gul y dyffryn ar yr ochr ogleddol yn nodweddiadol o lechfeddiannu ôl-ganoloesol.
Mae’r ychydig ffermdai gwasgaredig (yr unig aneddiadau yn yr ardal, a phob un ohonynt ar yr ochr ddeheuol ger hynt yr unig ffordd), yn strwythurau trawiadol a sylweddol o garreg. Mae awyrgylch pendant lle diarffordd yma na chafodd ei gyffwrdd rhyw lawer gan yr 20fed ganrif, (er yn anffodus, mae gosod ffenestri upvc ym Maesygarnedd yn ddiweddar wedi distrywio’r diwyg).
