Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal ucheldirol hon yn cynnwys cyfoeth o henebion archeolegol creiriol wedi’u cadw’n dda. Mae siambr gladdu neolithig sengl (ac anghysbell) yng Ngwern Einion yn rhan ddeheuol yr ardal sy’n ymddangos fel pe byddai’n canolbwyntio ar Afon Artro er na ddaethpwyd o hyd i olion anheddiad cyfoes yn y caeau cyfagos, sydd wedi’u gwella. I’r gogledd saif un o ddau brif grynodiad henebion angladdol a defodol o’r ail fileniwm CC yn Ardudwy (mae’r ail ym Mynydd Egryn (ardal 2 yn bennaf)). Mae’n ymddangos mai yn fwriadol y lluniwyd y llwybr at grwp Moel Goedog i ddilyn meini hirion, sef ‘heol’ o bosibl rhwng dwy garnedd gylchog. Mae un ohonynt wedi cynnig tystiolaeth o lawer o weithgarwch seremonïol yn ogystal ag angladdol, ac amrediad o ddyddiadau rhwng tua 2000-1750CC (Lynch 1984). Mae gan yr ardal archeoleg greiriol ddwys iawn, gydag amrywiaeth o henebion angladdol yn ogystal ag aneddiadau a chaeau. Ymddengys yn arwyddocaol bod yr ardal yn gyfagos i lwybr naturiol o bwys ac mae’n bosibl ei bod yn ganolfan angladdol arbenigol y bwriadwyd iddi fod ychydig bellter o’r prif ganolfannau poblogaeth.

Mae astudiaeth amgylcheddol wedi dangos bod yr ucheldiroedd hyn wedi gweld cyfnod arwyddocaol o glirio coetiroedd yn ystod yr ail fileniwm CC. Parhaodd clirio’r ucheldiroedd yn yr oes efydd hyd ganol y mileniwm cyntaf CC, pan arweiniodd hinsawdd a oedd yn dirywio neu ddulliau amaethu na ellid mo’u cynnal ar bridd tenau at ddatblygu cyforgors fel y gwelwyd yn aneddiadau Erw-wen a Moel y Gerddi (Kelly 1988). Yn wir, ar ymylon yr ucheldir, ar y llethrau yn wynebu’r gorllewin a oedd wedi’u draenio’n well oedd prif ffocws yr anheddu yn y cyfnod diweddarach hwn ac mae nifer o aneddiadau mewn amryw ffurf, wedi goroesi lle na fu’r amaethu modern yn rhy ddwys (gweler hefyd ardal 33).

Roedd yr aneddiadau yn Erw Wen a Moel y Gerddi yn dai crynion unigol mewn lloc consentrig, ac mae olion amrediad o aneddiadau is-gylchol hefyd nad ydynt yn unigryw i Ardudwy, ond yn nodweddiadol yn lleol, er nad oes yna fryngaerau fel y cyfryw yn yr ardal hon. Mae peth tystiolaeth bod y ffurf hon ar anheddu wedi parhau o arddulliau’r oes efydd. Fe ddatblygodd yn grwpiau mwy cymhleth o strwythurau, gan ymgorffori adeiladau cadarn â waliau cerrig o bob siâp a maint at wahanol ddibenion. Yn ddiweddarach, roedd y brif arddull yn un o grwpiau mwy cnewyllol o dai ar dyddynnod cryno amgaeedig neu rai heb eu hamgáu. Mae rhyw 25 o’r rhain wedi goroesi yn Ardudwy. Mae’r mwyafrif ohonynt wedi cadw eu siâp cromlinog y gellir gweld ei fod wedi datblygu o gynllun crwn gwreiddiol, er enghraifft ym Muriau Gwyddelod, Llanfair.

Gellir dod o hyd i aneddiadau cytiau cnewyllol amgaeedig ac agored ar hyd pob rhan o ymylon gorllewinol ucheldiroedd Ardudwy ac yn gysylltiedig â’r rhain mae olion cyfundrefnau caeau â therasau cryfion sy’n awgrymu amaethu cnydau yn ddwys, ac sy’n rhoi cymeriad lleol nodweddiadol i’r dirwedd gyfredol. Yn aml, ailddefnyddid yr un ardaloedd anheddu yn y cyfnod canoloesol, ond yn gyffredinol, byddent yn cadw patrwm bras y llociau neu’r caeau Brythonig-Rufeinig, er mai ychydig dystiolaeth sydd i hyn yn yr ardal hon.

Mae nifer o ffermydd ucheldirol ôl-ganoloesol yn yr ardal (gweler isod) ac mae’r patrymau caeau o amgylch rhai o’r rhain (sy’n cynnwys llociau bychain, rheolaidd eu siâp, yn aml mewn rhes, er enghraifft ger Groes Lwyd) yn adlewyrchu gwelliannau economaidd yr amaethyddiaeth a ddaeth i ran yr ardal ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Cliriwyd cerrig o rai o’r caeau dros y blynyddoedd cymharol ddiweddar, er mae’n debygol bod hyn wedi dod i ben erbyn hyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Safleoedd aneddiadau a chyfundrefnau caeau cynhanesyddol creiriol, caeau, ffermydd ucheldirol

Disgrifir llawer o’r archeoleg greiriol sy’n arbennig o nodweddiadol o’r ardal yn yr adran uchod. Mae siambr gladdu neolithig sengl yng Ngwern Einion, a chrynodiad o feini hirion a charneddi cylch i’r gogledd. Y grwpiau cnewyllol cryno o dai amgaeedig neu agored yw nodweddion arbennig y dirwedd yn y fan hon. Mae llawer ohonynt yn cadw siâp cromlinog ar y cyfan y gellir gweld iddo ddatblygu o gynllun crwn gwreiddiol, a llawer yn gysylltiedig ag olion cyfundrefnau caeau â therasau cryfion, sydd hefyd yn gromlinog o ran cynllun. Mae’r patrymau caeau o amgylch rhai o’r ffermydd ucheldirol yn ddiweddarach, ac yn adlewyrchu’r gwelliannau economaidd ym maes amaethyddiaeth yn ystod diwedd y 18fed neu’r 19eg ganrif. Llociau bychain, rheolaidd eu siâp yw’r rhain, mewn rhesi yn aml (er enghraifft ger Groes Lwyd) neu yn glwstwr o amgylch fferm (e.e. Brwyn-llynau).

Ceir amrediad diddorol o ffermydd cerrig ucheldirol. Crybwyllwyd Drws-yr-ymlid o’r blaen; mae gan Cefnfilltir res o dai allan o gerrig wedi’u lleoli yn anffurfiol o amgylch libart; fferm unllawr isel yw Merthyr, gydag estyniadau i’r ochrau a libart anffurfiol o dai allan, ac mae Rhydgaled Uchaf a Foel yn ffermydd bychain, syml o’r 19eg ganrif, heb dai allan. Ceir hefyd ysguboriau pellennig fel yr un ger Rhydgaled Isaf.

Relict prehistoric settlement sites and field systems, fieldscapes, upland farms