Cefndir Hanesyddol
Mae Cwm Bychan yn un o ddau ddyffryn afon cul sy’n torri i mewn i ochr orllewinol massif ucheldirol Ardudwy (Cwm Nantcol, ardal 17, yw’r llall). Mae’r ddwy afon yn llifo i afon Artro, sef prif afon Ardudwy, sydd yn ei thro yn llifo trwy Lanbedr ac allan i’r môr ger Llandanwg (ardal 04). Mae Cwm Bychan yn rhedeg o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain am y rhan fwyaf o’i hyd cyn mynd tua’r dwyrain.
Nid oes unrhyw safleoedd creiriol o ddiddordeb archeolegol yma, er bod pobl wedi bod yn gweithio yn y dyffryn, (sy’n gorwedd rhwng ardaloedd 25 a 16, er enghraifft, sy’n llawn tystiolaeth fod pobl wedi byw ynddynt yn y cyfnod cynhanesyddol), ers y cyfnod cynnar. Mae Cwm Bychan (ar ben pellaf y cwm) yn enghraifft ardderchog o dyˆ dwy-uned is-ganoloesol: cofnodir ef fel un o gartrefi noddwyr y beirdd, ac felly’n un o brif dai Ardudwy yn y cyfnod hwnnw. Mae sawl cae pori o’i amgylch. Ymhellach i lawr y dyffryn mae ychydig o ffermydd gwasgaredig (e.e. Dolwreiddiog, Cwm-yr-afon, Crafnant a Hen Dolbebin) sy’n dyddio o rhwng y 17eg a’r 19eg ganrif. Nid oes unrhyw aneddiadau o’r 20fed ganrif yma.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Dyffryn cysgodol, coetir llydanddeiliog, ffermdai
Mae’n debyg mai’r coetir sy’n ymestyn ar hyd dwy ochr serth y cwm am ei hyd cyfan fwy neu lai yw prif nodwedd ddiffiniol y dyffryn afon yma. Ni ddynodwyd yr un ohonynt yn SoDdGA, ond mae Coed Dol-wreddiog, Coed Gerddi Bluog, Coed Crafnant, Coed Dolbebin ac ardaloedd eraill yn goetiroedd llydanddeiliog (sy’n cynnwys derw digoes a rhywogaethau eraill) sy’n adnodd pwysig. Mae enwau’r coedydd (sy’n gysylltiedig ag enwau’r ffermydd) yn awgrymu y gallant fod yn tarddu o’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, er ei bod yn debygol fod iddynt wreiddiau cynharach (ni chedwir unrhyw gyfundrefn caeau hyn amlwg ynddynt).
Islaw’r goedwig, mae llawr y dyffryn yn gul iawn ac yn wastad mewn rhai mannau (mae ambell ddarn yn gorsiog), ac uwchlaw’r rhain mae’r dirwedd yn newid a gwelir ucheldiroedd garw ardaloedd 26 a 16. Y ffermydd a’r tai cerrig sylweddol yw prif nodweddion eraill y dyffryn, a waliau sychion yw’r ychydig derfynau caeau (nid oes ond ardaloedd cyfyngedig y gellid eu disgrifio fel caeau, tuag at y pen deheuol).
