Cefndir Hanesyddol
Ychydig o gymeriad hanesyddol sydd i’r ardal fawr hon. Golyga ei natur waelodol greigiog mai tir anial ydoedd yn wreiddiol, ac na chafodd ei wella. Er bod yno ddwy fferm ucheldirol, mae’r rhain yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae’n debyg eu bod yn perthyn i’r un cyfnod â waliau’r caeau. Gorchuddir ochr ddwyreiniol yr ardal â choedwig bîn a blannwyd yn yr 20fed ganrif, er bod peth coetir hynafol (Coed Cae-yn-y-coed) ar y llethrau gogleddol uwchlaw’r Dwyryd ac i mewn i Geunant Llenyrch. Cronfa ddwr o’r 20fed ganrif, yng nghanol yr ardal, yw Llyn Tecwyn Uchaf.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Waliau sychion, coedwig, cronfa ddwr
Mae’r ardal bron wedi’i rhannu’n ddwy yn ôl yr arferion cyfredol wrth ddefnyddio’r tir, er bod y ddaeareg sy’n sail i hyn (a’r nodweddion coedwigol hanesyddol cyn 20fed ganrif) yn golygu bod modd ei thrin fel un darn. Mae’r rhan orllewinol yn dal i fod yn agored, a gellir gweld y tir mynyddig creigiog â nifer o waliau sychion syth (sy’n dyddio o’r 19eg ganrif) yn ei groesi. Mae dwy fferm fach ucheldirol yma hefyd (gweler y ffotograff). Ni chafodd yr ardal ei gwella’n amaethyddol o gwbl (nid oes yno ddigon o bridd, p’run bynnag), er bod nifer o gorlannau’n dangos bod anifeiliaid yn dal i bori yno. Mae yma gronfa ddwˆr fawr artiffisial sydd wedi’i chysylltu â’r cyflenwad dwr domestig.
Mae coedwig o’r 20fed ganrif yn gorchuddio rhan ddwyreiniol yr ardal (plannwyd y coed yn y 1950au mae’n debyg), ac o dani pery’r waliau sychion. Mae’n amgylchynu ardal o goetir lled-naturiol sy’n gorchuddio llethr serth y bryn sy’n wynebu’r gogledd uwchlaw’r Dwyryd. Ar wahân i’r goedwig hon, ychydig o ddiddordeb hanesyddol sydd yma.