Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Gan Richard Vaughan yr adeiladwyd y ty presennol ym 1576 a’r porthdy ym 1639; cafodd y ty ei ehangu’n sylweddol wedi hynny, ond mae’r bloc gwreiddiol wedi’i gadw mewn cyflwr da. Ceir nifer o dai allan yn dyddio o wahanol gyfnodau, er bod eraill wedi’u dymchwel, a ffermdy cyfagos sy’n cynrychioli stad fechan hunangynhwysol. Mae’r tir agored ychydig uwchlaw’r ty yn cynnwys siambr gladdu a llawer anheddiad a lôn gynhanesyddol, sy’n dangos bod nifer dda o bobl wedi anheddu yn yr ardal ers milenia.

Trosglwyddwyd Cors-y-gedol i’r teulu Mostyn trwy briodas ar ddiwedd y 19eg ganrif, a gwerthwyd ef maes o law ym 1858 i’r teulu Corbett. Arweiniodd eu dull moethus o fyw at ddyblu maint y ty ac at ychwanegu neuadd ddawns, ac o’r cyfnod hwn y dyddia’r tirlunio a oroesodd yn yr ardd. Gwerthwyd ef ddwywaith tua throad y ganrif, gan ddod yn ysgol i ddechrau ac yna’n hostel. Prynwyd ef gan y perchnogion presennol ym 1951. Mae map stad o 1764 yn dangos cynllun ffurfiol, y gwreiddiol o bosibl, yn fanwl, ond ychydig yn unig o hyn sy’n goroesi, er bod rhai elfennau wedi para.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ty o’r 16eg ganrif, coetir hynafol ac olion gardd gynnar wedi’i gorchuddio gan ddatblygiadau diweddarach.

Mae’n debyg bod yr ardd lysiau yng nghefn y ty ar safle’r ardd gyntaf, er y gwelodd lawer o newidiadau ers hynny, ac mae’r cyforlwybr ar hyd un ochr yn gymharol fodern. Mae’n bosibl mai lawnt fowlio oedd y lloc cul y tu allan i’r ardd ar yr ochr arall.

Mae’n bosibl mai lawnt fowlio oedd y lloc cul y tu allan i’r ardd ar yr ochr arall. Ychydig sydd wedi para o’r llwybrau a’r planhigfeydd ffurfiol a welir ar fap y stad o’r 18fed ganrif, ond mae llawer o’r coetir yn hynafol, ac wedi osgoi cael eu gorchuddio â rhesi di-dor o gonwydd. Mae nodweddion addurnol i’r ardd, gan gynnwys pyllau ac olion twr ffoli wedi goroesi o’r 19eg ganrif; mae rhai ohonynt yn newydd sbon, ond addasiadau o nodweddion hyn yw eraill.

Mae’r tai allan (golchdy, bwthyn y ciper, stablau ac ati) sy’n dyddio o wahanol gyfnodau, ynghyd ag elfennau ffurfiol megis y porthdy a phileri’r gât, yn cyfuno i gynnal awyrgylch stad fechan hunangynhwysol.

16th-century house, ancient woodland and remains of early garden overlain by later developments